Dyddiad cau: 11 Rhagfyr 2024

Gwybodaeth Allweddol

Darparwr neu ddarparwyr y cyllid: YGGCC yr ESRC 50%; Prifysgol Abertawe 50% 

Maes pwnc/pynciau: Ysgoloriaeth ymchwil YGGCC yr ESRC ar y llwybr Economeg 

Dyddiad(au) dechrau'r prosiect: 1 Hydref 2025 (bydd cofrestru'n dechrau yng nghanol mis Medi) 

Dyfarniad ‘agored’ yw'r ysgoloriaeth ymchwil hon. Dylai ymgeiswyr ystyried cysylltu â darpar oruchwyliwr cyn iddynt gyflwyno eu cais i gadarnhau bod goruchwyliwr ar gael yn y Brifysgol ac i drafod eu cais drafft. Gellir dod o hyd i wybodaeth am ddiddordebau ymchwil ein staff ar dudalennau gwe Prifysgol Abertawe. Mae disgrifiadau byr o bob llwybr achrededig i'w gweld ar wefan Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru yr ESRC.  

Mae'n bosib y bydd cynrychiolydd y llwybr yn Abertawe, Dr Ansgar Wohlschlegel, yn gallu eich cynghori.  

Arweinydd y Llwybr: Dr Ansgar Wohlschlegel 

Rhaglen astudio sy'n cydwedduPhD Economeg 

Dull Astudio:  Mae modd astudio’n amser llawn neu'n rhan-amser. 

Sylwer na chaiff deiliaid dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil amser llawn yr ESRC fod mewn swydd amser llawn, swydd ran-amser barhaol neu rôl dros dro am gyfnod hir, yn ystod cyfnod eu dyfarniad. Ni chaiff deiliaid ysgoloriaeth ymchwil ran-amser yr ESRC weithio mewn swydd amser llawn. 

Disgrifiad o'r prosiect:  

Yn y cyfnod presennol o heriau byd-eang, mae ymchwil o safon mewn Economeg yn bwysicach nag erioed. Mae'r llwybr yn cyfuno'r arbenigedd neilltuol a'r hanes blaenorol o ragoriaeth ymchwil mewn tri sefydliad - Caerdydd, Bangor ac Abertawe.  Mae Adran Economeg Prifysgol Abertawe'n cyflawni ymchwil ragorol ym mhob maes Economeg, ond mae ganddi brofiad arbennig o gryf ym meysydd macro-economeg, micro-economeg gymhwysol, economeg ynni ac economeg ranbarthol. Mae hefyd yn un o bartneriaid allweddol Sefydliad Ymchwil a Data Economeg Cymru (WISERD) sy'n cynnwys sawl sefydliad. Ar ben hynny, mae'r adran yn gartref i'r Ganolfan Ymchwil i Facro-economeg a Macro-gyllid (CReMMF) sy'n dod ag academyddion blaenllaw yn y maes o ledled y DU a'r tu hwnt ynghyd. 

Mae'r llwybr yn cynnig amgylchedd ymchwil cyfoethog i fyfyrwyr ar draws y lleoliadau, gan gynnwys: cyflwyniadau mewn seminarau PhD wythnosol; presenoldeb mewn gweithdai ymchwil rheolaidd yn y gyfadran, a chyflwyno yno; seminarau rheolaidd gan siaradwyr allanol; mynediad at ddigwyddiadau ymchwil; cynulliadau ymchwil Cymru gyfan a gynhelir yng nghanolfan gynadledda Prifysgol Cymru yn y Canolbarth; cynadleddau rhyngwladol mawr. Er enghraifft, yn ogystal â seminar ymchwil allanol wythnosol mewn Economeg yn Abertawe, mae CReMMF yn cynnal cyfres o seminarau ar-lein mewn Macro-economeg fel fforwm i drafod ag academyddion allanol sy'n gysylltiedig â'r Ganolfan. Yn y llwybr ehangach, y tu hwnt i Abertawe, mae Bangor yn noddi'r Symposiwm Cyfrifeg a Chyllid Doethurol Rhyngwladol (ar y cyd â Phrifysgolion Leeds, Bradford, Strathclyde, Queensland, Salamanca a Bologna), ac mae Caerdydd yn cynnal Cynhadledd Ymchwil Ôl-raddedig flynyddol Cymru mewn Busnes/Rheoli ac Economeg, gan gynnig cyfle i fyfyrwyr ymchwil ac ymchwilwyr gyrfa gynnar i gyflwyno eu gwaith i academyddion rhyngwladol blaenllaw mewn amgylchedd cefnogol ond heriol. 

Byddwn yn annog ac yn hwyluso goruchwyliaeth ar y cyd ar draws sefydliadau pan fo'n briodol. Cefnogir gwaith meithrin carfan drwy gynhadledd ddoethurol flynyddol dan arweiniad myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys carfan lawn myfyrwyr y Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol mewn Economeg yn ogystal â'r rhai sydd wedi'u hariannu drwy ddulliau mewnol ac allanol eraill. 

Hyd astudio: 

Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwil blaenorol ac anghenion hyfforddi a asesir drwy gwblhau Dadansoddiad Cychwynnol o Anghenion Datblygu pan gaiff y cais ei gyflwyno a dadansoddiad llawn cyn dyfarnu os bydd y cais yn llwyddiannus.  

