Cyngor personol gan rywun a gafodd ei le Economeg drwy Glirio

Awdur: Hrisha Ramjee, myfyriwr BSc mewn Economeg a Chyllid gyda Blywddyn Dramor

Fy Mhrofiad Clirio

Ces i brofiad cadarnhaol iawn gyda Phrifysgol Abertawe. Roedd yr aelod o staff siaradais i ag ef yn gymwynasgar ac yn gwrtais iawn. Roeddwn i wedi gallu astudio'r cwrs roeddwn i am ei astudio ac roeddwn i'n fodlon â'r canlyniad. Pan gefais i’r  cynnig, gwnaeth y brifysgol yn siŵr bod gen i'r wybodaeth angenrheidiol i fynd rhagddo.

Hrisha Ramjee, myfyriwr BSc mewn Economeg a Chyllid gyda Blywddyn Dramor

Hrisha Ramjee, myfyriwr BSc mewn Economeg a Chyllid gyda Blywddyn Dramor

Pam Abertawe?

Un o'r prif resymau dewisais i Brifysgol Abertawe oedd y cwrs a oedd yn cael ei gynnig. Roeddwn i am astudio Economeg a Chyllid ac nid oedd y prifysgolion eraill roeddwn i wedi'u hystyried gyda chlirio yn cynnig Economeg a Chyllid gyda'i gilydd fel gradd. Yn ogystal, roedd Prifysgol Abertawe yn cynnig blwyddyn mewn diwydiant neu flwyddyn dramor. Roedd gen i ddiddordeb yn y llwybr blwyddyn mewn diwydiant oherwydd roeddwn i am gael profiad gwaith go iawn mewn cwmni am flwyddyn. Rwy'n mwynhau dawnsio ac wedi bod yn dawnsio ers i mi fod yn blentyn bach. Mae Prifysgol Abertawe'n cynnig amrywiaeth o glybiau a chymdeithasau, gan gynnwys y gymdeithas ddawns.

Gwelais i fod y Gymdeithas Ddawns yn cynnig amrywiaeth eang o arddulliau dawnsio a oedd o ddiddordeb i mi, ac roeddwn i am barhau â'r hobi hwn. Yn olaf, mae lleoliad y brifysgol yn un gwych oherwydd bod un o'r campysau ger y traeth ac mae'r llall mewn parc. Felly, mae'r olygfa'n hyfryd, yn enwedig yn ystod y gwanwyn a'r haf oherwydd gallwch chi fynd i nofio yn y môr neu gerdded yn y parc a mwynhau'r olygfa ogoneddus.

Fy Mhrofiad yn Abertawe

Mae fy mhrofiad ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn dda iawn ac yn gofiadwy iawn hyd yma. Mae'r darlithwyr wedi bod yn hynod gymwynasgar, yn enwedig gydag adborth a threfnu cyfarfodydd i esbonio ymhellach y cysyniadau nad oeddwn i'n eu deall pan oedd angen. Hefyd, mae gwasanaethau eraill a ddarparwyd gan y brifysgol, megis y tîm cyflogadwyedd neu hyb MyUni, wedi bod yn ddefnyddiol iawn pan oedd eu hangen arnaf.

Fy Nghyngor ar gyfer cyflwyno cais drwy Glirio

Rwy'n eich cynghori i ystyried cwrs yr hoffech chi ei astudio i weld a fyddwch chi'n ei fwynhau ym Mhrifysgol Abertawe yn seiliedig ar y modiwlau a gweld a oes opsiynau ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant neu dramor ar y cwrs, pe bai diddordeb gennych chi yn y llwybrau hynny. Rwyf hefyd yn eich cynghori i ystyried y ddinas gan ei bod hi'n hardd iawn, yn enwedig yn ystod yr haf a phan fydd yr haul yn tywynnu.

Mae'n hyfryd treulio amser ar y traeth ac mae'n hawdd cyrraedd yno o'r ddau gampws. Yn ogystal, defnyddiwch y cyfleoedd amrywiol a ddarperir gan y Brifysgol, megis bod yn gynrychiolydd myfyrwyr neu ysgol a llysgennad myfyrwyr. Mae llawer o gyfleoedd eraill i gael profiad gwaith a darganfod sgiliau newydd, a gwella sgiliau presennol.

Syniadau Da ar gyfer Clirio

Paratowch ar gyfer clirio o flaen llaw:

  • Gwnewch eich ymchwil ar brifysgolion sy'n mynd drwy'r broses glirio. Pan fyddwch chi'n dod o hyd i brifysgolion hoffech chi fynd iddynt, gwnewch ymchwil ar eu cyrsiau i weld beth maent yn ei gynnig.
  • Pan fyddwch chi wedi gwneud yr ymchwil hon, lluniwch restr neu daenlen o'r prifysgolion yr hoffech chi fynd iddynt drwy glirio. Ar y daenlen, ychwanegwch y cwrs a'r rhif ffôn er mwyn cysylltu â nhw ar ddiwrnod clirio ar gyfer pob prifysgol rydych chi wedi'i dewis.
  • Sicrhewch fod eich holl fanylion wrth law: eich manylion cyswllt, rhif clirio o UCAS, canlyniadau Safon Uwch, Safon UG a TGAU gyda'r marciau, datganiad personol, nodiadau am y cwrs a'r brifysgol, ysgrifennwch unrhyw gwestiynau y gall fod angen i chi eu gofyn a gwnewch nodiadau yn ystod yr alwad
  • Dewch o hyd i le lle na fydd neb yn tarfu arnoch a gwnewch y galwadau eich hun.