Dyddiad cau: 11 Rhagfyr 2024

Gwybodaeth Allweddol

Darparwr neu ddarparwyr y cyllid: WGSSS yr ESRC 50%; Prifysgol Abertawe 50%

Maes/Meysydd Pwnc: Ysgoloriaeth ymchwil WGSSS yr ESRC ar y llwybr Cymdeithaseg a Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Dyddiad(au) dechrau'r prosiect: 1 Hydref 2025 (bydd cofrestru'n dechrau yng nghanol mis Medi)

Goruchwylwyr:
Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn ddyfarniad 'agored'. Dylai ymgeiswyr ystyried trafod â darpar oruchwyliwr cyn iddynt gyflwyno eu cais i gadarnhau bod goruchwyliwr ar gael yn y Brifysgol ac i drafod eu cais drafft. Gellir dod o hyd i wybodaeth am ddiddordebau ymchwil ein staff ar dudalennau gwe Prifysgol Abertawe. Mae disgrifiadau byr o bob llwybr achrededig i'w gweld ar wefan Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru yr ESRC.
Bydd cynrychiolydd y llwybr yn Abertawe, Krijn Peters (Gwyddoniaeth a Thechnoleg): k.peters@abertawe.ac.uk a Steve Garner (Cymdeithaseg): s.j.garner@abertawe.ac.uk, yn gallu rhoi cyngor i chi.

Arweinwyr Llwybr: Krijn Peters (Gwyddoniaeth a Thechnoleg) a Steve Garner (Cymdeithaseg).

Rhaglen astudio sy'n cydweddu: PhD mewn Cymdeithaseg (PhD gyda ffocws ar Astudiaethau Gwyddoniaeth a Thechnoleg o fewn cylch gwaith un o adrannau eraill Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe).

Dull astudio: Mae modd astudio’n amser llawn neu'n rhan-amser.

Sylwer na chaiff deiliaid dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil amser llawn yr ESRC fod mewn swydd amser llawn, swydd ran-amser barhaol neu rôl dros dro am gyfnod hir, yn ystod cyfnod eu dyfarniad. Ni chaiff deiliaid dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil rhan-amser yr ESRC fod mewn swydd amser llawn.

Disgrifiad o'r prosiect:
Bydd y llwybr hwn yn defnyddio darpariaeth ac ymchwil ardderchog mewn hyfforddiant dulliau cymdeithasegol yn Abertawe, i feithrin gallu a gwireddu strategaeth Cymru gyfan rwydweithiol ar gyfer hyfforddiant doethurol mewn Cymdeithaseg ac Astudiaethau Gwyddoniaeth a Thechnoleg, gan ddefnyddio dulliau FtF, hybrid a chyfunol. Mae cryfderau'r llwybr yn cynnwys canolfannau a buddsoddiadau UKRI eraill, ADR Cymru, y Ganolfan Ymchwil i Heneiddio a Dementia.

Mae Cymdeithaseg/Astudiaethau Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn ddisgyblaeth ddatblygol o ran ei chryfder ym Mhrifysgol Abertawe sydd ar hyn o bryd yn rhan o Uned Asesu 20, gyda phocedi o ragoriaeth sy'n cyd-fynd â themâu trawsbynciol WGSSSS. Dyma gyfuniad o ddau lwybr DTP2, sy'n gyfagos o ran disgyblaethau, gydag estyniad sy'n cynnwys Bangor ac Abertawe, yn ogystal â Chaerdydd.

