Mae deunyddiau llafnau crisial sengl wedi cael eu defnyddio'n helaeth at ddibenion gwasanaethau tymheredd uchel megis aerffoiliau a llafnau sefydlog yn y tyrbin nwy oherwydd cyfuniad ffafriol o briodweddau mecanyddol, gan gynnwys ymddygiad trawiadol ar dymheredd uchel o ran lludded, ymgripiad a’r amgylchedd. Gan nad oes ffiniau rhwng gronynnau mewnol mewn crisialau sengl, mae tymheredd CMSX-4, y deunydd dewisol at lawer o ddibenion tyrbinau gwasgedd uchel, yn amrywio'n sylweddol mewn gwasanaeth. O ganlyniad, mae'n destun lludded thermofecanyddol (TMF) yn aml. Felly, mae prosiectau ymchwil mwy diweddar wedi ceisio ymchwilio i ymddygiad TMF yn yr aloi, gan ymchwilio'n benodol i fethodolegau modelu, effaith ongl cydwedd ac effaith tymheredd cylch brig fel rhan o brosiect MALIT (Gwella Deunyddiau a Modelu mewn Tyrbinau) a ariennir gan Innovate UK. Mae'n arddangos priodweddau mecanyddol anisotropig, yn y patrymau llwytho elastig a phlastig.
Mae rhaglenni hanesyddol yn Abertawe hefyd wedi canolbwyntio ar effeithiau oddi ar yr echelin ac ymddygiad lludded sawl echelin CMSX-4 ochr yn ochr ag asesu effaith mandylledd castin mewnol ar oes lludded ar dymereddau niferus.
Smith, R., Lancaster, R., Jones, J., a Mason-Flucke, J. (2019). Lifing the Effects of Crystallographic Orientation on the Thermo-Mechanical Fatigue Behaviour of a Single-Crystal Superalloy. Materials, 12(6), 998.
Lancaster, R. a Jeffs, S. (2015). Creep lifting methodologies applied to a single crystal superalloy by use of small scale test techniques. Materials Science and Engineering: A, 636, 529-535.
Lancaster, R. a Jeffs, S. (2015). Elevated Temperature Creep Deformation of a Single Crystal Superalloy through the Small Punch Creep Method. Materials Science & Engineering A, 626, 330-337.