Dyddiad cau: 3 Ionawr 2025

Gwybodaeth Allweddol

Mae hon yn Ysgoloriaeth Ymchwil cyfrwng Cymraeg i gychwyn ym mlwyddyn academaidd 2025/26 wedi ei chyllido yn llawn neu’n rhannol drwy Gynllun Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  

Mae Swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig Prifysgol Abertawe hefyd wedi sicrhau cyllid cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) canolog y gellir ei ddefnyddio i gefnogi ysgoloriaethau ymchwil ôl-raddedig ar gyfer ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. I gydnabod y Gymraeg rydym wedi neilltuo hyd at 4 ysgoloriaeth wedi eu hariannu 50% a all gyfateb i’r hyn mae'r Coleg Cymraeg yn ei ariannu a darparu ysgoloriaethau wedi'u hariannu’n llawn, yn cynnwys ffioedd, cyflog a Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil (RTSG).
  

Pwnc:

Sgyrsiau Anodd

Dyddiad dechrau’r prosiect  

  • Hydref (2025)  
  • Ionawr (2026) 

Goruchwylwyr:  

Dr Geraldine Lublin (Llenyddiaeth, y Cyfryngau ac Iaith, Ysgol Ddiwylliant a Chyfathrebu, Prifysgol Abertawe) 

Dr Gethin Matthews (Hanes, Ysgol Ddiwylliant a Chyfathrebu, Prifysgol Abertawe) 

Dr Dafydd Tudur (Pennaeth Gwasanaethau Digidol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru) 

Rhaglen astudio wedi’i halinio:  

Ieithoedd Modern, PhD 

Dull Astudio / Mode of study:   

Gellir astudio yn llawn amser neu ran amser  

Disgrifiad o’r prosiect:  

Yn 2025, dethlir 160 o flynyddoedd ers glaniad y Mimosa ar draethau Porth Madryn, a chynigia’r achlysur hwnnw gyfle i ystyried yr hanes o’r newydd. Er bod agweddau sefydliadau’r Gymru sydd ohoni wedi newid yn sylweddol ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’r Cynllun Cymru Wrth-hiliol yn 2022, ac er gwaethaf y newidiadau aruthrol yn nhrafodaethau’r sffêr cyhoeddus yng Nghymru a ysgogwyd ers 2020 gan y mudiad ‘Mae Bywydau Du o Bwys’, mae’n amlwg nad yw’r naratif ynghylch y ‘Gymru fach dros y môr’ ar ochr arall yr Iwerydd yn beth hawdd i fynd i’r afael ag ef. 

Fel rhan o’r gweithredu gwrth-hiliol a ddisgwylir gan sefydliadau cyhoeddus, ceir ymdrechion o ddifri i gynyddu amrywiaeth gan adlewyrchu poblogaeth amrywiol Cymru a chwilio am amrywiaeth o arbenigedd, profiadau a safbwyntiau. Mae’r Cwricwlwm i Gymru hefyd yn canolbwyntio ar gynnig ystod eang o safbwyntiau yn yr adnoddau addysgol sydd ar gael i ysgolion er mwyn creu ‘ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd’. Un enghraifft hynod o’r weledigaeth honno yw’r adnoddau “Windrush Cymru” a gynhyrchwyd gan Amgueddfa Cymru yn ddiweddar.  

Er gwaethaf y newidiadau niferus ar wahanol agweddau anodd ar hanes Cymru – megis rhan y Cymry yn yr Ymerodraeth Brydeinig neu enillion caethwasiaeth – parheir i adrodd stori’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia fwy neu lai yn yr un modd ers i Saunders Lewis dynnu sylw’r Cymry yn ei ddarlith ‘Tynged yr Iaith’ yn 1962 at  ‘arbrawf arwrol’ Michael D. Jones i sefydlu y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Canolbwyntir ar rôl yr arloeswyr o Gymru yn cadw’r Gymraeg tra’n agor y tir a phlannu hadau cynnydd a gwareiddiad, gan anwybyddu profiad y cymunedau brodorol Tehuelche a Mapuche oedd yn trigo yn y tiriogaethau hynny cyn dyfodiad y sefydlwyr. Dyna’r hyn a geir yn y rhestr ddarllen yn ymwneud â'r Wladfa Gymreig yng ngwefan y Llyfrgell Genedlaethol, y sefydliad sydd â’r amcan strategol o ‘[f]eithrin a gofalu am gof y genedl’. 

