Dr Thomas Lewis

Darlithydd Diwydiannol, Materials Science and Engineering

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 295600

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
A201
Ail lawr
Adeilad Dwyreinol Peirianneg
Campws y Bae

Trosolwg

Dechreuodd Dr Thomas Lewis (EngD) AIMMM ei daith ym Mhrifysgol Abertawe drwy ymgymryd â gradd BEng (Anrh) mewn Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg. Ar ôl graddio, aeth ymlaen yn gyflym i'r rhaglen Doethuriaeth Peirianneg (EngD) mewn Peirianneg Deunyddiau; gyda Tata Steel yn noddwr diwydiannol, canolbwyntiodd ei ymchwil ar ehangu'r ddealltwriaeth o genhedlaeth newydd o aloeon galfanedig masnachol a'u datblygu.

Symudodd Tom ymlaen am gyfnod i weithio gyda Phrifysgol Abertawe a Tata Steel, wrth gefnogi'r broses o greu a sefydlu'r Sefydliad Dur a Metelau fel y'i gelwir bellach, cyfleuster mynediad agored ar gyfer arloesi yng nghanol Campws Parc Singleton Abertawe.

Gan ddychwelyd i faes ymchwil fel Swyddog Ymchwil Ôl-ddoethurol, newidiodd ei bwyslais yn ôl i wyddor gyrydu. Yn ogystal â chynorthwyo ymchwil EngD a graddau Meistr, rhoddodd ei sylw ar ddau brif faes. Yn gyntaf, atalyddion cyrydu amgen a gwyrddach yn lle cemegau confensiynol sy'n cael effeithiau niweidiol ar bobl a'r hyn sy’n eu cynnal – yr amgylchedd! Yn fwy penodol, defnyddio cyfansoddion a allai gael ail fywyd yn hytrach na chael eu trin fel cynnyrch gwastraff, o sectorau megis y diwydiant bwyd – gan gynnwys pethau fel te gwyrdd. Yn ail, datblygu aloeon sinc drwy addasu cemegau a phriodweddau microadeileddol i wella ymwrthedd hollbwysig i gyrydu. Gellid dadlau y bydd aloi sy'n meddu ar fwy o ymwrthedd i gyrydu'n gwneud y buddsoddiad mewn ynni (meddyliwch am allyriadau carbon) drwy ddeunyddiau crai, cynhyrchu, prosesu a gosod, yn fwy gwerthfawr o safbwyntiau amgylcheddol ac economaidd.

Meysydd Arbenigedd

  • Caenau diwydiannol gweithredol
  • Cyrydu lleol
  • Caenau metelig
  • Aloeon galfanedig
  • Atalyddion cyrydu
  • Electrogemeg
  • Dadansoddi data
  • Meteleg