Daearyddiaeth / Daearyddiaeth Ddynol: Ysgoloriaeth Ymchwil Ysgol Ôl-raddedig Cymru ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol (WGSSS) yr ESRC ar y llwybr Daearyddiaeth Ddynol (RS702)
Dyddiad cau: 11 Rhagfyr 2024
Gwybodaeth Allweddol
Darparwyr y cyllid: WGSSS yr ESRC 50%; Prifysgol Abertawe 50%
Meysydd pwnc: Ysgoloriaeth WGSSS yr ESRC: llwybr Cynllunio Amgylcheddol
Dyddiad(au) dechrau'r prosiect: 1 Hydref 2025 (bydd cofrestru'n dechrau yng nghanol mis Medi)
Goruchwylwyr:
Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn ddyfarniad 'agored'. Dylai ymgeiswyr ystyried trafod â darpar oruchwyliwr cyn iddynt gyflwyno eu cais i gadarnhau bod goruchwyliwr ar gael yn y Brifysgol ac i drafod eu cais drafft. Gellir dod o hyd i wybodaeth am ddiddordebau ymchwil ein staff ar dudalennau gwe Prifysgol Abertawe. Mae disgrifiad o'r llwybr Cynllunio Amgylcheddol ar gael ar wefan Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru.
Mae'n bosib y bydd cynrychiolwyr y llwybr yn Abertawe, yr Athro Stefan Doerr a Dr Chris Muellerleile, yn gallu eich cynghori ymhellach.
Cyd-arweinwyr y Llwybr: Yr Athro Stefan Doerr a Dr Chris Muellerleile
Rhaglen astudio sy'n cydweddu: PhD mewn Daearyddiaeth
Modd astudio: Gellir astudio'n rhan-amser neu'n amser llawn.
Sylwer na chaiff deiliaid dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil amser llawn yr ESRC fod mewn swydd amser llawn, swydd ran-amser barhaol neu rôl dros dro am gyfnod hir, yn ystod cyfnod eu dyfarniad. Ni chaiff deiliaid dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil rhan-amser yr ESRC fod mewn swydd amser llawn.
Disgrifiad o'r prosiect:
Mae cynllunio amgylcheddol yn ymchwilio i ddimensiynau gofodol a phrosesau penderfynu ar gyfer rheoli perthnasoedd o fewn systemau naturiol a dynol mewn modd cynaliadwy a rhyngddynt. Mae'r llwybr hyfforddiant PhD rhyngddisgyblaethol hwn yn pontio'r gwyddorau cymdeithasol a'r gwyddorau amgylcheddol naturiol. Mae'n canolbwyntio ar heriau amgylcheddol allweddol a sut maent yn dechrau ymddangos yng Nghymru, y DU ac yn fyd-eang, gan adlewyrchu heriau presennol o ran polisi i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn y sector amgylcheddol. Mae'r prif bryderon yn cynnwys y canlynol (ond nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr): effeithiau a rheoli newid yn yr hinsawdd; ansawdd amgylcheddol lleol a rhanbarthol; rheoli cadwraeth; a deddfwriaeth amgylcheddol yn dilyn Brexit.
Mae'r Adran Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn lle bywiog a deinamig ar gyfer dilyn astudiaethau doethurol rhyngddisgyblaethol. Mae gan ein hacademyddion hanes hir o hyfforddi myfyrwyr PhD yn llwyddiannus ar gyfer gyrfaoedd yn y sectorau cyhoeddus a phreifat a'r trydydd sector ynghyd â'r byd academaidd. Mae gan ein staff ystod eang o arbenigedd sy'n ganolog i'r llwybr hwn gan gynnwys meintioli a lliniaru newid yn yr hinsawdd, dynameg carbon tirwedd, rheoli llifogydd, llygredd, rheoli peryglon amgylcheddol, lliniaru tanau gwyllt, archaeoleg amgylcheddol, systemau gwybodaeth ddaearyddol a chymwysiadau synhwyro o bell a daearyddiaeth ddiwylliannol, drefol, wleidyddol ac economaidd. Rydym yn cydweithredu'n agos â sefydliadau'r sectorau cyhoeddus a phreifat (e.e. DEFRA, Forest Research, Cyfoeth Naturiol Cymru, y Swyddfa Dywydd, Parciau Cenedlaethol y DU, Gwasanaethau Tân ac Achub, y Swyddfa Gartref, cwmnïau dŵr y DU a'r Sector Iechyd). Mae ein hacademyddion yn mynd ati'n rhagweithiol i recriwtio myfyrwyr PhD ac rydym yn eich annog i archwilio tudalennau gwe ein staff a chysylltu â darpar oruchwylwyr PhD sydd â'r un diddordebau â chi.
