Golwg o Gampws Singleton gan gynnwys Parc Singleton a’r traeth, gyda’r môr yn ymestyn i’r gorwel
Llun Proffil o Dr. Oğulcan Ekiz

Mr Ogulcan Ekiz

Darlithydd yn y Gyfraith, Law

Cyfeiriad ebost

Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Ymunodd Oğulcan Ekiz ag Ysgol y Gyfraith fel Darlithydd ym mis Awst 2023. Cyn hynny, bu'n gweithio fel cynullydd modiwl rhan-amser a chydymaith addysgu ym Mhrifysgol y Frenhines Mary, Llundain. 

Cynhaliodd Oğulcan ei ymchwil PhD ym Mhrifysgol y Frenhines Mary Llundain wedi'i hariannu gan ysgoloriaeth ymchwil y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol. Astudiodd am LLM ym Mhrifysgol y Frenhines Mary Llundain â Bwrsariaeth J.A.L. Sterling i Ôl-raddedigion.  

Mae Oğulcan yn rhan o'r Rhwydwaith Hawlfraint a Phastiche a ariennir gan yr AHRC, ac mae'n gydweithredwr Rhwydwaith y Celfyddydau/y Gyfraith. Mae e'n gweithio'n agos gydag Undeb yr Artistiaid yn Lloegr ar faterion sy'n ymwneud â hawlfraint.

Meysydd Arbenigedd

  • Cyfraith Eiddo Deallusol
  • Y Diwydiannau Creadigol (yn benodol ffotograffiaeth, y celfyddydau gweledol a damcaniaeth)
  • Damcaniaeth a Diwylliant Cyfreithiol
  • Y gyfraith a chymunedau