Nod y prosiect hwn yw mynd ati i gefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru wrth gyflawni Cymru Wrth-hiliol yn ogystal â’r amcanion a osodir yng Nghynllun Strategol Llyfrgell Genedlaethol Cymru (“Llyfrgell i Gymru a'r Byd 2021-26”) trwy archwilio cwestiynau megis: 

  1. Ym mha ffyrdd gall ailedrych ar y casgliadau hanesyddol sydd yn ymwneud â’r sefydliad Cymreig ym Mhatagonia a’u hail-ddehongli ategu tri o’r pum maes allweddol a flaenoriaethir yn y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (2024) parthed Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon – sef “dathlu amrywiaeth, y naratif hanesyddol a dysgu am ein hamrywiaeth ddiwylliannol” (t.31) –  a’r “ffocws ar ddad-drefedigaethu casgliadau amgueddfeydd” (t.31)? 
  2. I ba raddau gall ychwanegu arlliw (nuance) i’r naratif traddodiadol am y Wladfa a chynnwys ystod ehangach o safbwyntiau ar hanes y sefydliad gyflawni nod Llywodraeth Cymru o “sicrhau bod astudio hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth a chymhlethdod” (CGCW 2024, t.19) yn bosib? At hynny, “bod yr holl adnoddau addysgu cyfrwng Cymraeg a’r deunyddiau atodol yn wrth-hiliol ac yn adlewyrchu dyfnder gwirioneddol ein treftadaeth ddiwylliannol amrywiol ac yn osgoi stereoteipio a cham-feddiannu diwylliannol ar yr un pryd” (t.29). 
  3. Sut gellir sicrhau bod casgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol parthed Patagonia yn cyfrannu tuag at uchelgais y sefydliad i fod “yn ganolbwynt i weithgaredd sy’n grymuso pobl Cymru ag ymwybyddiaeth ddofn o'u gorffennol, dealltwriaeth o’r presennol, ac ysbrydoliaeth i lunio eu dyfodol” (Llyfrgell i Gymru a'r Byd - Cynllun Strategol 2021-26)? 

Defnyddir dulliau ymchwil Astudiaethau Archifol Beirniadol er mwyn ailedrych ar ddeunyddiau’r Llyfrgell Genedlaethol o safbwynt cyfoes ac ystyried ystod o ymagweddau perthnasol megis darllen agos adlewyrchol, ymrwymiad moesol, a dehongli achosion o ddistawrwydd. (O ystyried cynnwys y casgliadau hynny, ni fyddai sgiliau iaith Sbaeneg yn hanfodol er mwyn cyflawni'r gwaith.)  

Ynghyd â’r cyfle i fwydo mewn i Gynlluniau Strategol y Llyfrgell Genedlaethol yn y dyfodol agos, bydd y prosiect arfaethedig yn cyfrannu at y bwriad o ailedrych ar naratifau hanesyddol a chynnig ystod ehangach o safbwyntiau ar un o brif gerrig milltir hanes Cymru. Ystyrir hyn yn hynod amserol nid yn unig yng ngolau’r ymdrechion Llywodraeth Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol ond hefyd yng nghyd-destun fframwaith a gweledigaeth y Cwricwlwm Newydd a’r ymdrechion cyfredol tuag at edrych ar hanes mewn ffordd decach a mwy cynhwysol. 

Cymhwyster

Rhaid i ymgeiswyr fod wedi ennill, neu disgwylir iddynt ennill, gradd anrhydedd dosbarth cyntaf a/neu ragoriaeth ar lefel meistr. 

  • Lle mae gan ymgeiswyr raddau meistr lluosog, rhaid cael rhagoriaeth yn y radd sydd fwyaf perthnasol i'r astudiaeth PhD arfaethedig.
  • Os ydych ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer cymhwyster lefel meistr gyda dyddiad dyfarnu disgwyliedig sy'n hwyrach na 01/10/2025, dylech feddu ar radd anrhydedd ail ddosbarth uwch (2:1) o leiaf.
  • Dylech allu dangos llwyddiant gydag isafswm gradd cyfartalog o 70% o leiaf ar gyfer eich modiwlau gradd meistr rhan-un (yr agwedd a addysgir ar eich cwrs meistr yn hytrach na thraethawd hir sy'n canolbwyntio ar ymchwil) a chyflwyno'ch traethawd hir erbyn ddim hwyrach na 30/09/2025.

DS: Os oes gennych radd y tu allan i'r DU, gweler cymariaethau gradd Prifysgol Abertawe i weld a ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd. 

