ILS1
Dr Jodie Croxall

Dr Jodie Croxall

Athro Cyswllt Er Anrhydedd, Medicine Health and Life Science

Cyfeiriad ebost

Trosolwg

Mae Dr Jodie Croxall yn Athro Cysylltiol, yn un o Uwch-gymrodorion yr Academi Addysg Uwch, ac yn Gyfarwyddwr y rhaglen BSc yn Iechyd Poblogaethau a'r Gwyddorau Meddygol. Cyn dechrau gyrfa academaidd, bu Jodie yn gweithio mewn sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol amrywiol, gan gynnwys ysbytai'r GIG, gwasanaethau cymdeithasol a'r trydydd sector. Yna penodwyd Jodie i nifer o swyddi ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys y Ganolfan Ymchwil Gwaith a Gofal Cymdeithasol, y Ganolfan Heneiddio Arloesol a'r Uned Ymchwil Gwybodaeth Iechyd. Rhoddodd y profiadau hyn ddealltwriaeth unigryw i Jodie o'r ystod o ffactorau cymhleth sy'n dylanwadu ar iechyd a lles. Ers cael swydd fel darlithydd yn 2010, mae Jodie wedi arwain y gwaith o gynllunio, gweithredu a chyflwyno nifer o raglenni israddedig ac ôl-raddedig, ac mae hi bellach yn arwain gweithgareddau sicrhau a gwella ansawdd allweddol, gan gynnwys bod yn Ddirprwy Gadeirydd Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni'r Brifysgol ac yn Gyd-gyfarwyddwr Cyflogadwyedd yr Ysgol Feddygaeth.

Meysydd Arbenigedd

  • Iechyd Poblogaethau
  • Penderfynyddion ac anghydraddoldebau iechyd
  • Gwybodeg Iechyd
  • Polisi Iechyd
  • Marwolaeth, Marw a Phrofedigaeth
  • Astudiaethau Anabledd
  • Biofoeseg
  • Cyflogadwyedd

Uchafbwyntiau Gyrfa

Prif Wobrau

Uwch-gymrawd yr Academi Addysg Uwch