Trosolwg
Mae gan Michaela gefndir eang mewn ymgyfreitha, ac mae’n arbenigo mewn cyfraith sifil a theulu, gan gynnwys anafiadau personol a gwaith cyfreithiol cyhoeddus a phreifat i deuluoedd. Ar hyn o bryd, mae hi’n cynorthwyo wrth gyflwyno’r cyrsiau Ymgyfreitha Sifil a Phrofiant ac mae’n gyfrifol am y cyrsiau dewisol Cyfraith Teulu ac Ymarfer a Chyfraith Gofal Plant.
Mae Michaela yn cyfuno addysgu ag ymarfer ac mae’n gyfreithiwr cysylltiol gyda’r cwmni Smith Llewelyn Partnership. Wrth ymarfer yn llawn amser, roedd Michaela yn rhan o sefydlu Clinig Pro Bono’r Ysgol ac mae wedi parhau i gydlynu hyn ers ymuno â thîm cwrs Ymarfer y Gyfraith.