Trosolwg o'r Cwrs
Ydych chi am fod yn weithiwr proffesiynol sy'n ymwneud â phobl ac sy'n creu effaith, gan roi lles eich gweithlu wrth wraidd eich gwaith?
Mae ein MSc mewn Rheoli Adnoddau Dynol (HRM) yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiad ymarferol y mae eu hangen i lwyddo mewn rolau AD cyfoes. Byddwch yn archwilio sut i gefnogi, datblygu ac arwain gweithlu, wrth gyfrannu at berfformiad sefydliadol cyfrifol a chynaliadwy ar draws sectorau.
Byddwch yn dysgu gan dîm addysgu profiadol ac amrywiol sydd ag arbenigedd mewn rheoli pobl, arweinyddiaeth a llywodraethiant sefydliadol. Caiff y gwaith addysgu ei lywio gan ymchwil bresennol a mewnwelediadau o'r byd go iawn gan sicrhau bod eich dysgu'n adlewyrchu'r datblygiadau diweddaraf ym maes AD.
Mae'r rhaglen hon yn addas ar gyfer gweithwyr proffesiynol ar gamau cynnar eu gyrfaoedd sy’n awyddus i ddechrau ym maes AD, yn ogystal â'r rhai hynny sydd â phrofiad rheoli pobl neu weithrediadau busnes sydd am gael cymhwyster proffesiynol cydnabyddedig. Bydd graddedigion sy'n dymuno parhau â'u taith academaidd hefyd yn cael cyfleoedd i symud ymlaen i astudiaethau doethurol.
Gyda ffocws cryf ar ddatblygiad y gweithlu, lles ac ymarfer moesegol ym maes rheoli pobl, bydd yr MSc yn galluogi graddedigion i gefnogi sefydliadau wrth greu gweithleoedd teg, cynhwysol a chynaliadwy.
Mae cymhwyster byrrach, y PGDip mewn Rheoli Adnoddau Dynol, hefyd ar gael. Mae'r llwybr galwedigaethol hwn yn cynnig hyfforddiant arbenigol ar gyfer ymarferwyr AD i wella eu sgiliau a datblygu eu gyrfaoedd mewn amserlen fyrrach.