Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r MA mewn Cyfieithu Proffesiynol (MAPT) yn eich datblygu chi o fod yn siaradwr iaith dramor ardderchog i fod yn ieithydd proffesiynol llwyddiannus.
Mae MAPT ('Cyfieithu gyda Thechnoleg Iaith' gynt) yn rhan o Rwydwaith Meistr Cyfieithu Ewrop, sydd â 64 aelod ar draws Ewrop. Prifysgol Abertawe yw'r unig aelod yng Nghymru.
Bydd eich astudiaethau cyfieithu uwch yn canolbwyntio ar fathau cyffredinol, gweinyddol a thechnegol o destun, a hyfforddiant ar adnoddau cyfieithu â chymorth cyfrifiadur sy'n cyrraedd safon y diwydiant.
Mae rhan gyntaf y radd yn cynnwys y cyfle i ddatblygu sgiliau arbenigol mewn cyfieithu ar y pryd mewn gwasanaethau cyhoeddus, cyfieithu clywedol, cyfieithu peirianyddol a lleoli meddalwedd, rheoli terminoleg, creu fideo neu gyhoeddi digidol.
Yn y modiwl profiad gwaith ym maes cyfieithu byddwch yn dynwared cwmnïau cyfieithu drwy weithio gyda busnesau cyfieithu lleol a chyflawni gwaith comisiynu go iawn i safonau proffesiynol.
Yn ail ran y radd cyfunir sgiliau gwahanol, gan gynnig dewis o ddau gyfieithiad estynedig, neu draethawd hir academaidd, neu interniaeth 13 wythnos gyda chwmni cyfieithu yn y DU neu dramor.
Parau iaith (yn amodol ar alw):
- Almaeneg > Saesneg
- Saesneg > Almaeneg
- Ffrangeg > Saesneg
- Saesneg > Ffrangeg
- Eidaleg > Saesneg
- Saesneg > Eidaleg
- Sbaeneg > Saesneg
- Saesneg > Sbaeneg
- Cymraeg > Saesneg
- Saesneg > Cymraeg
- Saesneg > Arabeg
- Saesneg > Mandarin