Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r MA mewn Hanes ym Mhrifysgol Abertawe'n eich galluogi i archwilio amrywiaeth gyfoethog o gyfnodau hanesyddol, o'r Oesoedd Canol i ddiwedd yr ugeinfed ganrif. Mae'n cwmpasu themâu mor amrywiol â hanes celf, diwylliant, ymerodraeth, rhyfela, cymdeithas, treftadaeth a hunaniaeth.
Mae'r rhaglen hon yn berffaith i chi os oes gennych ddiddordeb yn y cyfnod modern cynnar (tua 1500-1800) a'r cyfnod modern (tua 1800-y presennol). Mae'n archwilio dyfodiad modernedd a'i nodweddion (trefoli, cyfalafiaeth, biwrocratiaeth, diwydiant, gwyddoniaeth, technoleg, etc.).
Byddwch chi'n elwa o arbenigedd haneswyr blaenllaw ym Mhrifysgol Abertawe, y mae eu hymchwil yn cwmpasu hanes canoloesol, hanes modern cynnar a hanes modern. Mae arbenigeddau staff yn cynnwys hanes Cymru, Prydain, Ewrop a hanes byd-eang, hanes economaidd a diwydiannol, agweddau ar hunaniaeth a chenedligrwydd, imperialaeth, meddygaeth, gwleidyddiaeth, rhywioldeb a chwaraeon.
Bydd ein rhaglen MA mewn Hanes yn addas i fyfyrwyr sy'n awyddus i ddatblygu eu sgiliau ymchwil, dadansoddi a chyflwyno ymhellach ar gyfer gyrfa yn y sector cyhoeddus neu'r sector preifat. Mae hefyd yn baratoad ardderchog ar gyfer y rhai hynny sy'n gobeithio ymgymryd ag astudiaethau doethurol.