Trosolwg o'r Cwrs
Hoffech chi ragori yn y diwydiant marchnata cystadleuol? Mae gyrfa mewn marchnata'n cynnig cyfleoedd niferus i ddatblygu a'r hyblygrwydd i weithio mewn unrhyw sector, unrhyw le yn y byd, gan sicrhau bod y rôl berffaith i'ch sgiliau chi ar gael.
Yn seiliedig ar yr ymarfer a'r ymchwil marchnata diweddaraf, bydd y rhaglen MSc Marchnata ym Mhrifysgol Abertawe yn eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus ym maes cyffrous marchnata byd-eang sy'n newid yn gyflym. Yn ogystal ag egwyddorion craidd marchnata, byddwch hefyd yn archwilio pynciau pwysig megis cyfathrebu integredig; marchnata digidol; marchnata cymdeithasol a moeseg; profiad y defnyddiwr ac ymchwil marchnata. Uchafbwynt y cwrs yw'r Her Marchnata Creadigol a fydd yn rhoi cyfle i chi ddangos eich gwybodaeth a'ch sgiliau wrth weithio ar her go iawn yn y diwydiant marchnata â'r nod o gael effaith gadarnhaol ar fusnes ac ar eich datblygiad chi.