Ffisioleg Ymarfer Corff Glinigol, MSc

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Dyn yn cael ei arsylwi ar feic ymarfer corff

Trosolwg o'r Cwrs

Mae Ffisioleg Ymarfer Corff Glinigol yn arbenigedd hanfodol sy'n tyfu'n gyflym yn y DU a ledled y byd. Gyda disgwyliad oes hwy daw risg fwy o gyflyrau iechyd cronig, a chyda phoblogaeth sy'n heneiddio fwyfwy, mae'r GIG a darparwyr gofal iechyd eraill yn cael eu rhoi, a byddant yn parhau i gael eu rhoi, o dan straen cynyddol oherwydd baich rheoli'r cyflyrau iechyd hirdymor hyn. Mae rôl arwyddocaol Ffisiolegwyr Ymarfer Corff Clinigol yn cael ei chydnabod fwyfwy, ac mae'r galw am setiau sgiliau yn y maes hwn yn fwy nag erioed.

Bydd ein MSc Ffisioleg Ymarfer Corff Glinigol yn eich arfogi â'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth feirniadol, sy'n seiliedig ar ymchwil, a'r ystod amrywiol o sgiliau cymhwysol ac ymarferol sy'n ofynnol i weithio gyda defnyddwyr gwasanaeth.

Mae ein rhaglen yn cyfuno damcaniaeth wyddonol ag ymarfer yn y byd go iawn. Drwy gydol ein rhaglen, byddwch chi'n dysgu sut i ddylunio, cynnal a dehongli ystod o asesiadau iechyd a ffitrwydd sy'n benodol i glefydau, byddwch chi'n archwilio dyluniad a chyflwyniad ymyriadau gweithgaredd corfforol ac ymarfer corff sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan gefnogi defnyddwyr gwasanaeth i hyrwyddo newid ymddygiad ystyrlon.

Gyda phwyslais ymarferol cryf, mae ein cwrs hefyd yn cynnwys lleoliad clinigol. Byddwch chi'n ennill profiad hanfodol mewn lleoliad dan oruchwyliaeth, gan ganiatáu ichi gymhwyso'ch dysgu'n ddilys i leoliadau yn y byd go iawn a datblygu cymwyseddau ymarferol mewn ystod eang o fesuriadau ffisiolegol a ffenoteipaidd sy'n gysylltiedig â ffisioleg ymarfer corff clinigol.

Pam Ffisioleg Ymarfer Corff Glinigol yn Abertawe?

Fel myfyriwr MSc Ffisioleg Ymarfer Corff Glinigol, byddwch chi'n cael eich addysgu yn ein Hysgol Peirianneg a’r Gwyddorau Cymhwysol, ar Gampws y Bae ar lan y môr. Mae'r Ysgol Peirianneg a’r Gwyddorau Cymhwysol yn ymfalchïo yn y cyfleusterau o’r radd flaenaf sy'n eich galluogi chi i gymhwyso'r ddamcaniaeth a ddysgwyd ymhellach i gymwysiadau yn y byd go iawn.

Mae rhaglenni Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn Abertawe wedi'u rhestru:

· Ymysg yr 20 rhaglen orau o’i bath yn y DU am Ansawdd Ymchwil (Complete University Guide 2026)

· Ymysg y 51-100 rhaglen orau o'i bath yn y byd (Tabl Prifysgolion y Byd QS 2025)

· 100% o effaith ein gwaith ymchwil yn rhagorol yn rhyngwladol ac yn arwain y ffordd yn fyd-eang (REF2021)

Eich Profiad Ffisioleg Ymarfer Corff Glinigol

Pan fyddwch chi'n astudio MSc Ffisioleg Ymarfer Corff Glinigol yn Abertawe, byddwch chi'n derbyn addysg ragorol sy'n cael ei harwain gan ymchwil, dan arweiniad ein hymchwilwyr blaenllaw yn y byd mewn gwyddor ymarfer corff clinigol, ffisioleg ymarfer corff, gweithgaredd corfforol ac iechyd, a newid ymddygiad.

