Gwyddor Actiwaraidd, MSc

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
image

Trosolwg o'r Cwrs

Actiwarïaid yw gweithwyr busnes proffesiynol sy'n defnyddio mathemateg ac ystadegau i asesu a rheoli risg mewn meysydd megis yswiriant, bancio, iechyd a chynllunio'r llywodraeth. 

Mae ein MSc mewn Gwyddor Actiwaraidd yn addas i raddedigion o ddisgyblaethau rhifedd sy'n awyddus i ddatblygu'r sylfeini mathemategol ac ystadegol angenrheidiol am yrfa fel actiwari cymwysedig. 

Byddwch yn datblygu sgiliau y mae galw mawr amdanynt, sef defnyddio dulliau mathemategol ac ystadegol i ddatrys problemau modelu actiwaraidd go iawn. Caiff eich dysgu ei gefnogi gan academyddion ac ymarferwyr proffesiynol profiadol a gydnabyddir yn rhyngwladol, gan sicrhau y byddwch yn elwa o sylfaen ddamcaniaethol gref a chraffter ymarferol o'r diwydiant. 

Pam Gwyddor Actiwaraidd yn Abertawe?

  • 13eg safle yn y DU (Guardian University Guide 2026)  
  • Rhwng safleoedd 201 a 250 ar y rhestr o'r rhaglenni gorau o'u bath yn y byd (Tabl Prifysgolion y Byd QS 2025) 

Mae parch mawr at Wyddor Actiwaraidd ym Mhrifysgol Abertawe oherwydd ei chyfuniad cryf o arbenigedd mathemategol, ystadegol a busnes, sydd i gyd yn hanfodol ar gyfer gyrfa lwyddiannus ym meysydd dadansoddi risg a gwneud penderfyniadau ariannol. 

Byddwch yn dysgu gan academyddion hyddysg ac ymarferwyr proffesiynol gwybodus o'r diwydiant sy'n arbenigwyr a gydnabyddir yn eu meysydd, ac mae llawer ohonynt yn Gymrodorion neu'n Gymrodorion Uwch o'r Academi Addysg Uwch. Mae eu harbenigedd yn creu amgylchedd dysgu sy'n cyfuno hyfforddiant damcaniaethol trylwyr â chymhwyso ymarferol yn y byd go iawn. 

Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn elwa o gefnogaeth wedi'i phersonoli drwy diwtorialau mewn grwpiau bach a chymuned ôl-raddedig weithgar a chroesawgar. Mae cynrychiolwyr etholedig myfyrwyr yn sicrhau bod eich barn yn cael ei chlywed, ac mae Cymdeithas Fathemateg Prifysgol Abertawe'n cynnal digwyddiadau academaidd a chymdeithasol rheolaidd sy'n dod â myfyrwyr a staff ynghyd, gan feithrin diwylliant cydweithredol a chynhwysol yn yr adran. 

Gan astudio ar safle trawiadol Campws y Bae, byddwch yn elwa o gyfleusterau addysgu ac ymchwil modern mewn lleoliad arfordirol bywiog, lle ysbrydoledig i fyw, astudio a rhoi hwb i'ch uchelgeisiau proffesiynol. 

Eich Profiad Gwyddor Actiwaraidd

Yn rhan gyntaf y rhaglen, byddwch yn astudio amrywiaeth eang o fodiwlau gwyddor actiwariadd ac mewn meysydd cysylltiedig. Yn yr ail ran, byddwch yn cwblhau prosiect traethawd hir sylweddol, gan eich galluogi i roi eich dysgu ar waith wrth ddatrys problem actiwaraidd neu fathemategol gymhleth. 

Cewch eich asesu drwy gyfuniad o arholiadau ysgrifenedig, gwaith cwrs a'ch traethawd hir, gan roi cyfle i chi ddangos gallu dadansoddol a sgiliau ymchwil annibynnol. 

Bydd eich astudiaethau'n cael eu cefnogi gan gyfleusterau ardderchog, gan gynnwys prif Lyfrgell y Brifysgol a chanddi gasgliad helaeth o adnoddau mathemateg yn ogystal â’r Gwasanaethau Digidol. Bydd gennych fynediad hefyd i Ystafell Ddarllen yr adran, man astudio pwrpasol sy'n cynnwys llyfrgell yr adran a nifer o gyfrifiaduron. 

Byddwch yn elwa hefyd o gyfleusterau a adeiladwyd at y diben yn y Ffowndri Gyfrifiadol  ar Gampws y Bae, sy'n darparu lleoedd astudio o'r radd flaenaf a ddyluniwyd yn benodol ar gyfer mathemateg a gwyddorau cyfrifiadol. 

Cyfleoedd Cyflogaeth Gwyddor Actiwaraidd

Bydd y rhaglen hon yn datblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth mathemategol uwch, gan ddarparu sylfaen ardderchog ar gyfer gyrfaoedd mewn meysydd sy'n galw am sgiliau mathemategol uwch, megis cyllid, yswiriant, dadansoddi data a pheirianneg. Mae hefyd yn cynnig paratoad cryf ar gyfer astudiaethau academaidd pellach, gan gynnwys gradd ymchwil mewn gwyddor actiwaraidd neu ddisgyblaethau cysylltiedig. 

Mae rolau posibl i raddedigion yn cynnwys y canlynol: 

  • Rolau technegol mewn cwmnïau yswiriant neu gwmnïau ymgynghori actiwaraidd, gyda chyfleoedd i symud i rolau rheoli. 
  • Gyrfaoedd yn y sector ariannol sy'n cynnwys mathemateg risg a modelu ariannol. 
  • Llywodraeth neu swyddi rheoleiddio â ffocws ar ddadansoddi risg, rhagfynegi neu reoleiddio yswiriant.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei ddweud am Fathemateg yn Abertawe

Ewch ar daith o amgylch ein cyfleusterau