Amgylchedd Ymchwil
Hyfforddiant: Mae'r llwybr yn cynnig hyfforddiant uwch mewn: Dulliau Meintiol ac Ansoddol (pob sefydliad addysg uwch); Ethnograffeg; Dadansoddi Rhyngweithiadau (Dulliau Sain, Fideo ac Amlfoddol); Ymagweddau Uwch at Astudiaethau Gwyddoniaeth a Thechnoleg; Damcaniaethu Newid a Thrawsnewid Cymdeithasol Cyfoes; Ystadegau Uwch; ac Ysgol Haf Ymchwil Ôl-raddedig ar Ystadegau, o 2024 (Abertawe). Bydd myfyrwyr hefyd yn gallu cymryd rhan mewn hyfforddiant a ddarperir gan WISERD, sy'n cyd-fynd yn agos â'r llwybr, gan elwa o'i bartneriaeth â Chanolfan Genedlaethol Dulliau Ymchwil yr ESRC (NCRM) (2019-2024), canolfan ar gyfer darparu hyfforddiant arloesol a gweithgareddau meithrin gallu. Yn ogystal â chyfuno'r adnoddau hyn pan fo hynny'n bosibl, byddwn hefyd yn defnyddio cymorth hyfforddi WGSSS i ddatblygu a phecynnu cyfres o gyrsiau hyfforddiant byr ar ddulliau ar-lein, yn ogystal â chreu a chyflwyno ysgol haf i'r llwybr/y clwstwr (a gynhelir ar sail gylchdro fel digwyddiad 'signal'), sydd hefyd ar agor i lwybrau a Phartneriaethau Hyfforddiant Doethurol eraill, pan fo hynny'n ymarferol.

Mae ymgysylltu â'r gymuned yn cynnwys cyflwyniadau yn yr Eisteddfod Genedlaethol a Gŵyl y Gelli ac ymchwil gydweithredol gydag, er enghraifft, y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, Arolygiaeth Gofal Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (partner ffurfiol yn WGSSS), Shelter Cymru, a Chanolfan Ieuenctid a Chymunedol Senghennydd (De Cymru).

Meithrin y Garfan: Byddwn yn agor grwpiau ymchwil sy'n canolbwyntio ar sefydliadau addysg uwch i fyfyrwyr pob llwybr a chlwstwr. Bydd y dull rhwydweithio hwn yn cynnwys y gweithgareddau mewn cyfres o weithgareddau hybrid a fydd ar agor ar draws y llwybr, gan wneud y gorau o gyfleoedd ar gyfer meithrin carfannau a chyfranogi. Mae cylchdroi'r ysgol haf yn gweithredu fel digwyddiad signal blynyddol i'r garfan.

Ymchwil mewn Ymarfer: Bydd y llwybr yn elwa o gysylltiadau pob adran sy'n cymryd rhan â'r Llywodraeth, y sector masnachol a'r gymdeithas sifil ehangach. Bydd cysylltiadau agos â Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ('What Works Centre' sydd gan yr ESRC) a Sefydliad Awen, yn dod ag ymchwilwyr, y diwydiannau creadigol a'r cyhoedd ynghyd i gynnig potensial cyfoethog ar gyfer lleoliadau gwaith a goruchwylio cydweithredol.

Hyd astudio: 

Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwil blaenorol ac anghenion hyfforddi a asesir drwy gwblhau Dadansoddiad Cychwynnol o Anghenion Datblygu pan gaiff y cais ei gyflwyno a dadansoddiad llawn cyn dyfarnu os bydd y cais yn llwyddiannus.  

Gall yr astudiaeth bara rhwng tair blynedd a hanner a phedair blynedd a hanner amser llawn (neu gyfnod cyfatebol os yw'n rhan-amser) gan ddibynnu ar eich profiad ymchwil blaenorol.  

Bydd Prifysgol Abertawe, ar y cyd â chydweithwyr yn YGGCC, yn asesu anghenion hyfforddiant ymgeiswyr llwyddiannus ac yn gweithio gyda nhw i deilwra'r hyfforddiant sy'n cael ei gynnig iddynt i ddiwallu eu hanghenion ymchwil. Gallai hyn fod ar ffurf cwrs Meistr llawn, neu gallai fod ar sail cyrsiau unigol wedi'u cynllunio i wella'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y maes astudio dan sylw. 

Mae'n ofynnol i bob myfyriwr a ariennir gan WGSSS gwblhau lleoliad Ymchwil ar Waith a ariennir o 3 mis i gyd (neu gyfwerth rhan-amser). Bydd pob myfyriwr yn cael y cyfle i gwblhau lleoliad mewn sefydliadau academia, polisi, busnes neu gymdeithas sifil.