Rhaid i ymgeiswyr allu dechrau eu cwrs astudio ym mis Hydref 2025. Fel rhaglen sy'n seiliedig ar garfan, ni chaniateir gohirio i gyfnod cofrestru arall o fewn y flwyddyn academaidd neu flwyddyn academaidd arall. 

Gofynion Iaith Gymraeg:  

Mae gofynion mynediad safonol y rhaglen yn berthnasol, gyda’r gofyniad ychwanegol o allu ysgrifennu’n hyderus yn y Gymraeg (a/neu feddu ar radd C neu uwch TGAU mewn llenyddiaeth Gymraeg). 

Ysgoloriaeth ar agor i fyfyrwyr sy'n gymwys am ffioedd y DU YN UNIG.  

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth hon yn talu cost lawn ffioedd dysgu ac ariantal blynyddol ar gyfradd UKRI (£19,237 ar hyn o bryd ar gyfer 2024/25).

Bydd treuliau ymchwil ychwanegol rhwng £500 a £1,000 y flwyddyn ar gael hefyd.

Sut i wneud cais

I gyflwyno cais, cwblhewch eich cais ar-lein gan fewnbynnu'r wybodaeth ganlynol: 

  1. Dewis Cwrs –  dewiswch:

*Ar gyfer mis Hydref 2025 dewiswch: 

(Amser llawn) Modern Languages / PhD / Amser llawn / 3 Blynedd / Hydref 

(Rhan-amser) Modern Languages / PhD / Rhan-amser / 6 Blynedd / Hydref 

NEU

*Ar gyfer mis Ionawr 2026 dewiswch:

(Amser llawn) Modern Languages / PhD / Amser llawn / 3 Blynedd / Ionawr 

(Rhan-amser)  Modern Languages / PhD / Rhan-amser / 6 Blynedd / Ionawr 

Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon, mae’n bosib y bydd y system ymgeisio’n rhoi hysbysiad rhybuddio a’ch atal rhag cyflwyno cais. Os bydd hyn yn digwydd, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk lle bydd staff yn hapus i’ch helpu i gyflwyno eich cais. 

  1. Blwyddyn dechrau  – dewiswch  2025 neu 2026 
  2. Cyllid (tudalen 8 ar y broses ymgeisio) - 
  • ‘Ydych chi’n ariannu eich astudiaethau eich hun?’ – dewiswch Nac ydw 
  • ‘‘Enw’r unigolyn neu’r sefydliad sy’n darparu cyllid i astudio’ – nodwch ‘RS737 - Sgyrsiau Anodd’ 

*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru’r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais. Sylwer na chaiff ceisiadau sy’n cael eu derbyn heb yr wybodaeth uchod eu hystyried am yr ysgoloriaeth. 

Mae angen cyflwyno un cais yn unig ar gyfer pob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni fydd ceisiadau sy’n rhestru mwy nag un dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe yn cael eu hystyried. 

SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu a dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i lenwi eich Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:

Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) (ffurflen ar-lein)   

Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno. 

Cofiwch gynnwys y dogfennau canlynol yn eich cais:  

  • CV
  • Tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd (os ydych yn astudio am radd ar hyn o bryd, bydd sgrinluniau o'ch graddau hyd yn hyn yn ddigonol)
  • Llythyr eglurhaol, gan gynnwys ‘Datganiad Personol Atodol’ i esbonio pam mae'r rôl yn gweddu'n arbennig i'ch sgiliau a'ch profiad, a sut byddwch yn dewis datblygu'r prosiect.
  • Un geirda (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur pennawd neu gan ddefnyddio ffurflen geirda Prifysgol Abertawe. Sylwer nad oes modd i ni dderbyn geirdaon sy'n dangos cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi cyfeiriad e-bost eu swydd er mwyn dilysu'r geirda.
  • Tystiolaeth o fodloni gofyniad Iaith Saesneg (lle bo'n briodol).
  • Copi o fisa preswylydd y DU (lle bo'n briodol)
  • Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant
  • Tystiolaeth o fodloni gofyniad Iaith Gymraeg 

Croesewir ymholiadau anffurfiol; cysylltwch â Dr Geraldine Lublin  (g.lublin@abertawe.ac.uk

*Rhannu Data o Geisiadau â Phartneriaid Allanol – sylwer, fel rhan o broses ddethol y cais am ysgoloriaeth, gallwn rannu data o geisiadau â phartneriaid y tu allan i’r brifysgol, pan fo prosiect ysgoloriaeth yn cael ei ariannu ar y cyd.