Gwasanaethau i fyfyrwyr gydag anableddau, cyflwr meddygol neu unrhyw anghenion eraill
Ein nod yw sicrhau bod ein gwasanaethau llyfrgell yn gynhwysol i bawb, ond sylweddolwn fod rhai myfyrwyr yn elwa o gyfleusterau penodol y gallwn eu cynnig yn ôl yr angen. Gellir cynnig y gwasanaethau a’r cyfleusterau a fanylir arnynt isod i fyfyrwyr sydd ag anghenion neilltuol a adnabuwyd yn dilyn asesiad gan y Gwasanaeth Lles ac Anabledd. Cysylltwch â'r Gwasanaeth Lles ac Anabledd os credwch y gallech chi elwa o un o’r opsiynau isod.
Fformatau gwahanol
Os oes gennych anabledd print (gwybyddol neu gorfforol), efallai bod gennych hawl i gael mynediad at lyfrau, nodiadau darlithoedd a deunyddiau eraill mewn fformat gwahanol. Er enghraifft, efallai y rhoir copi PDF o lyfr i chi os oes gennych anabledd sy'n eich atal rhag trin copi print, neu os oes gennych anhawster dysgu penodol sy'n golygu y byddech yn elwa o allu ddefnyddio meddalwedd darllen sgrin gyda'r testun. Darperir fformatau gwahanol gan y Ganolfan Drawsgrifio, ond y Gwasanaeth Lles ac Anabledd sy'n awdurdodi'r gwasanaeth. Cysylltwch â'r Gwasanaeth Lles ac Anabledd os credwch y byddech yn elwa o'r gwasanaeth hwn.
Mae gan bob cyfrifiadur mynediad agored ar gampws amrediad o offer technoleg gynorthwyol, gan gynnwys meddalwedd testun-i-lais, efallai bydd o gymorth hefyd.
Cyfarpar arbenigol i'w benthyca
Gallwch fenthyg y cyfarpar canlynol o'r Ddesg Wybodaeth yn y Llyfrgell. Os nad yw’r darn o gyfarpar y mae ei angen arnoch ar gael yn y llyfrgell ar eich campws chi, gall staff drefnu iddo gael ei drosglwyddo i chi.
- Recordwyr Llais Digidol
- Dolenni clyw is-goch
- Benthyciadau gliniaduron am gyfnod estynedig
Bydd angen eich cerdyn adnabod y brifysgol a ffurflen wedi’i chwblhau gan y Gwasanaeth Lles ac Anabledd arnoch i fenthyg unrhyw ddarnau o gyfarpar o'r rhestr uchod, a bydd yn rhaid i chi gwblhau Cytundeb Benthyg Cyfarpar.
Defnyddio ystafelloedd adnoddau nam ar y golwg
Mae man astudio benodedig ar gael ar Lefel 3 Llyfrgell Parc Singleton lle gall myfyrwyr â nam ar eu golwg a'u cynorthwywyr weithio. Mae gan yr ystafell cyfarpar arbenigol ar gyfer myfyrwyr penodol, a rhaid bod cardiau adnabod y myfyrwyr wedi'u rhaglenni i alluogi mynediad i'r ystafell. Os oes gennych chi angen wedi nodi i gael mynediad i'r ystafell, bydd staff yn y Ganolfan Trawsgrifio yn trefnu i roi mynediad ar eich cerdyn.
Yn Llyfrgell y Bae, mae man astudio benodedig ar gyfer myfyrwyr â nam ar eu golwg yn yr Ystafell Astudio Ôl-raddedig yn Adain y De. Rhaid bod cerdyn y myfyrwyr wedi'i raglennu i alluogi mynediad i'r ystafell. Ewch i Ddesg Wybodaeth Llyfrgell y Bae i wneud hyn.
Loceri
Mae loceri ar gael i fyfyrwyr sydd wedi nodi angen yn eu hasesiad. Mae loceri wedi'u leoli ger y ciosgau hunan-fenthyca yn agos i'r Ddesg Croeso yn Llyfrgell Parc Singleton, a ger y fynedfa i Adain y De yn Llyfrgell y Bae. Ewch i'r Ddesg Wybodaeth yn Llyfrgell Parc Singleton neu Lyfrgell y Bae gyda'r ffurflen o'r Gwasanaeth Lles ac Anabledd er mwyn neilltuo locer ar eich cyfer.
Aelodaeth o'r Llyfrgell i gynorthwywyr
Gall cynorthwywyr gael cyfleusterau benthyca eu hunain yn y Llyfrgell. Ewch i'r Ddesg Wybodaeth yn Llyfrgell Parc Singleton neu Lyfrgell y Bae i drefnu hyn.