Gwyddor Data Gymhwysol, MSc / PGDip

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Delweddu data ar gyfer meddwl ystadegol a gwneud penderfyniadau ar sail data

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r MSc mewn Gwyddor Data Gymhwysol yn darparu hyfforddiant priodol i fyfyrwyr heb gefndir arbenigol i'w galluogi nhw i wella eu cyfleoedd yn y dyfodol a chwarae rhan allweddol yn yr economi ddigidol.

Bydd ein rhaglen yn eich addysgu i weithio gyda data, ei ddelweddu a'i ddeall, annog meddwl mewn ffordd ystadegol a datblygu dulliau gwneud penderfyniadau'n seiliedig ar ddata. Yn ogystal, mae'r rhaglen yn darparu'r sylfaen angenrheidiol mewn Mathemateg, Ystadegau a sgiliau rhaglennu sylfaenol sy'n allweddol ar gyfer deall cymhlethdod data a'i ddadansoddi mewn ffordd systematig. Mae hefyd yn darparu sgiliau allweddol i chi mewn sawl pwnc cyfrifiadureg, megis cloddio data a dysgu peirianyddol.

Mae'r rhaglen hon ar gyfer myfyrwyr sydd â gradd mewn pwnc nad yw’n gofyn am lefel uchel o ran rhifedd, ond sydd â diddordeb mewn dysgu dulliau gwyddor data hanfodol gyda chymwysiadau amrywiol.

Sylwer,  mae'r MSc mewn Gwyddor Data Gymhwysol yn briodol ar gyfer y rhai hynny heb radd israddedig ym maes mathemateg (neu bynciau cysylltiedig).  Os oes gennych radd israddedig mewn Cyfrifiadureg (neu gyfwerth) ac yn dymuno dilyn llwybr gwyddor data gyda'ch gradd Meistr, gweler Gwyddor Data, MSc.

PAM CYFLWYNO CAIS AM WYDDOR DATA YN ABERTAWE?

  • Ymysg y 201-250 uchaf yn y byd mewn Cyfrifiadureg a Systemau Gwybodaeth (Tablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc 2025)
  • Cyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer y gwyddorau mathemategol a chyfrifiadol
  • Mae 100% o gyhoeddiadau yn arwain y ffordd yn fyd-eang ac yn rhagorol yn rhyngwladol - Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021

EICH PROFIAD GWYDDOR DATA GYMHWYSOL

Yn rhan gyntaf eich cwrs, byddwch yn dechrau drwy astudio sylfeini mathemategol a chyfrifiadol gwyddor data. Dilynir hyn gan bynciau mwy datblygedig megis Dysgu Peirianyddol, cloddio data. Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys prosiect terfynol a fydd yn canolbwyntio ar gymhwyso gwybodaeth a sgiliau mewn gwyddor data. Lle bynnag y bo'n bosib, bydd pynciau'r prosiect yn cael eu teilwra at ddiddordebau myfyrwyr.

Bydd eich astudiaethau'n cael eu cefnogi gan gyfleusterau, gan gynnwys prif lyfrgell y Brifysgol a chanddi gasgliad helaeth o adnoddau mathemateg yn ogystal â’r Gwasanaethau Digidol.

Mae'r Ystafell Ddarllen yng nghanol yr adran hefyd ar gael i chi. Dyma gartref llyfrgell yr adran ac ystafell o gyfrifiaduron.

  • Mae ein staff yn arbenigwyr yn eu maes gyda'r rhan fwyaf yn cael eu cydnabod yn Gymrawd neu’n Uwch-gymrawd Uwch yr Academi Addysg Uwch.
  • Mae ein Hadrannau Mathemateg a Chyfrifiadureg drws nesaf i draeth hyfryd Bae Abertawe, gyda nifer o gyfleoedd cymdeithasol a chwaraeon.

Mae'r Adran Fathemateg i'w chael yn adeilad y Ffowndri Gyfrifiadol ar ein Campws Bae sy'n rhoi mynediad i fyfyrwyr i fannau astudio ac addysgu pwrpasol a gynlluniwyd gan fathemategwyr ac ar eu cyfer.

CYFLEOEDD CYFLOGAETH

Bydd cwblhau ein MSc mewn Gwyddor Data Gymhwysol yn gwella eich rhagolygon gyrfa sy'n gysylltiedig â gwyddor data yn sylweddol, mae gyrfaoedd posibl yn cynnwys:

  • Dadansoddwr Data
  • Ymchwilydd
  • Dadansoddwr busnes
  • Ystadegydd

Mae graddedigion diweddar o Abertawe wedi cael eu cyflogi gan amrywiaeth o sefydliadau byd-eang, gan gynnwys:

  • Admiral, Veramed
  • AXA
  • BA
  • Deutsche Bank
  • Ymchwil Shell
  • Awdurdodau Iechyd
  • Llywodraeth leol

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.