Gall hyd yr astudiaeth amrywio o dair blynedd a hanner i bedair blynedd a hanner (neu gyfnod rhan-amser cyfatebol) gan ddibynnu ar eich profiad blaenorol o ymchwilio.  Bydd cydweithwyr yn YGGCC yn cynnal asesiad o'r ymgeisydd llwyddiannus ac yn gweithio gydag ef/hi i deilwra'r hyfforddiant sy'n cael ei gynnig i ddiwallu anghenion ymchwil deiliad yr ysgoloriaeth. Gallai hyn fod ar ffurf cwrs Meistr llawn, neu gallai fod ar sail cyrsiau unigol wedi'u cynllunio i wella'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y maes astudio dan sylw.  

I fyfyrwyr sy'n astudio am PhD mewn Economeg, bydd opsiwn ar gael hefyd i gwblhau gradd Meistr am ddwy flynedd wedi'i dilyn gan raglen PhD dwy flynedd a hanner o hyd (gan gynnwys lleoliad Ymchwil mewn Ymarfer wedi'i ariannu) ond ni fydd hyn yn cael ei gynnig i bob myfyriwr o angenrheidrwydd. 

Cymhwyster

I dderbyn cyllid ysgoloriaeth ymchwil gan yr ESRC, rhaid bod gennych gymwysterau neu brofiad sy'n gyfwerth â gradd anrhydedd ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd Meistr gan sefydliad ymchwil academaidd yn y DU.  

Croesewir ceisiadau hefyd gan fyfyrwyr â chefndiroedd academaidd anhraddodiadol.

Mae'r Ysgoloriaeth ar agor i ymgeiswyr sy'n gymwys am ffïoedd y DU a ffïoedd rhyngwladol.

Mae ysgoloriaethau ymchwil YGGCC ar gael i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol. Gall hyd at 30% o'n carfan fod yn fyfyrwyr rhyngwladol. Ni fydd yn rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol dalu'r gwahaniaeth rhwng ffïoedd i fyfyrwyr o'r DU a'r gyfradd ryngwladol. Rhaid i ymgeiswyr fodloni gofynion cymhwysedd UKRI.    

Mae YGGCC yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan holl aelodau’r gymuned fyd-eang, heb ystyried oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym yn croesawu ceisiadau i astudio'n amser llawn ac yn rhan-amser. 

Am ddisgrifiad llawn, cliciwch ar y ddolen i'r Saesneg.

Cyllid

Gwerth y cyflog: Cyflog UKRI (£19,237 ar hyn o bryd). 

Mae'r ysgoloriaeth ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffïoedd dysgu, ac yn darparu cyflog byw, di-dreth, blynyddol yn unol â lleiafswm cyfraddau UKRI (sef £19,237 ar hyn o bryd). 

Os oes gennych anabledd, efallai y bydd gennych hawl i'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil.

Bydd gan fyfyrwyr fynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil. 

Gwerth: £940 (2024/25) y flwyddyn. 

Sut i wneud cais

I gyflwyno cais, cwblhewch eich cais ar-lein gan fewnbynnu'r wybodaeth ganlynol:

  1. Dewis Cwrs –  dewiswch:

    Economeg/ Ph.D./ Amser llawn / 3 Blynedd / Hydref
    Economeg/ Ph.D./ Rhan-amser / 6 Blynedd / Hydref

    Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon, mae’n bosib y bydd y system ymgeisio’n rhoi hysbysiad rhybuddio a’ch atal rhag cyflwyno cais. Os bydd hyn yn digwydd, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk lle bydd staff yn hapus i’ch helpu i gyflwyno eich cais.
  1. Blwyddyn dechrau - Dewiswch 2025
  2. Cyllid (tudalen 8) -
  • 'Ydych chi’n ariannu'ch astudiaethau eich hun?' - dewiswch Nac ydw
  • 'Rhowch enw'r unigolyn neu'r sefydliad sy'n darparu'r cyllid astudio' - nodwch ‘RS695 - WGSSS 3'

*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru’r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais. Sylwer na chaiff ceisiadau sy’n cael eu derbyn heb yr wybodaeth uchod eu hystyried am yr ysgoloriaeth.

Mae angen cyflwyno un cais yn unig ar gyfer pob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni fydd ceisiadau sy’n rhestru mwy nag un dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe yn cael eu hystyried.

 

SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu a dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i lenwi eich Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:

Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) (ffurflen ar-lein) 

Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno.

Cofiwch gynnwys y dogfennau canlynol yn eich cais:   

  • Ffurflen Gais yr WGSSS 
  • CV academaidd (dim mwy na dwy dudalen). 
  • Dau eirda academaidd neu broffesiynol (mae’n rhaid i ymgeiswyr gysylltu â chanolwyr a chynnwys y geirdaon yn eu cais. Mae’n rhaid i'r geirdaon fanylu ar gryfderau ymchwil yr ymgeisydd. 
  • Tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd (gan gynnwys cyfieithiadau os yw'n berthnasol)   
  • Os yw'n berthnasol, prawf o Gymhwysedd yn y Saesneg (gweler gofynion mynediad y sefydliad)  
  • Cadarnhad o gyflwyno'r ffurflen Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Am ddisgrifiad llawn, cliciwch ar y ddolen i'r Saesneg.