Mathemateg, MSc

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Gibin Powathil

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein MSc mewn Mathemateg yn ddelfrydol os ydych chi am adeiladu ar eich BSc, ymestyn eich gwybodaeth drwy amrywiaeth ehangach o bynciau, ac arddangos eich sgiliau ymchwilio i lenyddiaeth drwy draethawd hir estynedig.

Byddwch yn astudio elfennau gwahanol mathemateg megis elfennau mathemategol cyfrifiadura, ac yn datblygu eich sgiliau ymchwil, rheoli prosiectau a chyfathrebu ysgrifenedig.

Mae ein cymorth arbenigol helaeth yn eich helpu i lunio eich traethawd hir, gan greu sylfaen ardderchog ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.

Pan fyddwch chi'n graddio, byddwch yn fathemategydd gwybodus â’r sgiliau profedig i weithio'n annibynnol i gyflawni prosiectau sylweddol. Bydd hyn yn rhoi mantais unigryw i chi yn y farchnad swyddi sy'n dod yn fwyfwy cystadleuol. 

Pam Mathemateg ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae ein Hadran Fathemateg drws nesaf i draeth hyfryd Bae Abertawe yn adeilad y Ffowndri Gyfrifiadol ar ein Campws y Bae. Mae gan fyfyrwyr fannau astudio ac addysgu pwrpasol a ddyluniwyd gan fathemategwyr ac ar eu cyfer. At hynny, mae llyfrgell yr adran yn llawn adnoddau astudio ac ymchwil.

  •  Ymysg y 201-250 gorau yn y byd (Tabl Prifysgolion y Byd QS 2025)
  • Cyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer y gwyddorau mathemategol a chyfrifiadol

Mae 100% o gyhoeddiadau yn arwain y ffordd yn fyd-eang ac yn rhagorol yn rhyngwladol - Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021

Eich profiad ym maes Mathemateg

Mae ein staff yn arbenigwyr yn eu maes mathemateg ac mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi’u cydnabod yn Gymrawd neu’n Uwch-gymrawd yr Academi Addysg Uwch. Bydd academyddion llawn ysbrydoliaeth ac o fri rhyngwladol sydd ag arbenigedd mewn amrywiaeth o bynciau ym meysydd mathemateg bur a chymhwysol yn llunio eich dysgu.

Rydym hefyd yn meithrin ymdeimlad o gymuned a pherthyn drwy drefnu digwyddiadau cyflogadwyedd rheolaidd, lle daw siaradwyr allanol i siarad â chi yn ein Hystafell Ddarllen. Rydym yn annog y gweithgareddau difyr hyn i sicrhau eich bod yn datblygu rhwydweithiau proffesiynol ac yn gwneud ffrindiau, gan greu amgylchedd cefnogol.  Caiff eich astudiaethau eu cefnogi gan gyfleusterau sy'n cynnwys prif lyfrgell y Brifysgol - sy'n cynnwys casgliad helaeth o adnoddau mathemategol, a'n Gwasanaethau Digidol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Mathemateg

Mae MSc mewn Mathemateg yn rhoi hwb sylweddol i'ch rhagolygon gyrfa. Mae cyrchfannau gyrfa poblogaidd yn cynnwys y proffesiwn actiwaraidd, cyllid, technoleg a busnes, lle mae galw mawr am fathemategwyr i ymgymryd â swyddi dadansoddi ystadegol, ymchwil a datblygu.

Mae cyrchfannau cyffrous posib ar gyfer graddedigion yn cynnwys:

  • Addysgu
  • Y sector actiwaraidd - yn benodol ar gyfer myfyrwyr sy'n dewis y cyfuniadau gofynnol o fodiwlau dewisol i gymhwyso ar gyfer eithriadau IFoA posib.
  • Y Sector Bancio a Chyllid - er enghraifft, cyfrifyddiaeth yn y sectorau preifat a chyhoeddus, y diwydiant yswiriant a bancio yn y ddinas
  • Gyrfaoedd Ystadegau - mae hyn yn cynnwys gyrfaoedd yn y sectorau preifat a chyhoeddus
  • Rhaglennu - rhaglennu cyfrifiadurol cyffredinol a rhaglennu ystadegol
  • Astudiaethau pellach - mae ein rhaglenni gradd yn cynnig sylfaen fathemategol gref ar gyfer astudiaethau PhD

Yn ddiweddar mae ein graddedigion wedi dod o hyd i swyddi mewn sefydliadau gan gynnwys AXA, British Airways, Deutsche Bank, Shell Research, awdurdodau iechyd a llywodraeth leol.

Mae gradd mewn Mathemateg yn radd fodern, hygyrch a chynhwysol sy'n rhoi i chi'r sgiliau amrywiol a'r hyder y mae galw mawr amdanynt gan gyflogwyr heddiw. 

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.