Mr Richard Leonard-Davies

Uwch-ddarlithydd
Law

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602728
131
Llawr Cyntaf
Adeilad Richard Price
Campws Singleton

Trosolwg

Astudiodd Richard y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ennill LLB ag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn 2002. Dyfarnwyd Diploma Ôl-raddedig â Chlod mewn Ymarfer Cyfreithiol iddo gan Brifysgol Caerdydd yn 2003 a chafodd ei dderbyn yn gyfreithiwr yn 2005 ar ôl cymhwyso gyda Geldards LLP. Ymunodd â Phrifysgol Abertawe ym mis Awst 2007.

Mae ganddo ddiddordeb brwd mewn cyfraith busnes, cyfraith fasnachol a chyfraith eiddo wedi iddo hyfforddi a chymhwyso gyda Geldards LLP, un o gwmnïau cyfraith fasnachol rhanbarthol mwyaf blaenllaw’r DU. Arbenigodd mewn cyllid eiddo a benthyca gwarantedig ar ôl cymhwyso fel cyfreithiwr.

Ar ôl iddo arwain y modiwl craidd mewn Cyfraith ac Ymarfer Busnes am sawl blwyddyn, mae Richard bellach yn arweinydd y modiwl craidd mewn Cyfraith ac Ymarfer Eiddo ar y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (LPC) a'r rhaglen LLM mewn Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol yn Abertawe. Yn ogystal, mae'n arwain y modiwl dewisol mewn Cyfraith Cyflogaeth ar y rhaglen LPC ac yn darlithio yn y maes hwn.

Mae'n rhoi darlithoedd ac yn arwain seminarau ar Gyfraith Cwmnïau i fyfyrwyr israddedig. Yn y gorffennol, mae wedi bod yn arweinydd modiwl ar y cyrsiau Cyfraith Busnes I a Chyfraith Busnes II. Y prif gyfrifoldeb ar y cyrsiau hyn oedd rhoi darlithoedd i’r Ysgol Reolaeth, gan ganolbwyntio ar sut mae cyfreithiau sylfaenol Cymru a Lloegr yn berthnasol mewn cyd-destun busnes. Mae Richard wedi llunio a rhoi darlithoedd a seminarau ar Gyfraith Cystadlu a Chyfraith Cwmnïau Gymharol fel rhan o'r rhaglenni Meistr LLM a Addysgir, ac mae wedi arwain seminarau ar y modiwl Ecwiti ac Ymddiriedolaethau ar y Diploma yn y Gyfraith i Raddedigion (GDL).

Yn 2017, enillodd Richard statws Cymrawd o'r Academi Addysg Uwch i gydnabod ei gyflawniad yn erbyn Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU ar gyfer cymorth dysgu ac addysgu mewn addysg uwch.

Yn 2022, penodwyd Richard yn aelod o'r tîm rheoli â chyfrifoldeb am gyfres Prifysgol Abertawe o gyrsiau ymarfer cyfreithiol proffesiynol.

Meysydd Arbenigedd

  • Cyfraith Busnes
  • Cyfraith Cwmnïau
  • Cyfraith Cyflogaeth
  • Cyfraith Eiddo
  • Cyfraith Cystadlu
  • Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Prif Wobrau
  • Enwebwyd am Wobr Addysgu Nodedig Prifysgol Abertawe, 2012.
  • Enwebwyd am Wobr Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu (ELTA), 2014 a 2021.
  • Cydnabuwyd yn Gymrawd o'r Academi Addysg Uwch, 2017.