Dyddiad cau: 11 Rhagfyr 2024

Gwybodaeth Allweddol

Darparwr neu ddarparwyr y cyllid: WGSSS yr ESRC 50%; Prifysgol Abertawe (50%

Maes pwnc/pynciau: Ysgoloriaeth Ymchwil WGSSS yr ESRC ar y llwybr Newyddiaduriaeth a Democratiaeth

Dyddiad(au) dechrau'r prosiect (dileer fel y bo'n briodol): 1 Hydref 2025 (bydd cofrestru'n dechrau yng nghanol mis Medi)

Goruchwylwyr:
Dyfarniad ‘agored’ yw'r ysgoloriaeth ymchwil hon. Dylai ymgeiswyr ystyried siarad â darpar oruchwyliwr cyn cyflwyno cais, er mwyn cadarnhau bod gallu goruchwylio priodol ar gael yn y Brifysgol ac er mwyn trafod eu cais drafft. Mae gwybodaeth am ddiddordebau ymchwil ein staff ar gael ar wefan Prifysgol Abertawe. Mae disgrifiadau byr o bob llwybr achrededig i'w gweld ar wefan Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru ESRC.

Mae'n bosib y bydd cynrychiolydd y llwybr yn Abertawe, yr Athro Richard Thomas, yn gallu eich cynghori. Ei gyfeiriad e-bost yw richard.h.thomas@abertawe.ac.uk

Arweinydd y Llwybr: Yr Athro Richard Thomas

Rhaglen astudio sy'n cydweddu: Astudiaethau'r Cyfryngau

Dull astudio: Mae modd astudio’n amser llawn neu yn rhan-amser.

Sylwer na chaiff deiliaid dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil amser llawn yr ESRC fod mewn swydd amser llawn, swydd ran-amser barhaol neu rôl dros dro am gyfnod hir, yn ystod cyfnod eu dyfarniad. Ni chaiff deiliaid ysgoloriaeth ymchwil ran-amser ESRC weithio mewn swydd amser llawn.

Disgrifiad o'r prosiect:
Mae adran y Cyfryngau, Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus yn Abertawe wedi cael ei chydnabod yn gyson am ei rhagoriaeth ac fe'i rhoddir ar y brig yn nhabl cynghrair y DU am wahanol elfennau o'i gwaith cyflawni. Gan ymfalchïo mewn ymdeimlad cryf o gymuned, mae staff a myfyrwyr yn cymryd rhan arloesol wrth astudio'r cyfryngau cyfoes a'u heffaith. Mae gan ein cymysgedd o ymarferwyr uchel eu parch ac ysgolheigion a gydnabyddir yn fyd-eang arbenigedd ar draws ystod eang o is-themâu yn y llwybr Newyddiaduraeth, Democratiaeth a'r Cyfryngau Digidol.

Er enghraifft, er ein bod yn mynd i'r afael ag agweddau traddodiadol ar newyddiaduraeth brint a darlledu a'r ffordd y mae'r rhain yn ymdrin â meysydd allweddol megis gwleidyddiaeth, gwrthdaro, materion ariannol, yr argyfwng hinsawdd a chwaraeon, mae ein harbenigedd yn ymestyn i gyfryngau newyddion digidol amgen, gwirio ffeithiau, gwybodaeth anhrefnus, lleferydd casineb, hiliaeth a chasineb at fenywod. Mae cydweithwyr wedi ymchwilio'n helaeth i'r cyfryngau cymdeithasol a'u holl ddimensiynau, y metafyd, realiti rhithwir ac estynedig, goblygiadau ehangach gwyliadwriaeth ac ymyriadau technolegol i bob elfen o fywyd cyfoes. Rydym yn creu effaith fawr ym meysydd mynediad digidol i grwpiau lleiafrifol a'r ffyrdd y mae newyddion a newyddiaduraeth yn cael eu llywodraethu a'u rheoleiddio, ac yn drosfwaol i hyn i gyd, mae ein hysgolheigion astudiaethau ffilm a theledu yn cynnig dealltwriaeth o sut mae pob elfen o'r fath yn cael ei chyfleu i gynulleidfaoedd ehangach. Mae ein hysgolheigion cysylltiadau cyhoeddus yn weithgar wrth ymchwilio ac ystyried gweithrediad corfforaethol a'r elfennau mwy tarfol yn y proffesiwn hwnnw, a sut mae sefydliadau'n rheoli ac yn cynnal argyfyngau a hunaniaethau brand yn ddigidol. Byddem yn croesawu ceisiadau sy'n ymdrin â'r themâu hyn ac yn ychwanegu dimensiynau newydd a phwysig.

