Trosolwg
Mae Dr Sara Jones yn ddarlithydd mewn Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Abertawe ac yn ymchwilydd yn y Ganolfan Llaethiad, Bwydo Babanod ac Ymchwil Trawsfudol (LIFT). Yn 2009, cymhwysodd fel nyrs oedolion ac yna fel nyrs iechyd y cyhoedd cymunedol arbenigol (ymwelydd iechyd) yn 2014.
Mae ei phrofiad mewn nyrsio yn bennaf o fewn y lleoliad Damweiniau ac Achosion Brys a meddygaeth acíwt ac mae wedi gweithio mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn y DU ac Awstralia. Yn 2014 bu’n gweithio fel ymwelydd iechyd am gyfnod byr cyn dychwelyd i weithio ym maes nyrsio Damweiniau ac Achosion Brys ochr yn ochr ag astudio PhD mewn iechyd y cyhoedd a ddyfarnwyd yn 2020. Ei PhD oedd ‘The SHIFT study: exploring the role of a baby-led feeding approach on infant growth - implications for childhood obesity.’ Mae hi'n parhau i wneud ymchwil ym maes bwydo babanod ac iechyd mamau.
Mae ganddi hefyd ddiddordeb mewn iechyd cyhoeddus byd-eang ac mae wedi gwirfoddoli fel arbenigwr bwydo babanod mewn cymunedau mudol a’r rheiny sydd wedi eu dadleoli.
Mae Sara yn athrawes ioga gymwysedig ac yn addysgu gyda'r hwyr ac ar benwythnosau.