Seicoleg: Ysgoloriaeth Ymchwil Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC) yr ESRC ar y llwybr Seicoleg (RS701)
Dyddiad cau: 11 Rhagfyr 2024
Gwybodaeth Allweddol
Darparwr neu ddarparwyr y cyllid: YGGCC yr ESRC 50%; Prifysgol Abertawe 50%
Maes pwnc/pynciau: Ysgoloriaeth ymchwil YGGCC yr ESRC ar y llwybr Seicoleg
Dyddiad(au) dechrau'r prosiect: 1 Hydref 2025 (bydd cofrestru'n dechrau yng nghanol mis Medi)
Goruchwylwyr:
Dyfarniad ‘agored’ yw'r ysgoloriaeth ymchwil hon. Dylai ymgeiswyr ystyried cysylltu â darpar oruchwyliwr cyn iddynt gyflwyno eu cais i gadarnhau bod goruchwyliwr priodol ar gael yn y Brifysgol ac i drafod eu cais drafft. Gellir dod o hyd i wybodaeth am ddiddordebau ymchwil ein staff ar dudalennau gwe Prifysgol Abertawe. Mae disgrifiadau byr o bob llwybr achrededig i'w gweld ar wefan Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru’r ESRC.
Mae'n bosib y bydd cynrychiolydd y llwybr yn Abertawe, Dr Hayley Young, yn gallu eich cynghori.
Arweinydd y Llwybr: Dr Hayley Young
Rhaglen astudio sy'n cydweddu: Seicoleg
Dull astudio: Bydd yn bosib astudio'n amser llawn neu'n rhan-amser.
Sylwer na chaiff deiliaid dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil amser llawn yr ESRC fod mewn swydd amser llawn, swydd ran-amser barhaol neu rôl dros dro am gyfnod hir, yn ystod cyfnod eu dyfarniad. Ni chaiff deiliaid ysgoloriaeth ymchwil ran-amser yr ESRC weithio mewn swydd amser llawn.
Disgrifiad o'r prosiect:
Mae Prifysgol Abertawe, ar y cyd ag Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC) yn gwahodd ceisiadau am PhD mewn Seicoleg, sydd ar gael i ddechrau ym mis Hydref 2024.
Mae'r llwybr rhyngddisgyblaethol hwn yn canolbwyntio ar agweddau gwyddor cymdeithasol ar seicoleg (cymdeithasol, gwybyddol, datblygiadol, amgylcheddol, iechyd, clinigol a fforensig) a deall materion o bwys cymdeithasol/blaenoriaethau'r ESRC megis newid yn yr hinsawdd, cynaliadwyedd, a gwella iechyd a lles. Mae gan Abertawe gryfderau penodol mewn seicoleg fforensig ac iechyd, maeth ac archwaeth, caethiwed ymddygiadol, a lles cynaliadwy. Hefyd, mae gennym nifer o bartneriaethau strategol â'r Bwrdd Iechyd, Llywodraeth Cymru, elusennau lleol, y diwydiant bwyd, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf ei Fawrhydi ac eraill, ac mae llawer o fyfyrwyr yn elwa o'r cyfleoedd hyn i gynnal ymchwil ag effaith a buddion tymor hir.
Mae Abertawe'n gartref i gymuned ymchwil ôl-raddedig fywiog, amrywiol a chynhwysol sy'n elwa o gynhadledd ymchwil ôl-raddedig flynyddol sy'n cynnwys y Gyfadran gyfan, gŵyl ymchwil ôl-raddedig, labordai seicoleg o'r radd flaenaf sydd wedi cael eu gweddnewid yn ddiweddar ac Academi Ymchwil Ôl-raddedig sy'n cynnig cymorth beirniadol a chyfleoedd hyfforddiant.
Hyd astudio:
Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwil blaenorol ac anghenion hyfforddi a asesir drwy gwblhau Dadansoddiad Cychwynnol o Anghenion Datblygu pan gaiff y cais ei gyflwyno a dadansoddiad llawn cyn dyfarnu os bydd y cais yn llwyddiannus.
Gall yr astudiaeth bara rhwng tair blynedd a hanner a phedair blynedd a hanner amser llawn (neu gyfnod cyfatebol os yw'n rhan-amser) gan ddibynnu ar eich profiad ymchwil blaenorol.
