Trosolwg o'r Cwrs
Mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) a'i effaith drawsnewidiol ar fusnes a chymdeithas yn datblygu'n sgil graidd gynyddol yn y gweithle mewn diwydiant a llywodraeth, wrth i nifer cynyddol o swyddi ddefnyddio systemau AI i ddatrys llawer o broblemau busnes.
Bydd y radd MSc Rheoli (Deallusrwydd Artiffisial) yn Abertawe'n rhoi cyflwyniad cadarn i'r goblygiadau busnes a rheoli sydd ynghlwm wrth fabwysiadu AI mewn sefydliadau, gan roi mewnwelediad gwerthfawr i fyfyrwyr o'r cymhlethdodau niferus sy'n ymwneud â defnydd cynyddol o AI.
Byddwch yn archwilio egwyddorion allweddol AI ac yn cael yr wybodaeth graidd o safbwyntiau damcaniaethol ac sy'n seiliedig ar ymarfer, gan roi dealltwriaeth fanwl a systematig i chi o'r materion allweddol, arfer gorau ac ystyriaethau moesegol ym maes AI. Mae galw cynyddol am y sgiliau allweddol hyn gan lawer o sefydliadau ar lefel fyd-eang.
Yn ogystal, byddwch yn dysgu am reoli mewn cymuned fyd-eang gysylltiedig yn ogystal â chysyniadau rheoli craidd megis rheoli adnoddau ariannol, rheoli gweithrediadau, rheoli adnoddau dynol a rheoli marchnata er mwyn rhoi gwybodaeth gadarn ichi mewn ystod o egwyddorion busnes dynamig.
Mae'r cwrs wedi'i achredu gan y Sefydliad Rheoli Siartredig (CMI), sef yr unig gorff proffesiynol siartredig yn y DU sy'n ymwneud yn benodol â hyrwyddo'r safonau uchaf o ran rhagoriaeth rheoli ac arwain, ac mae ar gael i fyfyrwyr o unrhyw ddisgyblaeth a hoffai weithio ym maes busnes neu reoli. Ar ôl cwblhau modiwlau wedi’u mapio perthnasol y radd MSc mewn Rheoli yn llwyddiannus, byddwch yn cymhwyso i gael tystysgrif lefel 7 y CMI mewn Rheoli ac Arwain Strategol.