Trosolwg
Mae Vanessa yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig sydd wedi gweithio gydag unigolion a'u cefnogi ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Mae wedi ymgymryd â nifer o rolau o fewn asiantaethau statudol a bu'n ofalwr maeth am bum mlynedd. Yn ystod ychydig flynyddoedd olaf ei gyrfa yn y gwasanaethau statudol roedd Vanessa yn swyddog datblygu staff a gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau plant a mentor gwaith cymdeithasol yn datblygu rhaglen blwyddyn gyntaf o ymarfer ar gyfer gweithwyr cymdeithasol a oedd newydd gymhwyso. Dyma lle wnaeth ei hangerdd a’i chariad at addysgu ddechrau.