Professor Neil Bezodis

Yr Athro Neil Bezodis

Athro

Cyfeiriad ebost

Swyddfa Academaidd - A116
Llawr Cyntaf
Adeilad Dwyreinol Peirianneg
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Neil Bezodis yn Athro Cyswllt mewn Biomecaneg a Thechnoleg yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, ac ar hyn o bryd mae'n arwain y Grŵp Ymchwil Chwaraeon Elitaidd a Phroffesiynol (EPS). Mae Neil wedi bod yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch (HEA) ers 2012 ac yn gyfarwyddwr etholedig y Gymdeithas Ryngwladol Biomecaneg mewn Chwaraeon (ISBS) ers 2014. Daeth yn Gymrawd ISBS yn 2017, ac fe'i hetholwyd yn Is-lywydd (Dyfarniadau) yn 2019.

Ar hyn o bryd Neil yw'r Cyd-AP (arweinydd Gwyddor Chwaraeon) ar brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n cael ei arwain gan EPS a Chanolfan Argraffu a Chaenu Cymru ac mae’n gweithio mewn cydweithrediad ag amrywiaeth o bartneriaid diwydiannol gan gynnwys Sefydliad Chwaraeon Lloegr. Mae'r prosiect hwn yn datblygu amrywiaeth o ddyfeisiau clyfar printiedig i'w defnyddio ar draws sbectrwm eang o gymwysiadau, gan gynnwys ar gyfer athletwyr Olympaidd i baratoi ar gyfer Gemau Olympaidd Tokyo 2021.

Mae diddordebau ymchwil eang Neil yn canolbwyntio ar ddeall biomecaneg technegau chwaraeon, gan ganolbwyntio'n benodol ar gyflymiad gwibio a Rygbi'r Undeb. Mae'r ymchwil hon yn cynnwys amrywiaeth o dechnegau, yn eu plith ddulliau empirig ac efelychiadol. Drwy gydol ei yrfa ymchwil, mae Neil wedi gweithio'n agos gydag amrywiaeth o sefydliadau chwaraeon gan gynnwys British Athletics, Sefydliad Chwaraeon Lloegr (EIS), Yr Undeb Rygbi (RFU), Rygbi'r Scarlets a Nofio Cymru.

Fel rhan o'r ymchwil hon, mae Neil hefyd yn cydweithio ag amrywiaeth o academyddion rhyngwladol blaenllaw o sefydliadau gan gynnwys Prifysgol Dechnoleg Auckland (Seland Newydd), Prifysgol Fukuoka (Japan), Y Sefydliad Cenedlaethol Ffitrwydd a Chwaraeon yn Kanoya (Japan), Prifysgol Preoria (De Affrica), Prifysgol Tsukuba (Japan), a Phrifysgol Victoria (Awstralia).

Meysydd Arbenigedd

  • Biomecaneg Chwaraeon

Yr Athro Neil Bezodis: Darlith Agoriadol, 2022