Trosolwg o'r Cwrs
Nod y rhaglen TAR Cynradd gyda statws athro cymwysedig (SAC) yw rhoi profiad dysgu i chi ar draws yr ystod oedran 3-11, gan roi i chi'r gallu i addysgu drwy gydol y camau cynnydd hyn yn y cwricwlwm cynradd presennol.
Cynigir y rhaglen drwy Bartneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe (SUSP); rhwydwaith addysg athrawon cydweithredol sy'n dod â Phrifysgol Abertawe, ei hysgolion partner a darparwyr addysg eraill ynghyd. Rydym yn tynnu ar yr arbenigedd hwn i gyfuno rhagoriaeth academaidd â phrofiad ymarferol, er mwyn eich paratoi i ennill SAC.
Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda'n hysgolion partner i deilwra lleoliadau gwaith i'ch anghenion, gan flaenoriaethu eich lles drwy gymorth mentor, clinigau a Diwrnodau Ymarfer a Theori sy'n canolbwyntio ar feysydd megis amrywiaeth, cynaliadwyedd a dysgu yn yr awyr agored.
Mae'r rhaglen yn cynnwys 60 niwrnod o fewnbwn gan y Brifysgol a 120 o ddiwrnodau lleoliad ysgol mewn dwy ysgol. Bydd staff ysgolion a'r Brifysgol yn cydweithio i'ch cefnogi chi, fel athro dan hyfforddiant, i symud ymlaen i gwblhau'r cwrs yn llwyddiannus a chyflawni SAC.
Fel rhan o'r radd, byddwch yn creu portffolio electronig o dystiolaeth, a elwir yn Basport Dysgu Proffesiynol, a fydd yn nodi eich cynnydd a'ch gallu yn erbyn pob un o'r Safonau Dysgu ac Arweinyddiaeth Proffesiynol. Bydd cyflwyno tystiolaeth lwyddiannus o fodloni'r holl Safonau, ynghyd â chwblhau asesiadau Lefel 7 yn llwyddiannus, yn arwain at gyflwyno argymhelliad i Gyngor y Gweithlu Addysg y dyfernir SAC i chi. Byddwch dim ond yn gallu ymarfer fel athro ar ôl i'ch SAC gael ei gadarnhau gan Gyngor y Gweithlu Addysg.
Yr hyn sy'n gwneud y rhaglen hon yn unigryw yw ar ôl cael profiad ar leoliadau dysgu sy’n cwmpasu’r cyfnod oedran cynradd cyfan, gallwch ddewis arbenigo mewn cyd-destunau Anghenion Dysgu Ychwanegol neu Bob Oedran (3-18), gan ehangu'ch gwybodaeth a'ch profiad ymhellach.