Mae'r prosiect allgymorth Cymru a'r Byd yn fenter feiddgar newydd sy'n ceisio cyfrannu at dirlun addysg a chelfyddydol Cymru drwy ysbrydoli creadigrwydd a llythrennedd diwylliannol.

Mae'r rhaglen hon yn gydweithrediad rhwng Adran Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol a Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe sy'n golygu gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau allanol i adfyfyrio ar etifeddiaeth ddiwylliannol Cymru mewn cyd-destun byd-eang, gan dynnu ar arbenigedd blaengar Prifysgol Abertawe mewn llenyddiaeth Saesneg o Gymru i gynnig amrywiaeth o adnoddau am ddim:

  • gweithdai ysgrifennu i ddysgwyr sy'n oedolion a'r cyhoedd
  • adnoddau addysgol i ddisgyblion ac athrawon
  • paneli a pherfformiadau ar themâu'r cwricwlwm
  • lle creadigol a sgyrsiau ar-lein i bawb

Rydym yn dathlu'r broses o gyfnewid syniadau, ac yn croesawu eich syniadau ar themâu'r rhaglen yn y dyfodol. Os hoffech chi gysylltu â ni, gallwch anfon e-bost atom yn walesandworld@abertawe.ac.uk

Cwrdd â'r Tîm:

Ffotograff o Kirsti Bohata

Mae Kirsti Bohata yn Athro Llenyddiaeth Saesneg ac yn Gyd-gyfarwyddwr CREW, sef y Ganolfan Ymchwil i Lenyddiaeth ac Iaith Saesneg yng Nghymru ym Mhrifysgol Abertawe. Ar hyn o bryd, mae hi'n gweithio ar lenyddiaeth LGBT o Gymru ac yn ddiweddar, cyhoeddodd Disability in Industrial Britain: A cultural and literary history of impairment in the coal industry, 1880–1948 (Manchester University Press, 2020)

Ffotograff o Dr Eoin Price

Mae Dr Eoin Price yn Uwch-ddarlithydd yn Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n arbenigo yng ngwaith Shakespeare a drama'r 16eg ac 17eg ganrif. Ar y cyd â'r Athro Farah Karim-Cooper (Shakespeare's Globe), mae'n gyd-olygydd rhifyn arbennig o Shakespeare ar hil a'r genedl a ddeilliodd o Gynhadledd Cymdeithas Shakespeare a drefnodd yn Abertawe yn 2019.

Ffotograff o Dr Elaine Canning

Mae Dr Elaine Canning yn Bennaeth Ymgysylltu a Datblygu Diwylliannol yn Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe ac yn Swyddog Gweithredol ac yn Gyfarwyddwr Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas Prifysgol Abertawe. Mae ei rolau allanol yn cynnwys aelodaeth o Bwyllgor Ymgynghorol British Council Cymru yn ogystal â chydweithio â Gŵyl Llenyddiaeth Jaipur yn yr India.

Ffotograff o Ashish Dwivedi

Mae Ashish Dwivedi yn fardd o India sy'n dilyn M.Phil. mewn Llenyddiaeth Saesneg ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n olygydd 'Llenyddiaeth' ac 'Ysgrifennu Creadigol' Waterfront, Prifysgol Abertawe, ac mae ganddo ddiddordeb unigryw mewn Astudiaethau Cartwnau ac Wtopia, Barddoniaeth Drasig ac Hybrid ac Estheteg Llwyfan Indiaidd.

Ffotograff o Dr Kamand Kojouri

Mae Dr Kamand Kojouri wedi cyhoeddi dau lyfr am farddoniaeth, sef: God, Does Humanity Exist? (2020) a The Eternal Dance (2018). Cwblhaodd MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Dinas Llundain, PhD ym Mhrifysgol Abertawe ac ar hyn o bryd, mae hi'n ysgrifennu nofel hanesyddol ffeministaidd sy'n archwilio colled, cyfranogaeth a thawelwch yn hanes.

Ffotograff o Sophie Apps

Mae Sophie Apps yn fyfyrwraig Llenyddiaeth Saesneg yn ei hail flwyddyn ym Mhrifysgol Abertawe ac mae'n gobeithio astudio MA yn ei phwnc. Mae'n dyheu am fod yr Emily Dickinson nesaf, ac mae ganddi ei blog ei hun o'r enw 'Poetry | Filming Poetry'. Yn ei hamser rhydd, mae'n ysgrifennu i bapur newydd myfyrwyr Prifysgol Abertawe, The Waterfront, Spiela ac ar hyn o bryd, mae'n gweithio ar brosiect 'Ffilmio Barddoniaeth' sy'n dod â'r geiriau'n fyw.