Mae ein cysylltiadau cryf â sector y cyfryngau ei hun - drwy ein Panel Diwydiant – yn sicrhau natur gyfoes ein gweithgareddau ac yn darparu ystod eang o gyfleoedd interniaeth a phrofiad gwaith. I grynhoi, mae astudio PhD yn y Cyfryngau yn Abertawe yn cyfuno manteision cael mynediad at yr arbenigwyr diweddaraf yn y "cyfryngau" yn yr ystyr ehangaf â dod yn rhan o gymuned glos o ysgolheigion sy'n blaenoriaethu cymuned ac ysbryd cydweithio. Mae gennym arbenigwyr mewn dulliau ymchwil sy'n ymdrin â dulliau meintiol ac ansoddol, ac mae arweinydd y llwybr yn gyn-ddeiliad cyllid gan yr ESRC fel myfyriwr ac ymchwilydd ac mae'n ymddiddori'n fawr mewn manteisio i'r eithaf ar fuddion y cyfleoedd rhagorol hyn er mwyn datblygu gyrfaoedd llewyrchus yn y byd academaidd, byd diwydiannol neu'r sector cyhoeddus.

Hyd astudio:
 

Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwil blaenorol ac anghenion hyfforddi a asesir drwy gwblhau Dadansoddiad Cychwynnol o Anghenion Datblygu pan gaiff y cais ei gyflwyno a dadansoddiad llawn cyn dyfarnu os bydd y cais yn llwyddiannus.  

Gall yr astudiaeth bara rhwng tair blynedd a hanner a phedair blynedd a hanner amser llawn (neu gyfnod cyfatebol os yw'n rhan-amser) gan ddibynnu ar eich profiad ymchwil blaenorol.  

Bydd Prifysgol Abertawe, ar y cyd â chydweithwyr yn YGGCC, yn asesu anghenion hyfforddiant ymgeiswyr llwyddiannus ac yn gweithio gyda nhw i deilwra'r hyfforddiant sy'n cael ei gynnig iddynt i ddiwallu eu hanghenion ymchwil. Gallai hyn fod ar ffurf cwrs Meistr llawn, neu gallai fod ar sail cyrsiau unigol wedi'u cynllunio i wella'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y maes astudio dan sylw. 

Mae'n ofynnol i bob myfyriwr a ariennir gan WGSSS gwblhau lleoliad Ymchwil ar Waith a ariennir o 3 mis i gyd (neu gyfwerth rhan-amser). Bydd pob myfyriwr yn cael y cyfle i gwblhau lleoliad mewn sefydliadau academia, polisi, busnes neu gymdeithas sifil.

 

Cymhwyster

I dderbyn cyllid ysgoloriaeth ymchwil gan yr ESRC, rhaid bod gennych gymwysterau neu brofiad sy'n gyfwerth â gradd anrhydedd ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd Meistr gan sefydliad ymchwil academaidd yn y DU.  

Croesewir ceisiadau hefyd gan fyfyrwyr â chefndiroedd academaidd anhraddodiadol.

Mae'r Ysgoloriaeth ar agor i ymgeiswyr sy'n gymwys am ffïoedd y DU a ffïoedd rhyngwladol.

