Edwin Burns

Dr Edwin Burns

Uwch-ddarlithydd mewn Seicoleg, Psychology

Cyfeiriad ebost

Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Edwin Burns yn seicolegydd sy'n astudio golwg mewn poblogaethau niwronodweddiadol, niwroseicolegol, a niwroddatblygiadol. Mae llawer o'i ymchwil wedi canolbwyntio ar brosopagnosia, cyflwr lle mae adnabod wynebau yn ddifrifol anodd i bobl. Mae gan Dr Burns hefyd ddiddordeb ym metawyddoniaeth ymchwil niwroddatblygiadol a niwroseicolegol, yn benodol sut mae dulliau diagnostig yn cael effaith ar wybodaeth wyddonol, lles cleifion, a sut y gallwn ddatrys problemau sy'n ymwneud a methu diagnosio cyflwr.

Mae Dr Burns hefyd yn cynnal gwaith cyfochrog i sut rydyn ni'n canfod wynebau mewn cyd-destunau cymdeithasol. Er enghraifft, a yw pobl yn ymddangos yn fwy atyniadol neu'n ddibynadwy pan fyddant wedi'u hamgylchynu gan ffrindiau? Mae cyd-destunau o'r fath yn gallu arwain at ffenomenon o'r enw 'cheerleader' neu'r effaith 'ffrind', lle gall presenoldeb eraill effeithio ar ein hymddangosiadau. Mae gwaith Edwin yn ymchwilio i sut y gallwn gymhwyso'r egwyddorion hyn i’r byd go iawn.

Meysydd Arbenigedd

  • Canfyddiad gweledol
  • Prosopagnosia
  • Cyflyrau niwroddatblygiadol
  • Niwroseicoleg
  • Prosesau diagnostig
  • Metawyddoniaeth
  • Effeithiau cyd-destunau cymdeithasol