Cynnig amser cyfyngedig i fyfyrwyr newydd 

Mwynhewch lety fforddiadwy ar Gampws y Bae gyda phrisiau is arbennig ar gyfer ystafelloedd en-suite canolig, sy'n arbed dros £25 yr wythnos i chi.

Mae argaeledd yn gyfyngedig, peidiwch ag oedi! Eisoes wedi gwneud cais? Gallwch chi ddiweddaru eich cais yn rhwydd heb effeithio ar eich dyddiad cyflwyno gwreiddiol.

Gwnewch gais i sicrhau eich ystafell

 

Arhoswch lle mae'r Diddanwch

Pryderu am golli allan? Mae byw yn llety'r brifysgol yn eich rhoi wrth wraidd bywyd campws, gan ei gwneud hi'n hawdd ymuno â digwyddiadau, cwrdd â phobl newydd a chreu atgofion bythgofiadwy. Cadwch mewn cysylltiad, aros yn gymdeithasol a pheidio â cholli dim - oherwydd bod y profiadau gorau'n digwydd pan fyddwch chi yn y lle cywir! 

 
Mae dechrau yn y brifysgol yn gyffrous, ac rydym yma i wneud eich symudiad yn un hwylus. Mae ein llety diogel a chroesawgar yn cynnig y lle perffaith i ymlacio ac ymgartrefu.

Dewch o Hyd i'r Llety Perffaith

Rydym yn cynnig opsiynau ar gyfer myfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf, ôl-raddedig a chyfnewid.  Dylech wneud cais cyn gynted â phosib - bydd cynigion yn cael eu hanfon ar ôl i chi gadarnhau eich lle. 

Camau Nesaf

Dewiswch yr opsiwn sy'n eich disgrifio chi orau a dechreuwch y broses o ddod o hyd i'r cartref myfyrwyr. Os ydych eisoes wedi gwneud eich penderfyniad, gallwch gael gwybodaeth am sut i wneud cais am lety neu ddysgu mwy am gyrraedd a beth i ddod gyda chi.

 

Gwybodaeth am ein llety

Gyda mynediad uniongyrchol i'r parciau, traethau a chyfleusterau chwaraeon gwych, wrth astudio ym Mhrifysgol Abertawe bydd gennych ystod o opsiynau llety ar draws y ddau gampws, yn ogystal ag oddi ar y campws ac mewn llety yn y sector preifat. Bydd gennym rywbeth at ddant pawb. Darllenwch ymlaen i weld pam gall llety'r brifysgol fod yn ddelfrydol i chi.

Rydym yn ymrwymedig i alluogi mynediad i'r holl fyfyrwyr, felly rydym yn cynnig nifer o ystafelloedd wedi'u haddasu a hygyrch, nodwch ar eich cais os oes angen ystafell hygyrch arnoch a byddwn yn eich cefnogi gyda hyn drwy’r broses ddyraniadau.

Rydym hefyd yn cynnig ystod o ardaloedd llety dynodedig i fyfyrwyr sydd â dewisiadau neu ofynion penodol, gan gynnwys llety ar gyfer myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg, llety tawelach, ardaloedd myfyrwyr o'r un rhyw, ardaloedd myfyrwyr aeddfed, preswylfeydd dim alcohol a phreswylfeydd i fyfyrwyr sy'n astudio pynciau nad yw eu cyrsiau o'r hyd arferol Byddwn bob amser yn ceisio diwallu anghenion myfyrwyr â'r dewisiadau hyn lle bo'n bosib. Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi eich anghenion ar eich cais neu trafodwch opsiynau gyda’n tîm llety wrth wneud cais.