Addysg, MA / PGDip / PGCert

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
myfrwyr

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r dirwedd addysgol yn fyd-eang yn newid yn gyflym gyda pholisïau newydd ac anghenion dysgwyr sy'n datblygu yn dylanwadu ar y sgiliau sydd eu hangen ar athrawon heddiw. Mae amgylchedd yr ystafell ddosbarth yr un mor ddeinamig, ac mae addysgu effeithiol bellach yn galw am gymysgedd soffistigedig o sgiliau, barn ac ymarfer myfyriol i arwain a hwyluso dysgu.

Mae ein MA mewn Addysg yn eich galluogi i archwilio'r cysylltiadau rhwng polisi ac addysgu, archwilio'r athroniaethau sy'n sail i addysg, a chryfhau eich ymarfer proffesiynol eich hun.

Mae ein rhaglen yn hyblyg ac yn eich cefnogi ar unrhyw gam o'ch gyrfa, gan eich helpu i ddatblygu eich arbenigedd a dilyn eich diddordebau.

Fel myfyriwr byddwch chi'n dysgu sut i ymgymryd ag ymchwil addysgol a'i defnyddio, myfyrio ar eich gwybodaeth a'ch arbenigedd eich hun mewn addysg, a chyfrannu at wella ymarfer ar draws y sector.

Pam Addysg yn Abertawe?

Gan astudio yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, ar gampws trawiadol Parc Singleton, byddwch yn ymuno â rhaglen a gynlluniwyd i hyrwyddo gweithgarwch ymchwil unigol a chydweithredol o safon ryngwladol.

Mae'r rhaglen yn amlddisgyblaethol, gan adlewyrchu natur y maes addysg. Mae'r modiwlau sydd ar gael yn tynnu ar athroniaethau addysg, theori feirniadol, cymdeithaseg a seicoleg, yn ogystal ag addysgu. Mae'r rhaglen yn hyblyg i ganiatáu i ymarferwyr addysg ddatblygu eu cymhwysedd a'u diddordebau proffesiynol mewn addysg, yn ogystal â galluogi graddedigion o amrywiaeth o ddisgyblaethau i symud ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig.

Bydd y rhaglen hon yn darparu cyfleoedd i chi wella eich gwybodaeth, eich sgiliau, eich profiad a’ch ymddygiad proffesiynol, gan roi hwb i’ch gyrfa ym myd addysg.

Eich Profiad Addysg

Fel myfyriwr, byddwch yn archwilio'r prif heriau, y materion cyfoes a'r ymchwil ddiweddaraf mewn addysg, gan ddatblygu gwybodaeth a sgiliau allweddol ym meysydd datblygu'r cwricwlwm, addysgu, dysgu ac asesu, ac yn cynnal ymchwil addysgol yn eich maes profiad neu’ch arbenigedd eich hun.

Mae ein maes llafur hefyd yn archwilio dadleuon rhyngwladol, gan dynnu ar ymchwil academaidd a'ch arbenigedd proffesiynol eich hun yn y materion mae addysg yn eu hwynebu’n fyd-eang. Mae gan ein rhaglen ffocws proffesiynol, ond nid oes angen i ymgeiswyr fod mewn swydd addysgu. Mae'r rhaglen yn hyblyg er mwyn bod ar gael i'r rhai hynny sydd mewn cyflogaeth amser llawn ond mae hefyd yn cynnig opsiwn amser llawn i'r rhai sy'n gallu ymrwymo i gyfnod mwy dwys o astudio.

Cyfleoedd Cyflogaeth Addysg

Os ydych chi'n gweithio fel athro, darlithydd, arweinydd addysgol, rheolwr, neu'n dyheu am yrfa ym myd addysg, bydd ein gradd yn rhoi gwybodaeth i chi am y tueddiadau diweddaraf ac ymchwil flaenllaw, a sut mae'r rhain yn effeithio ar bolisi ac ymarfer.

Nid oes angen i fyfyrwyr feddu ar brofiad proffesiynol mewn lleoliadau addysgol; mae ein rhaglen wedi'i chynllunio i'ch helpu i ddatblygu sgiliau cryf a throsglwyddadwy ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol. Byddwch yn meithrin y sgiliau hyn drwy’r Priodoleddau Graddedigion sydd wedi’u hymgorffori drwy gydol y rhaglen, drwy gymryd rhan yn nigwyddiadau cyflogadwyedd yr Ysgol a’r Gyfadran, a thrwy gyfleoedd i glywed gan siaradwyr gwadd sy’n dod â chraffter gwerthfawr o ymarfer proffesiynol.

Nid yw ein rhaglen yn cynnwys cydran lleoliad ffurfiol. Fodd bynnag, mae gennym bartneriaethau cryf ag ysgolion ledled de-orllewin Cymru ac rydym yn cynnig ystod o raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA). Mae hyn yn golygu ein bod mewn sefyllfa dda i gynnig arweiniad a chefnogaeth i raddedigion MA mewn Addysg sy'n dymuno parhau â hyfforddiant pellach a gweithio tuag at yrfa addysgu.

Bydd graddedigion ein rhaglen wedi'u paratoi'n dda i symud i ystod eang o rolau proffesiynol, gan gynnwys:

  • Ymchwil neu astudiaethau academaidd pellach ym myd addysg a'r gwyddorau cymdeithasol ehangach
  • Dysgu proffesiynol ar gyfer ymarferwyr addysg, gan arwain at yrfa well
  • Y sector addysg (ysgolion, awdurdodau lleol, colegau neu brifysgolion)
  • Gwaith polisi ac ymgynghori gyda llywodraeth leol a  chenedlaethol
  • Addysg a gwaith allgymorth mewn sefydliadau cyhoeddus a'r trydydd sector
  • Ymchwil a datblygu

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.