Rheoli (Rheoli Rhyngwladol), MSc

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Myfyrwyr

Trosolwg o'r Cwrs

A oes gennych ddiddordeb mewn dilyn gyrfa ym myd cyffrous busnes rhyngwladol? A hoffech weithio dramor neu mewn sefydliadau ar raddfa fyd-eang? Mae'n farchnad sy'n tyfu, gyda llawer o gyfleoedd am swyddi, wrth i gwmnïau ledled y byd ddod yn fwy cysylltiedig a chwilio am arweinwyr a rheolwyr y dyfodol. 

Mae'r rhaglen MSc Rheoli (Rheoli Rhyngwladol) ym Mhrifysgol Abertawe wedi'i chynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd am ganolbwyntio'n benodol ar y cyfleoedd a'r heriau a gynigir gan fusnes mewn marchnad fyd-eang cydgysylltiedig. Byddwch yn cael cipolwg ar sut mae sefydliadau'n ymgysylltu â'r amgylchedd busnes rhyngwladol ac yn archwilio sut mae arloesedd, menter a strategaeth yn gweithredu mewn cyd-destunau byd-eang. 

Byddwch hefyd yn astudio cysyniadau rheoli craidd fel rheoli adnoddau ariannol mewn byd digidol, rheoli gweithrediadau cynaliadwy, rheoli pobl a pherfformiad a strategaeth farchnata, gan sicrhau sylfaen gadarn mewn egwyddorion busnes deinamig. 

Mae'r cwrs wedi'i achredu gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI), sef yr unig gorff siartredig yn y DU sy'n ymwneud yn benodol â hyrwyddo'r safonau uchaf o ragoriaeth rheolaeth ac arweinyddiaeth, ac mae ar gael i fyfyrwyr o unrhyw ddisgyblaeth a hoffai weithio ym maes busnes neu reoli. Ar ôl cwblhau’n llwyddiannus fodiwlau wedi’u mapio perthnasol y radd MSc mewn Rheoli, byddwch yn cymhwyso i gael tystysgrif lefel 7 y CMI mewn Rheoli ac Arwain Strategol. 

Pam Rheoli (Rheoli Rhyngwladol) yn Abertawe?

  • Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, cymdeithas addysg fusnes fwyaf y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr, i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.
  • Ar gael i ymgeiswyr heb unrhyw brofiad blaenorol o bynciau sy'n gysylltiedig â busnes neu reoli
  • Caiff pob modiwl ei addysgu gan ein cyfadran o'r radd flaenaf sydd â gwybodaeth ddiwydiannol ac academaidd
  • Achrediad gan gorff proffesiynol, a all helpu i sbarduno eich gyrfa
  • Addysgir ein rhaglenni myfyrwyr yn adeilad gwerth £22 miliwn yr Ysgol Reolaeth ar gampws y Bae
  • Mae Astudiaethau Busnes a Rheoli wedi'i roi yn safle 83 yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc 2025

Eich Profiad Rheoli (Rheoli Rhyngwladol)

O'r eiliad y byddwch yn ymuno â'r Ysgol Reolaeth, rydym yn gweithio gyda chi i ddatblygu'r sgiliau, yr hyder, a'r profiad yn y byd go iawn a fydd yn gwella'ch rhagolygon gyrfa. 

Bydd gennych chi fynediad diderfyn at gymorth gyrfaoedd un-i-un, pwrpasol gan ein tîm Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd ymroddedig. Gallwch hefyd gymryd rhan mewn lleoliad gwaith neu interniaeth drwy Rwydwaith Interniaeth â Thâl Abertawe (SPIN) neu'r fenter Wythnos o Waith, gan roi profiad gwerthfawr i chi gymhwyso'ch dysgu dadansoddol a rheolaethol yn y diwydiant. 

Mae ein holl fyfyrwyr yn elwa o gael eu cyd-leoli â phartneriaid o fyd diwydiant ar Gampws arloesol y Bae. Mae ein cyfleusterau'n cynnwys mannau addysgu ac astudio pwrpasol, ochr yn ochr â darpariaeth TG helaeth sydd â chaledwedd gyfoes a meddalwedd ddadansoddeg arbenigol, gan sicrhau eich bod yn cael profiad ymarferol o'r offer a ddefnyddir gan sefydliadau heddiw sy'n cael eu llywio gan ddata.

Cyfleoedd Cyflogaeth Rheoli (Rheoli Rhyngwladol)

Mae gennym hanes ardderchog o leoli ein graddedigion gyda chwmnïau amlwladol mawr.

Bydd eich rhaglen Rheolaeth (Rheoli Ryngwladol), gyda'i hachrediad CMI, yn rhoi cyfleoedd i chi weithio mewn amrywiaeth eang o sectorau a ffynnu yn y farchnad gystadleuol hon.

Gallai eich cam nesaf fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol:

  • Cynghorwr Busnes
  • Dadansoddwr
  • Ymgynghorydd Rheoli
  • Bancwr Buddsoddi

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.