Astudiaethau Plentyndod, MA / PGDip / PGCert

Datblygwch eich gyrfa yn geithio gyda phlant a theuluoedd

childhood studies

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein MA mewn Astudiaethau Plentyndod ym Mhrifysgol Abertawe yn cynnig archwiliad rhyngddisgyblaethol o blentyndod mewn cymdeithas gyfoes. Bydd y rhaglen yn sicrhau bod gennych chi'r wybodaeth a'r sgiliau beirniadol sydd eu hangen arnoch i gefnogi plant a theuluoedd ar draws ystod o sefyllfaoedd amrywiol.

Drwy gyfuniad o theori, polisi ac ymarfer, byddwch chi'n archwilio datblygiad ac iechyd plant, hawliau plant, a'r cyd-destunau cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol sy'n llunio plentyndod.

Mae'r rhaglen lefel meistr hon yn meithrin ymarfer myfyriol a sgiliau ymchwil, gan eich paratoi ar gyfer rolau mewn gwasanaethau plant, gan gynnwys addysg, gofal cymdeithasol a pholisi. Gydag opsiynau dysgu hyblyg a sylfaen ymchwil gref, mae'n cefnogi datblygiad proffesiynol a chynnydd academaidd.

Pam Astudiaethau Plentyndod yn Abertawe?

Mae'r rhaglen yn seiliedig ar athroniaeth sy'n canolbwyntio ar blant ac sy'n seiliedig ar hawliau sy'n eich gwerthfawrogi chi fel cyfranogwr rhagweithiol yn eich dysgu eich hun. Mae'n hyrwyddo cyfranogiad beirniadol â safbwyntiau byd-eang a lleol ar blentyndod, gan sicrhau eich bod chi'n gallu deall sut mae cyd-destunau diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd yn llunio profiadau plant.

Byddwch yn cael eich annog i herio naratifau dominyddol, cwestiynu anghydraddoldebau strwythurol a myfyrio ar eich safleoldeb eich hun wrth astudio plentyndod. Mae dulliau addysgu gwrth-hiliol a chynhwysol wedi'u gwreiddio drwy gydol y rhaglen, gan feithrin amgylchedd lle mae lleisiau a phrofiadau amrywiol yn cael eu gwerthfawrogi. Bydd y modiwlau y byddwch chi'n eu hastudio yn integreiddio ysgolheictod a fframweithiau polisi rhyngwladol, gan gynnwys Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC), er mwyn sicrhau bod eich dysgu'n berthnasol ar draws amrywiaeth o sefyllfaoedd a chyd-destunau.

Mae ein cwricwlwm hefyd yn meithrin safbwynt rhyngddisgyblaethol, gan ddefnyddio pynciau cymdeithaseg, seicoleg, addysg, iechyd a pholisi cymdeithasol i archwilio materion cymhleth megis hawliau plant, cyfiawnder cymdeithasol a'r argyfwng hinsawdd.

Byddwch chi'n archwilio'n feirniadol sut mae newid yn yr hinsawdd a dirywio amgylcheddol yn croestorri â phlentyndod, iechyd a chyfiawnder cymdeithasol, gan archwilio'r effaith anghymesur ar gymunedau difreintiedig, a chan gysylltu'r materion hyn â Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig a fframweithiau polisi'r DU.

Byddwch chi'n elwa o fod yn rhan o amgylchedd addysgu ac ymchwil amrywiol, gyda llawer o gyfleoedd i wneud cysylltiadau ar draws disgyblaethau. Mae gennym gysylltiadau cryf ag amrywiaeth o rwydweithiau ymchwil ac adrannau tebyg mewn prifysgolion ledled Ewrop a'r byd, gan sicrhau bod eich dysgu wedi'i lywio gan y datblygiadau polisi ac ymarfer diweddaraf.

Eich profiad Astudiaethau Plentyndod

Byddwch yn cwblhau 180 o gredydau o fodiwlau; sy'n cynnwys 5 modiwl 20 credyd gorfodol, un modiwl 20 credyd dewisol, a thraethawd hir 60 credyd gorfodol. Gall themâu astudio gynnwys hawliau plant rhyngwladol, datblygiad plant, anghenion dysgu ychwanegol a chynwysoldeb, a gwaith therapiwtig gyda phlant. Bydd yr elfen traethawd hir yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiect ymchwil wedi'i oruchwylio ar bwnc unigryw sy'n cwmpasu themâu plentyndod, chwarae neu addysg, gan wella eich sgiliau ymchwil arbenigol.

