Jess Smith

Mae Jess Smith yn fyfyriwr PhD sy'n gysylltiedig â'r ganolfan ymchwil i Gamblo Milwrol (MilGAM) ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae prosiect Jess yn canolbwyntio ar “understanding the lived experience of service personnel, veterans and affected others coping with harm from gambling.” Dan oruchwyliaeth Simon Dymond a Jamie Torrance, dechreuodd prosiect Jess ym mis Ionawr ar ôl cynnal adolygiadau manwl o ymchwil bresennol a phori'n ddyfnach i'r pwnc.

Yn ystod PhD Jess, bydd hi'n cefnogi ac yn cynorthwyo prosiectau eraill er mwyn cyfrannu at ymdrechion ymchwil holl feysydd gwaith y ganolfan.

Simon Wright

Mae Simon Wright yn fyfyriwr PhD sy'n gysylltiedig â'r ganolfan Ymchwil i Gamblo Milwrol (MilGAM) ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae prosiect Simon yn canolbwyntio ar ymyriadau digidol ar gyfer materion gamblo anhrefnus a rhai cysylltiedig gyda'r poblogaethau milwrol. Dan oruchwyliaeth Simon Dymond a Martyn Quigley, dechreuodd prosiect Simon ym mis Ionawr 2024 ar ôl adolygu a chyfuno llenyddiaeth ar ei bwnc PhD.

Bwriad Simon yw cefnogi prosiectau eraill ym MilGam cyn dechrau ar ei brosiectau ei hun dros y misoedd nesaf.

Chelsea Hughes 

Mae Chelsea'n fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Abertawe a chaiff ei PhD ei hariannu gan Raglen Isadeiledd Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Mae prosiect Chelsea'n canolbwyntio ar ddylunio a gwerthuso therapïau sy'n seiliedig ar realiti rhithwir er mwyn deall a thrin anhwylder gamblo. Bydd prosiect Chelsea'n cychwyn ym mis Ionawr 2025, dan oruchwyliaeth Simon Dymond, Jamie Torrance a Martyn Quigley.

Drwy gydol y prosiect, bydd Chelsea'n cydweithio ag Imersifi (datblygwyr apiau realiti rhithwir arloesol) a phartneriaid academaidd.

Jack McGarrigle 

Mae prosiect Jack yn canolbwyntio ar "The identification and impact of dark patterns in online gambling", dan oruchwyliaeth Simon, Jamie a Martyn. Caiff y prosiect ei gyllido gan Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (WGSSS).