Trosolwg o'r Cwrs
Mae ein cwrs MSc mewn Mathemateg a Chyfrifiadura ar gyfer Cyllid wedi'i gynllunio i fodloni'r galw am fathemategwyr hyfforddedig arbenigol yn niwydiannau cyllid ac yswiriant y byd. Mae'r meysydd hyn yn gwneud defnydd arbennig o ddamcaniaeth tebygolrwydd, prosesau stocastig a dadansoddi stocastig mewn meysydd fel prisio deilliadau ariannol neu feintioli risg.
Drwy'r radd hon byddwch yn astudio gwahanol elfennau mathemateg a chyfrifiadura, a'u cymhwyso i broblemau o fyd cyllid. Yna byddwch yn ymgymryd â thraethawd hir mewn maes mathemateg ariannol ac yn datblygu eich sgiliau ymchwil, rheoli prosiectau, a chyfathrebu ysgrifenedig. Ar ôl graddio byddwch yn fathemategydd gwybodus ac arbenigol â sgiliau profedig i gyflawni prosiect sylweddol yn annibynnol, a'r potensial i wneud gwahaniaeth sylweddol mewn unrhyw sefydliad.