Seicoleg Chwaraeon, MSc

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Sport Science

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r radd MSc mewn Seicoleg Chwaraeon yn cynnig profiad dysgu cynhwysfawr a deinamig sy'n cyfuno ymchwil, damcaniaeth a gwybodaeth ymarferol. Byddwch yn datblygu'r wybodaeth graidd, y sgiliau a'r cymwyseddau proffesiynol sydd eu hangen i wneud cynnydd i ddod yn ymarferwr gwyddonol moesegol, ar sail tystiolaeth ym maes seicoleg chwaraeon.

Drwy gydol y rhaglen, byddwch chi'n archwilio ystod eang o bynciau sy'n alinio ag wyth cymhwysedd craidd seicoleg, gan gynnwys meysydd megis seicoleg gymdeithasol, wybyddol a datblygiadol. Byddwch hefyd yn elwa o arweiniad penodol ar weithio fel ymarferwr cymhwysol, gan eich helpu chi i feithrin yr hyder, yr ymwybyddiaeth broffesiynol, a’r ddealltwriaeth glir o ymarfer cyfoes yn y maes.

Pam Seicoleg Chwaraeon yn Abertawe?

  • Ymysg y 51-100 gorau yn y byd (Tabl Prifysgolion y Byd QS 2025)
  • 100% o'n heffaith yn arwain y ffordd yn fyd-eang ac yn rhagori'n rhyngwladol - Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021

Staff Arbenigol: Byddwch chi'n dysgu gan academyddion ac ymarferwyr profiadol ym maes Seicoleg Chwaraeon sy'n ymroddedig i'ch helpu chi i lwyddo. Mae gan ein harbenigwyr gefndiroedd a diddordebau ymchwil amrywiol, gan sicrhau profiad addysgol cyflawn.

Ymchwil sy'n torri tir newydd: Byddwch chi'n dod i gyswllt â'r ymchwil a'r datblygiadau diweddaraf ym maes Seicoleg Chwaraeon. Mae Prifysgol Abertawe'n adnabyddus am ei chyfraniadau at ymchwil ym maes seicoleg chwaraeon, a bydd gennych chi gyfle hefyd i arsylwi ar brosiectau sydd ar y gweill.

Datblygu Gyrfa: Byddwch chi'n derbyn arweiniad a chymorth ar gyfer eich nodau o ran gyrfa. P’un a ydych chi'n dyheu am weithio gydag athletwyr elitaidd, timau chwaraeon neu bobl ifanc, neu a ydych chi am ymgymryd ag ymchwil ymhellach, bydd y rhaglen hon yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn damcaniaeth ac ymarfer Seicoleg Chwaraeon.

Cyfleoedd Ymchwil: Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymgymryd â PhD neu yrfa ymchwil, bydd ein rhaglen yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer eich ymdrechion academaidd yn y dyfodol.

Cymuned Fyd-eang: Byddwch chi'n ymuno â charfan amrywiol o fyfyrwyr o bob cwr o'r byd, gan feithrin amgylchedd dysgu amlddiwylliannol ac ehangu eich safbwynt byd-eang.

Lleoliad Prydferth: Byddwch chi'n mwynhau harddwch naturiol trawiadol Abertawe a lleoliad ein Campws y Bae yn agos at ei bromenâd glan môr ei hun.

Eich Profiad Seicoleg Chwaraeon

Mae ein gradd MSc mewn Seicoleg Chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe yn eich tywys o ddamcaniaeth, i'r broses, ac yn olaf i gynnyrch cymhwysol. Mae'r ymagwedd strwythuredig hon yn darparu'r wybodaeth a'r mewnwelediadau sydd eu hangen arnoch i werthuso, dehongli a chymhwyso ymchwil chwaraeon yn feirniadol ar draws ystod eang o boblogaethau, cyd-destunau ac amgylcheddau perfformiad.

Drwy symud o ddamcaniaeth i ymarfer, byddwch yn datblygu dealltwriaeth gref o gysyniadau seicoleg chwaraeon hanfodol a chyfoes, gan hefyd ennill gwybodaeth gynhwysfawr am sut i weithio'n effeithiol fel seicolegydd chwaraeon cymhwysol. Mae'r ymagwedd hon yn eich grymuso i ddilyn proffesiwn sy'n esblygu'n gyflym gyda'r wybodaeth graidd, y mewnwelediadau beirniadol, a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i gefnogi a gwella  perfformiad a lles athletwyr elît ac amatur, mewn chwaraeon unigol a thîm.

Drwy gydol y rhaglen, byddwch chi'n dysgu'n uniongyrchol gan seicolegwyr chwaraeon gweithredol a fydd yn rhannu profiad o’r byd go iawn, gwybodaeth ac offer ymarferol ar gyfer ymarfer proffesiynol effeithiol.

Byddwch chi hefyd yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy sy'n ymwneud â chwnsela sydd eu hangen i weithio gyda chleientiaid amrywiol mewn modd sensitif ac ymwybodol yn ddiwylliannol.

Er nad yw'r rhaglen yn cynnwys lleoliadau gwaith ffurfiol, byddwch yn cael eich annog yn weithredol i ddod o hyd i gyfleoedd ymarferol, yn benodol drwy Chwaraeon Abertawe, i'ch helpu chi i ddatblygu sgiliau ymarfer myfyriol, cyfathrebu a chyflwyno, technegau cyfweliad, a'r galluoedd rhyngbersonol sy'n hanfodol i weithio fel seicolegydd chwaraeon.

Cyfleoedd Cyflogaeth Seicoleg Chwaraeon

Mae'r rhaglen wedi'i dylunio i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd ac entrepreneuraidd cryf. Fel myfyriwr graddedig ein gradd MSc mewn Seicoleg Chwaraeon, byddwch chi mewn sefyllfa dda i wneud cynnydd tuag at achrediad fel Seicolegydd Chwaraeon, gan eich galluogi i weithio'n annibynnol neu gyda thimau, clybiau a sefydliadau chwaraeon, sy’n faes o alw proffesiynol cynyddol.

Fel rhan o'r cwrs, bydd gennych chi hefyd gyfle i astudio pynciau hanfodol ar gyfer dechrau eich practis eich hun. Mae'r rhain yn cynnwys datblygu busnes, marchnata, gofynion treth, a'r cyfrifoldebau cyfreithiol sy'n gysylltiedig ag ymarfer preifat. Byddwch chi hefyd yn archwilio materion presennol ymarfer proffesiynol, gan gynnwys gwneud penderfyniadau moesegol, rheoli cyfryngau cymdeithasol, datblygu contractau, a’r defnydd priodol o deitlau, a goresgyn rhwystrau i fynd i'r maes.

Mae llawer o raddedigion hefyd yn mynd ymlaen i gwblhau ymchwil PhD neu ddilyn rolau fel Ymchwilwyr neu Ymarferwyr Cymhwysol mewn sefydliadau chwaraeon. Gall eraill ddatblygu gyrfaoedd fel Ymgynghorwyr Ffordd o fyw neu Ofal Chwaraewyr, gan gefnogi lles a datblygiad personol athletwyr ar draws ystod o amgylcheddau chwaraeon.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.