Byddwch chi'n cymryd rhan mewn dysgu cydweithredol, dadansoddi ar sail achosion, ac asesiadau dilys sy'n adlewyrchu ymarfer proffesiynol. Yn ogystal â datblygu sgiliau dadansoddi a myfyrio uwch, mae'r ymagwedd hon hefyd yn sicrhau eich bod chi'n medru eirioli dros degwch a chynaliadwyedd mewn sector sy'n ymwneud â phlant.

Mae ein staff academaidd yn weithgar mewn ystod eang o feysydd ymchwil, gan gynnig cymysgedd heb ei ail o ragoriaeth academaidd ac arbenigedd polisi ac ymarfer cyfredol.

Mae'r rhaglen hon wedi'i llunio ar sylfaen gref o arferion dysgu ac addysgu cynhwysol, gan sicrhau bod yr holl fyfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu, yn cael eu cefnogi ac yn gallu ffynnu. Mae'r rhaglen wedi’i seilio ar wybodaeth o ran hawliau, a chaiff ei haddysgu gan academyddion sy'n hyrwyddo ymagwedd sy'n parchu hawliau mewn ffordd ragweithiol.

Mae strwythur yr amserlen yn cynnwys dau ddiwrnod yr wythnos. Mae'r ymagwedd hon yn galluogi'r rhai hynny sydd â chyfrifoldebau gofalu neu swydd ran-amser i ymuno â sesiynau ar y campws heb gyfaddawdu ar agweddau eraill ar eu bywydau.

Gyrfaoedd mewn Astudiaethau Plentyndod

Mae ein rhaglen MA mewn Astudiaethau Plentyndod yn eich datblygu'n berson graddedig sy'n fyfyriol, yn fedrus ac sy'n barod i arwain newid mewn cyd-destunau proffesiynol amrywiol. Mae'n ymgorffori pump o Briodoleddau Graddedigion Abertawe (Cymhwysedd Proffesiynol, Meddwl yn Arloesol, Ymwybyddiaeth o Heriau Byd-eang, Cyfathrebu Effeithiol, ac Arweinyddiaeth Gydweithredol) ar draws pob modiwl, gan eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd ym maes addysg, iechyd, gofal cymdeithasol, polisi ac eiriolaeth.

Mae pob modiwl yn cyfrannu at eich cyflogadwyedd a'ch datblygiad entrepreneuraidd drwy:

  • Asesiadau Dilys: Mae modiwlau'n defnyddio tasgau yn y byd go iawn, megis cyflwyniadau, astudiaethau achos a chynigion ymchwil. Mae'r asesiadau hyn yn adlewyrchu gweithgareddau proffesiynol ac yn annog creadigrwydd, datrys problemau a meddwl strategol.
  • Llythrennedd Digidol: Byddwch yn defnyddio offer technegol (e.e. Canvas, Turnitin, Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol, ffeithluniau neu flogiau) i wella eich sgiliau cyfathrebu a chyflwyno, sy'n hanfodol ar gyfer y rhan fwyaf o weithleoedd.
  • Dysgu Cydweithredol: Mae gwaith grŵp ac adborth gan gyfoedion yn meithrin sgiliau gweithio mewn tîm, arweinyddiaeth a sgiliau rhyngbersonol
  • Myfyrio Beirniadol: Mae asesiadau'n aml yn cynnwys cydrannau myfyriol, gan eich annog i werthuso eich dysgu a'ch datblygiad proffesiynol eich hun.
  • Siaradwyr Gwadd: Mae arbenigwyr o gyd-destunau proffesiynol yn cefnogi eich ymgysylltiad â sectorau cyflogaeth perthnasol.
  • Sesiynau Sgiliau Astudio: Cynhelir y sgiliau hyn gyda chymorth gan y Tîm Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd.

Mae graddedigion y rhaglen hon yn dilyn gyrfaoedd yn y meysydd canlynol:

  • Addysg (addysgu, datblygu'r cwricwlwm ac arweinyddiaeth y blynyddoedd cynnar)
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol (hyrwyddo iechyd plant, diogelu a chwarae therapiwtig)
  • Polisi ac Eiriolaeth (sefydliadau hawliau plant, cyrff anllywodraethol a'r llywodraeth)
  • Ymchwil a'r Byd Academaidd (astudiaethau PhD neu rolau cynorthwywyr ymchwil)
  • Entrepreneuriaeth (datblygu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar blant, rhaglenni hyfforddiant ac ymgynghoriaeth)

Rydym hefyd yn cynnig goruchwyliaeth os ydych chi'n dymuno parhau â'ch astudiaethau yn y maes hwn ar lefel PhD.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.