TROSOLWG O'R GRŴP
Mae Grŵp Ymchwil Peirianneg Gemegol a Biolegol (CBERG) yn dod â thîm o ymchwilwyr amlddisgyblaethol at ei gilydd i weithio wrth ryngwyneb peirianneg gemegol a'r gwyddorau bywyd. Mae gan y tîm amrywiaeth eang o brofiad ac mae'n canolbwyntio ar brosesu, nodweddu, uwchraddio, ehangu ac optimeiddio systemau cemegol a biolegol. Mae CBERG yn canolbwyntio'n benodol ar ymgysylltu â diwydiant ac mae gan y tîm hanes hir o gyfrannu at ddiwydiant drwy brosiectau cydweithredol, interniaethau, lleoliadau gwaith myfyrwyr, ymgynghoriaeth a chwmnïau deillio.