Peirianneg Deunyddiau, MSc drwy Ymchwil

Abertawe yw un o brif ganolfannau'r DU ar gyfer Addysgu ac Ymchwil Deunyddiau

Engineering Equipment

Trosolwg o'r Cwrs

Gyda’n prif gryfderau ymchwil ym maes deunyddiau awyrofod, deunyddiau amgylcheddol a thechnoleg dur, mae Prifysgol Abertawe yn cynnig sylfaen ardderchog ar gyfer eich ymchwil fel myfyriwr MSc drwy Ymchwil mewn Peirianneg Deunyddiau.

Mae’r ymchwil deunyddiau sy’n arwain y byd sy’n digwydd yn Abertawe yn cael ei ariannu gan sefydliadau mawreddog. Mae’r cysylltiadau ymchwil diwydiannol hyn yn cynnig cyfleoedd ardderchog i’n myfyrwyr fynd ar leoliadau gwyliau a blwyddyn allan, yn ogystal â chynnig cyfleoedd ymchwil a chyflogaeth.

Dysgwch ragor am y Ganolfan Ymchwil Deunyddiau sy’n arwain y byd ym Mhrifysgol Abertawe.

Dysgwch fwy am rai o’r staff academaidd sy’n goruchwylio traethodau ymchwil yn y meysydd hyn:

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.