Bydd yr MSc Ffisioleg Ymarfer Corff Glinigol yn Abertawe yn rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr i chi o wahanol afiechydon cronig a'r egwyddorion sy'n sail i ragnodi profion ymarfer corff ac ymyriadau gweithgaredd corfforol yn ddiogel ac yn effeithiol wrth reoli'r cyflyrau hyn.

Byddwch yn derbyn addysg sy'n rhoi pwyslais mawr ar brofiad ymarferol. Yn ystod ein rhaglen, byddwch chi'n ymgymryd â lleoliad clinigol dan oruchwyliaeth gyda Chynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff Cymru (NERS) neu wasanaethau gofal iechyd y GIG a rhai preifat. Bydd eich lleoliad clinigol yn caniatáu ichi ennill profiad hanfodol, datblygu eich sgiliau clinigol a rhyngbersonol, a chymhwyso'r ddamcaniaeth a ddysgwyd i leoliadau byd go iawn.

Ochr yn ochr â'r sail ddamcaniaethol hanfodol, bydd gennych chi fynediad hefyd at ein cyfleusterau arloesol a fydd yn cyfoethogi'ch profiad ymhellach.

Mae ein Labordai Ffisioleg yn gartref i ystod o offer arbenigol, gan gynnwys:

· Ergomedrau ymarfer corff gwahanol - beicio, beicio ar eich gorwedd, melinau traed

· Cartiau metabolaidd ar-lein gyda phrawf ECG 12-gwifren

· Offer profi swyddogaeth cyhyrau

· Uwchsain fasgwlaidd

· Sganiwr DEXA

· Offer swyddogaeth yr ysgyfaint

· Cyfleusterau i gasglu a dadansoddi samplau gwaed capilarïaidd neu wythiennol ar gyfer gwahanol fiomarcwyr.

Mae’r MSc Ffisioleg Ymarfer Corff Glinigol yn Abertawe yn eich grymuso chi i weithio tuag at gymhwysedd yn yr ystod eang o sgiliau ymarferol sy'n ofynnol i lunio, rhagnodi a chyflwyno ymyriadau gweithgaredd corfforol ac ymarfer corff personol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, wedi'u teilwra i statws iechyd unigol, galluoedd swyddogaethol ac achoseg clefydau.

Bydd eich astudiaethau chi'n cael eu cefnogi trwy ein hamgylchedd dysgu cefnogol. Byddwch chi'n ymuno â'n cymuned ryngwladol lewyrchus o fyfyrwyr ôl-raddedig ac yn derbyn cefnogaeth astudio ar ffurf mynediad 24 awr i'n llyfrgell ar y safle, Tiwtor Personol dynodedig, a'r anogaeth i feithrin perthnasoedd cryf â staff y gallwch chi gysylltu â nhw am gefnogaeth ac arweiniad ychwanegol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Ffisioleg Ymarfer Corff Glinigol

Mae ein graddedigion yn weithwyr ymarfer corff medrus iawn, sy'n gallu gweithio'n ddiogel ac yn effeithiol mewn tîm gofal iechyd amlddisgyblaethol i wella iechyd a lles mewn poblogaethau clinigol.

Mae graddedigion yr MSc Ffisioleg Ymarfer Corff Glinigol wedi'u harfogi i ddefnyddio eu sgiliau ar draws ystod o leoliadau gofal iechyd gan gynnwys:

· Gofal Sylfaenol

· Lleoliadau Gofal Eilaidd ac Adsefydlu

· Ysbytai preifat

· Clinigau Cyhoeddus a Phreifat

· Gwasanaethau Hamdden

· Gwasanaeth Meddygol Amddiffyn

Bydd llawer o'n graddedigion hefyd mewn sefyllfa dda i ymgymryd â rolau y tu hwnt i leoliadau gofal iechyd, gan gynnwys:

· Polisi iechyd cyhoeddus, iechyd yn y gweithle ac adsefydlu, ymchwil, ac academia

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.