Bydd Prifysgol Abertawe, ar y cyd â chydweithwyr yn YGGCC, yn asesu anghenion hyfforddiant ymgeiswyr llwyddiannus ac yn gweithio gyda nhw i deilwra'r hyfforddiant sy'n cael ei gynnig iddynt i ddiwallu eu hanghenion ymchwil. Gallai hyn fod ar ffurf cwrs Meistr llawn, neu gallai fod ar sail cyrsiau unigol wedi'u cynllunio i wella'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y maes astudio dan sylw.
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr a ariennir gan WGSSS gwblhau lleoliad Ymchwil ar Waith a ariennir o 3 mis i gyd (neu gyfwerth rhan-amser). Bydd pob myfyriwr yn cael y cyfle i gwblhau lleoliad mewn sefydliadau academia, polisi, busnes neu gymdeithas sifil.
Cymhwyster
I dderbyn cyllid ysgoloriaeth ymchwil gan yr ESRC, rhaid bod gennych gymwysterau neu brofiad sy'n gyfwerth â gradd anrhydedd ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd Meistr gan sefydliad ymchwil academaidd yn y DU.
Croesewir ceisiadau hefyd gan fyfyrwyr â chefndiroedd academaidd anhraddodiadol.
Mae'r Ysgoloriaeth ar agor i ymgeiswyr sy'n gymwys am ffïoedd y DU a ffïoedd rhyngwladol.
Mae ysgoloriaethau ymchwil YGGCC ar gael i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol. Gall hyd at 30% o'n carfan fod yn fyfyrwyr rhyngwladol. Ni fydd yn rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol dalu'r gwahaniaeth rhwng ffïoedd i fyfyrwyr o'r DU a'r gyfradd ryngwladol. Rhaid i ymgeiswyr fodloni gofynion cymhwysedd UKRI.
Mae YGGCC yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan holl aelodau’r gymuned fyd-eang, heb ystyried oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.
Rydym yn croesawu ceisiadau i astudio'n amser llawn ac yn rhan-amser.
Cyllid
Gwerth y cyflog: Cyflog UKRI (£19,237 ar hyn o bryd).
Mae'r ysgoloriaeth ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffïoedd dysgu, ac yn darparu cyflog byw, di-dreth, blynyddol yn unol â lleiafswm cyfraddau UKRI (sef £19,237 ar hyn o bryd).
Os oes gennych anabledd, efallai y bydd gennych hawl i'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil.
Bydd gan fyfyrwyr fynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil.
Gwerth: £940 (2024/25) y flwyddyn.
Sut i wneud cais
I gyflwyno cais, cwblhewch eich cais ar-lein gan fewnbynnu'r wybodaeth ganlynol:
- Dewis Cwrs – dewiswch:
Seicoleg/ Ph.D./ Amser llawn / 3 Blynedd / Hydref
Seicoleg/ Ph.D./ Rhan-amser / 6 Blynedd / Hydref
Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon, mae’n bosib y bydd y system ymgeisio’n rhoi hysbysiad rhybuddio a’ch atal rhag cyflwyno cais. Os bydd hyn yn digwydd, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk lle bydd staff yn hapus i’ch helpu i gyflwyno eich cais.
- Blwyddyn dechrau - Dewiswch 2025
- Cyllid (tudalen 8) -
- 'Ydych chi’n ariannu'ch astudiaethau eich hun?' - dewiswch Nac ydw
- 'Rhowch enw'r unigolyn neu'r sefydliad sy'n darparu'r cyllid astudio' - nodwch ‘RS701 - WGSSS 8'
*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru’r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais. Sylwer na chaiff ceisiadau sy’n cael eu derbyn heb yr wybodaeth uchod eu hystyried am yr ysgoloriaeth.
Mae angen cyflwyno un cais yn unig ar gyfer pob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni fydd ceisiadau sy’n rhestru mwy nag un dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe yn cael eu hystyried.
SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu a dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i lenwi eich Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:
Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) (ffurflen ar-lein)
Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno.
Cofiwch gynnwys y dogfennau canlynol yn eich cais:
- Ffurflen Gais yr WGSSS
- CV academaidd (dim mwy na dwy dudalen).
- Dau eirda academaidd neu broffesiynol (mae’n rhaid i ymgeiswyr gysylltu â chanolwyr a chynnwys y geirdaon yn eu cais. Mae’n rhaid i'r geirdaon fanylu ar gryfderau ymchwil yr ymgeisydd.
- Tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd (gan gynnwys cyfieithiadau os yw'n berthnasol)
- Os yw'n berthnasol, prawf o Gymhwysedd yn y Saesneg (gweler gofynion mynediad y sefydliad)
- Cadarnhad o gyflwyno'r ffurflen Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant