Rheoli Uwch (Chwaraeon, Busnes ac Arweinyddiaeth), MSc / PGDip / PGCert

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Students

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein gradd MSc mewn Rheoli Uwch (Chwaraeon, Busnes ac Arweinyddiaeth) wedi'i llunio i fodloni'r galw cynyddol am arweinwyr arloesol, cyfrifol yn y diwydiant chwaraeon byd-eang. Mae'r llwybr hwn yn cynnig rhaglen astudio ryngddisgyblaethol a chymhwysol sy'n integreiddio gwybodaeth rheoli uwch â gwybodaeth sy'n benodol i'r sector chwaraeon, arweinyddiaeth, entrepreneuriaeth a pherfformiad sefydliadol. Mae'r llwybr yn datblygu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr busnes chwaraeon, sy'n gallu ymdrin â chymhlethdod, gweithredu arloesedd a sicrhau twf cynaliadwy mewn sefydliadau chwaraeon.

Bydd ein rhaglen yn rhoi'r ddealltwriaeth feirniadol i chi o ran heriau gweithredol, strategol a moesegol unigryw sy'n wynebu chwaraeon ar lefel broffesiynol, gymunedol a byd-eang. Gan ddefnyddio astudiaethau achos o chwaraeon elît, sefydliadau ar lawr gwlad a ffederasiynau rhyngwladol, byddwch chi'n archwilio themâu fel y trawsnewidiad o athletwr i arweinydd, arloesedd entrepreneuraidd, cynaliadwyedd mewn chwaraeon, a rheoli timau a sefydliadau perfformiad uchel. Mae cyfleoedd dysgu cymhwysol yn sicrhau eich bod chi, fel myfyriwr graddedig y cwrs hwn, yn gallu trosglwyddo eich gwybodaeth yn ymarfer ar draws cyd-destunau chwaraeon a busnes amrywiol.

Mae ein rhaglen MSc wedi'i strwythuro'n dair rhan. Mae'r gyntaf yn darparu modiwlau sylfaen MBA, gan feithrin dysgu traws-ddisgyblaetholx ar draws y portffolio MSc Rheoli Uwch. Mae'r ail ran yn canolbwyntio ar fodiwlau sy'n benodol i chwaraeon sydd wedi'u llunio i ddatblygu gwybodaeth am weithrediadau cynaliadwy, ymarfer entrepreneuraidd a sefydliadau perfformiad uchel. Mae'r rhan olaf yn canolbwyntio ar brosiect copa  Ymchwil mewn Ymarfer, sydd wedi’i gwreiddio drwy gydol y cwrs ac sy'n cyd-fynd â heriau go iawn gan bartneriaid y diwydiant.

Mae'r llwybr hwn wedi'i lunio i gael ei gyflwyno'n rhan-amser, a'i astudio dros ddwy flynedd, gan ddechrau gyda modiwlau MBA yn y flwyddyn gyntaf, yna fodiwlau sy'n benodol i chwaraeon yn yr ail flwyddyn. Mae'r model hyblyg hwn yn cefnogi anghenion dysgu gweithwyr ac athletwyr proffesiynol sy'n pontio, wrth gynnal ffocws cryf ar wybodaeth gymhwysol.

Pam Rheoli Uwch (Chwaraeon, Busnes ac Arweinyddiaeth) yn Abertawe?

  • Bydd gennych fynediad at academyddion o'r radd flaenaf sydd â phrofiad helaeth o weithio mewn sectorau amrywiol, gan roi dealltwriaeth ymarferol i chi.
  • Gallwch ymdrochi mewn amgylchedd rheoli, gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe y buddsoddwyd £22 miliwn ynddi.
  • Gallwch ddysgu sut i gymhwyso cysyniadau damcaniaethol i fynd i'r afael â heriau'r byd go iawn.
  • Elwa o addysgu arloesol sy'n cyfuno damcaniaeth ac ymarfer.
  • Meithrin sgiliau a gwybodaeth bersonol, sy'n benodol i'r sector chwaraeon, drwy gynnwys cwrs sydd wedi'i deilwra.
  • Dod yn arweinydd sy'n gallu llywio arloesi ac ysgogi newid.
  • Paratoi eich hun am yrfa yn y sector chwaraeon, neu fywyd proffesiynol llwyddiannus 'oddi ar y cae'.

Eich Profiad Rheoli Uwch (Chwaraeon, Busnes ac Arweinyddiaeth)

Mae ein rhaglen yn dechrau drwy edrych ar themâu hanfodol rheoli, megis llywio drwy arloesi a newid, ac archwilio diben sefydliadol. Mae'r modiwlau hyn yn cyflawni yn erbyn amcanion dysgu sydd o bwys mawr i lwyddiant y sector yn y dyfodol, a byddant yn cael eu haddasu gyda chynnwys sy'n benodol i chwaraeon lle bo'n briodol.

Wrth i'r rhaglen fynd rhagddi, byddwch yn astudio modiwlau chwaraeon penodol, gan weithio gyda chynnwys o ran arweinyddiaeth a llywodraethiant, rheoli gweithrediadau cynaliadwy yn ogystal â gweithredu entrepreneuraidd. Bydd y modiwlau hyn yn dod â damcaniaeth yn fyw drwy astudiaethau achos go iawn i ddangos sut mae damcaniaeth yn cael ei chymhwyso, a hefyd yn rhoi sgiliau proffesiynol ymarferol i fyfyrwyr.

Daw'r rhaglen i ben gyda phrosiect ymchwil, sy'n canolbwyntio ar anghenion a diddordebau pob myfyriwr. Bydd y cynnwys yn trafod datblygiadau cyfoes ym maes rheoli sefydliadau cyhoeddus a phreifat sy'n eich annog i arfarnu datblygiadau’n feirniadol gan ddefnyddio astudiaethau achos, cyfnodolion ac adroddiadau myfyriol sy'n seiliedig ar brofiadau yn eich rolau proffesiynol eich hunain.

Mae ein gradd MSc mewn Rheoli Uwch (Busnes, Chwaraeon ac Arweinyddiaeth) yn cael ei chefnogi gan ymgysylltiad unigryw rhwng tîm y rhaglen a'u cysylltiadau â'r sectorau cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys sefydliadau sy'n gweithredu ar lefelau lleol hyd at lefelau byd-eang.

Cyfleoedd Cyflogaeth Rheoli Uwch (Chwaraeon, Busnes ac Arweinyddiaeth)

Drwy gwblhau'r rhaglen MSc hon bydd graddedigion yn meithrin sgiliau uwch a gwybodaeth am ymagweddau rheoli mewn sefydliadau sy'n gweithredu mewn amgylcheddau cymhleth, lle mae angen creu canlyniadau hynod ddibynadwy.   Bydd hyn yn arwain at alluoedd gwell o ran gwneud penderfyniadau, datrys problemau ac arweinyddiaeth, gan wneud graddedigion yn asedau gwerthfawr i nifer o sefydliadau ac yn entrepreneuriaid effeithiol.

Bydd graddedigion wedi'u paratoi’n dda i ateb y galw cynyddol yn y sector chwaraeon i sefydliadau, cyrff llywodraethu ac athletwyr feddu ar bortffolio amrywiol o sgiliau, gwybodaeth a galluoedd rheoli.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.