Mae ysgoloriaethau ymchwil YGGCC ar gael i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol. Gall hyd at 30% o'n carfan fod yn fyfyrwyr rhyngwladol. Ni fydd yn rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol dalu'r gwahaniaeth rhwng ffïoedd i fyfyrwyr o'r DU a'r gyfradd ryngwladol. Rhaid i ymgeiswyr fodloni gofynion cymhwysedd UKRI.    

Mae YGGCC yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan holl aelodau’r gymuned fyd-eang, heb ystyried oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym yn croesawu ceisiadau i astudio'n amser llawn ac yn rhan-amser. 

Am ddisgrifiad llawn, cliciwch ar y ddolen i'r Saesneg.

 

Cyllid

Gwerth y cyflog: Cyflog UKRI (£19,237 ar hyn o bryd). 

Mae'r ysgoloriaeth ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffïoedd dysgu, ac yn darparu cyflog byw, di-dreth, blynyddol yn unol â lleiafswm cyfraddau UKRI (sef £19,237 ar hyn o bryd). 

Os oes gennych anabledd, efallai y bydd gennych hawl i'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil.

Bydd gan fyfyrwyr fynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil. 

Gwerth: £940 (2024/25) y flwyddyn.

Sut i wneud cais

I gyflwyno cais, cwblhewch eich cais ar-lein gan fewnbynnu'r wybodaeth ganlynol:

  1. Dewis Cwrs –  dewiswch:

    Astudiaethau'r Cyfryngau/ Ph.D./ Amser llawn / 3 Blynedd / Hydref
    Astudiaethau'r Cyfryngau/ Ph.D./ Rhan-amser / 6 Blynedd / Hydref

    Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon, mae’n bosib y bydd y system ymgeisio’n rhoi hysbysiad rhybuddio a’ch atal rhag cyflwyno cais. Os bydd hyn yn digwydd, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk lle bydd staff yn hapus i’ch helpu i gyflwyno eich cais.
  1. Blwyddyn dechrau - Dewiswch 2025
  2. Cyllid (tudalen 8) -
  • 'Ydych chi’n ariannu'ch astudiaethau eich hun?' - dewiswch Nac ydw
  • 'Rhowch enw'r unigolyn neu'r sefydliad sy'n darparu'r cyllid astudio' - nodwch ‘RS698 - WGSSS 6'

*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru’r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais. Sylwer na chaiff ceisiadau sy’n cael eu derbyn heb yr wybodaeth uchod eu hystyried am yr ysgoloriaeth.

Mae angen cyflwyno un cais yn unig ar gyfer pob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni fydd ceisiadau sy’n rhestru mwy nag un dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe yn cael eu hystyried.

SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu a dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i lenwi eich Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:

• Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) (ffurflen ar-lein) 

Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno.

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost). Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darparu'r dogfennau ategol a restrir erbyn y dyddiad cau a hysbysebir. Sylwer, efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried heb y dogfennau a restrir:

  • CV (dwy dudalen ar y mwyaf) 
  • Cynnig ymchwil (uchafswm o 1000 o eiriau) (ynghyd â chyfeiriadau llyfryddiaethol) 
  • Manylion am gymwysterau academaidd/proffesiynol ac unrhyw brofiad ymchwil perthnasol 
  • Tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd  
  • Llythyr eglurhaol, hyd at ddwy dudalen.Rhaid i'r llythyr eglurhaol gynnwys yr is-benawdau a nodir yn atodiad 1 Canllawiau WGSSS 2024 
  • Dau eirda academaidd neu broffesiynol 
  • Tystiolaeth o fodloni'r gofyniad Iaith Saesneg (os yw'n berthnasol) 
  • Copi o fisa preswylydd y DU (os yw’n berthnasol) 
  • Cadarnhad o gyflwyno'r ffurflen Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Am ddisgrifiad llawn, cliciwch ar y ddolen i'r Saesneg.