Trosolwg
Ymunodd Sara ag Ysgol y Gyfraith ym mis Awst 2020. Ei diddordebau ymchwil yw troseddu ac erledigaeth yn y byd digidol, plismona, technoleg gyfreithiol a chyfraith dechnegol, yn ogystal â moeseg data. Mae ganddi brofiad o ddefnyddio dulliau ansoddol a meintiol ac mae'n angerddol am fanteision gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr a rhanddeiliaid, i ddefnyddio manteision dulliau cymysg ac ymchwil ryngddisgyblaethol.
Mae gan Sara radd BSc mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol a Diploma yn y Gyfraith i Raddedigion. Mae hi hefyd wedi ymgymryd â gradd MSc drwy Ymchwil ar blismona gwrth-derfysgaeth. Yn ogystal, mae wedi gweithio fel ymchwilydd yn y sectorau diwydiant ac academaidd, wedi bod yn intern gyda Swyddfa Gartref y DU, ac wedi bod yn diwtor am bum mlynedd yn y Gyfraith a Throseddeg.
Bu ei phrosiect PhD a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) yn archwilio bod yn agored i niwed ac erledigaeth (fynych) yng nghyd-destun twyll a throseddau cyfrifiadur, ar y cyd ag Uned Troseddu Cyfundrefnol Rhanbarth De Cymru.
Yn ei hamser hamdden, mae Sara'n gwirfoddoli gyda'r elusen Asylum Justice ac mae'n cynhyrchu ac yn cyd-gyflwyno’r podlediad Digital Faultlines (podlediad Swansea Cyber Law and Security gynt).