Fel rhan o Ysgol Ôl-raddedig Cymru ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol (WGSSS) yr ESRC, mae'r llwybr Cynllunio Amgylcheddol yn seiliedig ar gysylltiadau sefydliadol hirdymor rhwng Adran Daearyddiaeth Prifysgol Abertawe, Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd, Adran Daearydiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor a Sefydliad Ymchwil Cefn Gwlad a Chymuned Prifysgol Swydd Gaerloyw. Mae'r adrannau'n cydweithredu'n helaeth i oruchwylio myfyrwyr PhD, cynnal prosiectau ymchwil a ariennir yn allanol a hyfforddi myfyrwyr ôl-raddedig.
Darperir hyfforddiant drwy raglen gydlynol o fodiwlau unigol a modiwlau preswyl gan ddefnyddio dulliau meintiol ac ansoddol y gwyddorau cymdeithasol, cyfathrebu gwyddoniaeth a chynhadledd ôl-raddedig adeiladu carfannau, a bydd unigolion yn cymryd rhan ar draws y llwybr. Mae opsiynau ar gyfer hyfforddiant arbenigol yn cynnwys Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol a dadansoddi data gofodol, ymchwil feintiol uwch mewn SPSS, modelu cludiant, cyfrifo olion traed amgylcheddol, methodolegau labordy byw, ymchwil i gadwraeth, technegau ymateb ar hap, dadansoddi costau yn erbyn manteision, modelu economaidd gofodol a synhwyro o bell drwy loerennau a dronau.
Hyd astudio:
Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwil blaenorol ac anghenion hyfforddi a asesir drwy gwblhau Dadansoddiad Cychwynnol o Anghenion Datblygu pan gaiff y cais ei gyflwyno a dadansoddiad llawn cyn dyfarnu os bydd y cais yn llwyddiannus.
Gall yr astudiaeth bara rhwng tair blynedd a hanner a phedair blynedd a hanner amser llawn (neu gyfnod cyfatebol os yw'n rhan-amser) gan ddibynnu ar eich profiad ymchwil blaenorol.
Bydd Prifysgol Abertawe, ar y cyd â chydweithwyr yn YGGCC, yn asesu anghenion hyfforddiant ymgeiswyr llwyddiannus ac yn gweithio gyda nhw i deilwra'r hyfforddiant sy'n cael ei gynnig iddynt i ddiwallu eu hanghenion ymchwil. Gallai hyn fod ar ffurf cwrs Meistr llawn, neu gallai fod ar sail cyrsiau unigol wedi'u cynllunio i wella'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y maes astudio dan sylw.
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr a ariennir gan WGSSS gwblhau lleoliad Ymchwil ar Waith a ariennir o 3 mis i gyd (neu gyfwerth rhan-amser). Bydd pob myfyriwr yn cael y cyfle i gwblhau lleoliad mewn sefydliadau academia, polisi, busnes neu gymdeithas sifil.
Cymhwyster
I dderbyn cyllid ysgoloriaeth ymchwil gan yr ESRC, rhaid bod gennych gymwysterau neu brofiad sy'n gyfwerth â gradd anrhydedd ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd Meistr gan sefydliad ymchwil academaidd yn y DU.