Cymhwyster

I dderbyn cyllid ysgoloriaeth ymchwil gan yr ESRC, rhaid bod gennych gymwysterau neu brofiad sy'n gyfwerth â gradd anrhydedd ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd Meistr gan sefydliad ymchwil academaidd yn y DU.  

Croesewir ceisiadau hefyd gan fyfyrwyr â chefndiroedd academaidd anhraddodiadol.

Mae'r Ysgoloriaeth ar agor i ymgeiswyr sy'n gymwys am ffïoedd y DU a ffïoedd rhyngwladol.

Mae ysgoloriaethau ymchwil YGGCC ar gael i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol. Gall hyd at 30% o'n carfan fod yn fyfyrwyr rhyngwladol. Ni fydd yn rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol dalu'r gwahaniaeth rhwng ffïoedd i fyfyrwyr o'r DU a'r gyfradd ryngwladol. Rhaid i ymgeiswyr fodloni gofynion cymhwysedd UKRI.    

Mae YGGCC yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan holl aelodau’r gymuned fyd-eang, heb ystyried oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym yn croesawu ceisiadau i astudio'n amser llawn ac yn rhan-amser.

Am ddisgrifiad llawn, cliciwch ar y ddolen i'r Saesneg.

Cyllid

Gwerth y cyflog: Cyflog UKRI (£19,237 ar hyn o bryd). 

Mae'r ysgoloriaeth ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffïoedd dysgu, ac yn darparu cyflog byw, di-dreth, blynyddol yn unol â lleiafswm cyfraddau UKRI (sef £19,237 ar hyn o bryd). 

Os oes gennych anabledd, efallai y bydd gennych hawl i'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil.

Bydd gan fyfyrwyr fynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil. 

Gwerth: £940 (2024/25) y flwyddyn.

Sut i wneud cais

I gyflwyno cais, cwblhewch eich cais ar-lein gan fewnbynnu'r wybodaeth ganlynol:

  1. Dewis Cwrs –  dewiswch:
    Cymdeithaseg/ Ph.D./ Amser llawn / 3 Blynedd / Hydref
    Cymdeithaseg/ Ph.D./ Rhan-amser / 6 Blynedd / Hydref

    Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon, mae’n bosib y bydd y system ymgeisio’n rhoi hysbysiad rhybuddio a’ch atal rhag cyflwyno cais. Os bydd hyn yn digwydd, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk lle bydd staff yn hapus i’ch helpu i gyflwyno eich cais.
  1. Blwyddyn dechrau - Dewiswch 2025
  2. Cyllid (tudalen 8) -
  • 'Ydych chi’n ariannu'ch astudiaethau eich hun?' - dewiswch Nac ydw
  • 'Rhowch enw'r unigolyn neu'r sefydliad sy'n darparu'r cyllid astudio' - nodwch ‘RS706 - WGSSS 13'

*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru’r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais. Sylwer na chaiff ceisiadau sy’n cael eu derbyn heb yr wybodaeth uchod eu hystyried am yr ysgoloriaeth.

Mae angen cyflwyno un cais yn unig ar gyfer pob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni fydd ceisiadau sy’n rhestru mwy nag un dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe yn cael eu hystyried.

 

SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu a dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i lenwi eich Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:

Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) (ffurflen ar-lein) 

Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno.

Cofiwch gynnwys y dogfennau canlynol yn eich cais:   

  • Ffurflen Gais yr WGSSS 
  • CV academaidd (dim mwy na dwy dudalen). 
  • Dau eirda academaidd neu broffesiynol (mae’n rhaid i ymgeiswyr gysylltu â chanolwyr a chynnwys y geirdaon yn eu cais. Mae’n rhaid i'r geirdaon fanylu ar gryfderau ymchwil yr ymgeisydd. 
  • Tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd (gan gynnwys cyfieithiadau os yw'n berthnasol)   
  • Os yw'n berthnasol, prawf o Gymhwysedd yn y Saesneg (gweler gofynion mynediad y sefydliad)  
  • Cadarnhad o gyflwyno'r ffurflen Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Am ddisgrifiad llawn, cliciwch ar y ddolen i'r Saesneg.