Trosolwg o'r Cwrs
Mae ein MSc mewn Seiberddiogelwch yn ymdrin â materion sy'n ymwneud â thechnoleg fodern, o ddiogelwch a phreifatrwydd data personol i seiberderfysgaeth, seiberdroseddu a diogelwch dyfeisiau symudol.
Ein cwrs ni yw'r un cyntaf yn Nghymru i gael ei ardystio'n llawn gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC).
Yn y gangen hon o Gyfrifiadureg yn Abertawe, mae ymagwedd gyfannol a rhyngddisgyblaethol yn cynnig modiwlau ar brofion hacio, modelu ffurfiol, rheoli diogelwch gwybodaeth, cryptograffeg a deallusrwydd artiffisial.
Erbyn i chi gwblhau'r cwrs hwn, bydd gennych feddylfryd gwybodus ac ymwybodol sy'n addas ar gyfer gyrfa mewn seiberddiogelwch.