Croesewir ceisiadau hefyd gan fyfyrwyr â chefndiroedd academaidd anhraddodiadol.
Mae'r Ysgoloriaeth ar agor i ymgeiswyr sy'n gymwys am ffïoedd y DU a ffïoedd rhyngwladol.
Mae ysgoloriaethau ymchwil YGGCC ar gael i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol. Gall hyd at 30% o'n carfan fod yn fyfyrwyr rhyngwladol. Ni fydd yn rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol dalu'r gwahaniaeth rhwng ffïoedd i fyfyrwyr o'r DU a'r gyfradd ryngwladol. Rhaid i ymgeiswyr fodloni gofynion cymhwysedd UKRI.
Mae YGGCC yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan holl aelodau’r gymuned fyd-eang, heb ystyried oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.
Rydym yn croesawu ceisiadau i astudio'n amser llawn ac yn rhan-amser.
Cyllid
Gwerth y cyflog: Cyflog UKRI (£19,237 ar hyn o bryd).
Mae'r ysgoloriaeth ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffïoedd dysgu, ac yn darparu cyflog byw, di-dreth, blynyddol yn unol â lleiafswm cyfraddau UKRI (sef £19,237 ar hyn o bryd).
Os oes gennych anabledd, efallai y bydd gennych hawl i'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil.
Bydd gan fyfyrwyr fynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil.
Gwerth: £940 (2024/25) y flwyddyn.
Sut i wneud cais
I gyflwyno cais, cwblhewch eich cais ar-lein gan fewnbynnu'r wybodaeth ganlynol:
- Dewis Cwrs – dewiswch:
Daearyddiaeth Ddynol/ Ph.D./ Amser llawn / 3 Blynedd / Hydref
Daearyddiaeth Ddynol/ Ph.D./ Rhan-amser / 6 Blynedd / Hydref
Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon, mae’n bosib y bydd y system ymgeisio’n rhoi hysbysiad rhybuddio a’ch atal rhag cyflwyno cais. Os bydd hyn yn digwydd, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk lle bydd staff yn hapus i’ch helpu i gyflwyno eich cais.
- Blwyddyn dechrau - Dewiswch 2025
- Cyllid (tudalen 8) -
- 'Ydych chi’n ariannu'ch astudiaethau eich hun?' - dewiswch Nac ydw
- 'Rhowch enw'r unigolyn neu'r sefydliad sy'n darparu'r cyllid astudio' - nodwch ‘RS702 - WGSSS 9'
*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru’r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais. Sylwer na chaiff ceisiadau sy’n cael eu derbyn heb yr wybodaeth uchod eu hystyried am yr ysgoloriaeth.
Mae angen cyflwyno un cais yn unig ar gyfer pob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni fydd ceisiadau sy’n rhestru mwy nag un dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe yn cael eu hystyried.
SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu a dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i lenwi eich Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:
• Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) (ffurflen ar-lein)
Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno.
Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost). Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darparu'r dogfennau ategol a restrir erbyn y dyddiad cau a hysbysebir. Sylwer, efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried heb y dogfennau a restrir:
- CV (dwy dudalen ar y mwyaf)
- Cynnig ymchwil (uchafswm o 1000 o eiriau) (ynghyd â chyfeiriadau llyfryddiaethol)
- Manylion am gymwysterau academaidd/proffesiynol ac unrhyw brofiad ymchwil perthnasol
- Tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd
- Llythyr eglurhaol, hyd at ddwy dudalen.Rhaid i'r llythyr eglurhaol gynnwys yr is-benawdau a nodir yn atodiad 1 Canllawiau WGSSS 2024
- Dau eirda academaidd neu broffesiynol
- Tystiolaeth o fodloni'r gofyniad Iaith Saesneg (os yw'n berthnasol)
- Copi o fisa preswylydd y DU (os yw’n berthnasol)
- Cadarnhad o gyflwyno'r ffurflen Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant