Dyddiad cau: 3 Ionawr 2025

Gwybodaeth Allweddol

Mae hon yn Ysgoloriaeth Ymchwil cyfrwng Cymraeg i gychwyn ym mlwyddyn academaidd 2025/26 wedi ei chyllido yn llawn neu’n rhannol drwy

Gynllun Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae Swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig Prifysgol Abertawe hefyd wedi sicrhau cyllid cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) canolog y gellir ei ddefnyddio i gefnogi ysgoloriaethau ymchwil ôl-raddedig ar gyfer ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. I gydnabod y Gymraeg rydym wedi neilltuo hyd at bedair ysgoloriaeth wedi eu hariannu 50% a all gyfateb i’r hyn mae'r Coleg Cymraeg yn ei ariannu a darparu ysgoloriaethau wedi'u hariannu’n llawn, yn cynnwys ffioedd, cyflog a Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil (RTSG).

Pwnc
Y Gymraeg, Hanes Cymru, Hanes Addysg/Addysg Uwch

Dyddiad dechrau’r prosiect
Hydref 2025
Ionawr 2026

Goruchwylwyr: 
Yr Athro Gwynedd Parry
Dr Miriam Elin Jones

Rhaglen astudio wedi’i halinio:
PhD mewn Cymraeg

Dull Astudio: 
Gellir astudio yn llawn amser neu ran amser 

Disgrifiad o’r prosiect:

Y Prosiect
Bywyd a gwaith Norah Isaac yw pwnc y prosiect hwn. Roedd Norah Isaac yn arloeswr ym myd addysg Gymraeg, yn arloeswr ym myd y ddrama Gymraeg, ac yn un o gymwynaswyr mawr y Gymraeg. Er fod mân ysgrifau ar ei bywyd wedi eu cyhoeddi dros y blynyddoedd, nid oes yna gofiant cynhwysfawr wedi ei ysgrifennu hyd yma. Bydd y prosiect hwn yn llanw bwlch mewn hanesyddiaeth Gymraeg, ac yn cyflawni nifer o amcanion ysgolheigaidd. Bydd yn cyflwyno astudiaeth fanwl a thrylwyr o Norah Isaac, ei bywyd, ei gwaith a’i gwaddol. Bydd hefyd yn hybu astudiaethau o fenywod blaenllaw yn hanes Cymru, gan gyfrannu at agenda Llywodraeth Cymru, y BBC a chyrff eraill i hybu ymwybyddiaeth o hanes arwyr benywaidd cuddiedig Cymru.

Arwyddocâd a Gwreiddioldeb
Nid oes astudiaeth fanwl o Norah Isaac wedi ei gwblhau hyd yma. Bydd y prosiect yn ystyried gwahanol agweddau o fywyd Norah Isaac: ei magwraeth a’i phlentyndod, sefydlu’r ysgol Gymraeg gyntaf yn Aberystwyth, ei chyfraniad i Urdd Gobaith Cymru a’i pherthynas a Syr Ifan ab Owen Edwards, ei chyhoeddiadau, ei chyfnod fel darlithydd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin) ac yng Ngholeg y Barri. Prif ffocws yr ymchwil fydd bywyd Norah Isaac a’i chyfraniad i fywyd Cymru a’r iaith Gymraeg yn enwedig.

Methodoleg a Ffynonnellau
Bydd y prosiect yn tynnu ar gyfuniad o ffynonellau archifol, llafar a phrintiedig. Defnyddir archifau yn y Llyfrgell Genedlaethol, ym meddiant Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Archifdy Caerfyrddin, ac mewn eiddo preifat.

Cynhelir cyfweliadau a’r rhai a oedd yn ei hadnabod yn dda, yn enwedig ei chyn-fyfyrwyr a’i chymdogion yn nhref Caerfyrddin.

Strwythur
Rhagwelir y bydd yr astudiaeth yn mabwysiadu strwythur gronolegol, gonfensiynol, ond bydd yna elfen thematig i’r astudiaeth hefyd. Dyma fraslun o’r strwythur a ragwelir:

  1. Cyflwyniad a Methodoleg
  2. Cefndir, magwraeth, dylanwadau cynnar, Coleg y Bari
  3. Urdd Gobaith Cymru, a sefydlu Ysgol Gymraeg Aberystwyth
  4. Y cennad dros Addysg Gymraeg
  5. Y Darlithydd: Y Bari a’r Drindod
  6. Yr awdur – gwaddol llenyddol
  7. Byd y Ddrama a Bywyd Cyhoeddus
  8. Gwerthfawrogiad

Cymhwyster

Rhaid i ymgeiswyr fod wedi ennill, neu disgwylir iddynt ennill, gradd anrhydedd dosbarth cyntaf a/neu ragoriaeth ar lefel meistr.

  • Lle mae gan ymgeiswyr raddau meistr lluosog, rhaid cael rhagoriaeth yn y radd sydd fwyaf perthnasol i'r astudiaeth PhD arfaethedig.
  • Os ydych ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer cymhwyster lefel meistr gyda dyddiad dyfarnu disgwyliedig sy'n hwyrach na 01/10/2025, dylech feddu ar radd anrhydedd ail ddosbarth uwch (2:1) o leiaf.
  • Dylech allu dangos llwyddiant gydag isafswm gradd cyfartalog o 70% o leiaf ar gyfer eich modiwlau gradd meistr rhan-un (yr agwedd a addysgir ar eich cwrs meistr yn hytrach na thraethawd hir sy'n canolbwyntio ar ymchwil) a chyflwyno'ch traethawd hir erbyn ddim hwyrach na 30/09/2025.

DS: Os oes gennych radd y tu allan i'r DU, gweler cymariaethau gradd Prifysgol Abertawe i weld a ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd.

Rhaid i ymgeiswyr allu dechrau eu cwrs astudio ym mis Hydref 2025 neu fis Ionawr 2026.

. Fel rhaglen sy'n seiliedig ar garfan, ni chaniateir gohirio i gyfnod cofrestru arall o fewn y flwyddyn academaidd neu flwyddyn academaidd arall.

Gofynion Iaith Gymraeg:

Mae gofynion mynediad safonol y rhaglen yn berthnasol, gyda’r gofyniad ychwanegol o allu ysgrifennu’n hyderus yn y Gymraeg (a/neu feddu ar radd C neu uwch TGAU mewn llenyddiaeth Gymraeg).

Cyllid

Ysgoloriaeth ar agor i fyfyrwyr sy'n gymwys am ffioedd y DU YN UNIG. 

Mae'r ysgoloriaeth hon yn talu cost lawn ffioedd dysgu ac ariantal blynyddol ar gyfradd UKRI (£19,237 ar hyn o bryd ar gyfer 2024/25).

Bydd treuliau ymchwil ychwanegol rhwng £500 a £1,000 y flwyddyn ar gael hefyd.

Sut i wneud cais

I gyflwyno cais, cwblhewch eich cais ar-lein gan fewnbynnu'r wybodaeth ganlynol

  1. Dewis Cwrs –  dewiswch:

*Ar gyfer mis Hydref 2025 dewiswch:
(Amser llawn) Cymraeg / PhD / Amser llawn / 3 blynedd / Hydref
(Rhan-amser) Cymraeg / PhD / Rhan-amser / 6 blynedd / Hydref

NEU 

*Ar gyfer mis Ionawr 2026 dewiswch:
(Amser llawn) Cymraeg / PhD / Amser Llawn / 3 blynedd / Ionawr
(Rhan-amser) Cymraeg / PhD / Rhan-amser / 6 blynedd / Ionawr

Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon, mae’n bosib y bydd y system ymgeisio’n rhoi hysbysiad rhybuddio a’ch atal rhag cyflwyno cais. Os bydd hyn yn digwydd, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk lle bydd staff yn hapus i’ch helpu i gyflwyno eich cais. 

  1. Blwyddyn dechrau  – dewiswch  2025 neu 2026
  2. Cyllid (tudalen 8 ar y broses ymgeisio) -
  • ‘Ydych chi’n ariannu eich astudiaethau eich hun?’ – dewiswch Nac ydw
  • ‘Enw’r unigolyn neu’r sefydliad sy’n darparu cyllid i astudio’ – nodwch  ‘RS7354 – Norah Isaac’

*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru’r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais. Sylwer na chaiff ceisiadau sy’n cael eu derbyn heb yr wybodaeth uchod eu hystyried am yr ysgoloriaeth. 

Mae angen cyflwyno un cais yn unig ar gyfer pob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni fydd ceisiadau sy’n rhestru mwy nag un dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe yn cael eu hystyried. 

SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu a dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i lenwi eich Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:

Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) (ffurflen ar-lein)   

Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno. 

Cofiwch gynnwys y dogfennau canlynol yn eich cais:  

  • CV
  • Tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd (os ydych yn astudio am radd ar hyn o bryd, bydd sgrinluniau o'ch graddau hyd yn hyn yn ddigonol)
  • Llythyr eglurhaol, gan gynnwys ‘Datganiad Personol Atodol’ i esbonio pam mae'r rôl yn gweddu'n arbennig i'ch sgiliau a'ch profiad, a sut byddwch yn dewis datblygu'r prosiect.
  • Un geirda (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur pennawd neu gan ddefnyddio ffurflen geirda Prifysgol Abertawe. Sylwer nad oes modd i ni dderbyn geirdaon sy'n dangos cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi cyfeiriad e-bost eu swydd er mwyn dilysu'r geirda.
  • Tystiolaeth o fodloni gofyniad Iaith Saesneg (lle bo'n briodol).
  • Copi o fisa preswylydd y DU (lle bo'n briodol)
  • Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant
  • Tystiolaeth o fodloni gofyniad Iaith Gymraeg

Croesewir ymholiadau anffurfiol; cysylltwch â Yr Athro Gwynedd Parry r.g.parry@abertawe.ac.uk

*Rhannu Data o Geisiadau â Phartneriaid Allanol – sylwer, fel rhan o broses ddethol y cais am ysgoloriaeth, gallwn rannu data o geisiadau â phartneriaid y tu allan i’r brifysgol, pan fo prosiect ysgoloriaeth yn cael ei ariannu ar y cyd.