Trosolwg o'r Cwrs
Ydych chi'n chwilio am radd a fydd yn eich helpu i fod ben ac ysgwyddau uwchlaw eraill ym myd cystadleuol marchnata? Mae'n yrfa gyda chyfleoedd rhagorol am gynnydd a chyda'r cyfle i weithio mewn unrhyw ddiwydiant unrhyw le yn y byd, a bydd rôl yn rhywle sy'n siŵr o fodloni eich set sgiliau.
Mae'r rhaglen MSc Rheoli (Marchnata) ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn heriau marchnata byd-eang a'r rhai hynny sydd am adeiladu gyrfa ym maes marchnata. Byddwch yn astudio pynciau arbenigol megis marchnata digidol a rheoli profiad cwsmeriaid.
Mae'r rhaglen wedi'i llunio gyda ffocws clir ar reoli mewn cymuned fyd-eang ryng-gysylltiedig. Byddwch hefyd yn astudio cysyniadau rheoli craidd fel rheoli adnoddau ariannol mewn byd digidol, rheoli gweithrediadau cynaliadwy, rheoli pobl a pherfformiad a strategaeth farchnata, gan sicrhau sylfaen gadarn mewn egwyddorion busnes deinamig.
Mae'r cwrs wedi'i achredu gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI), sef yr unig gorff siartredig yn y DU sy'n ymwneud yn benodol â hyrwyddo'r safonau uchaf o ragoriaeth rheolaeth ac arweinyddiaeth, ac mae ar gael i fyfyrwyr o unrhyw ddisgyblaeth a hoffai weithio ym maes busnes neu reoli. Ar ôl cwblhau modiwlau wedi’u mapio perthnasol y radd MSc Rheoli yn llwyddiannus, byddwch yn cymhwyso i gael tystysgrif lefel 7 y CMI mewn Rheolaeth ac Arweinyddiaeth Strategol.
I gael mwy o gynnwys marchnata, efallai yr hoffech ystyried ein MSc Marchnata.