Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Lled-ddargludyddion

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi prosiect newydd gwerth £1.3 miliwn i ddatblygu technolegau proses ar gyfer llu o gymwysiadau o geir awtonomaidd, i ddyfeisiau newydd ar gyfer ynni glân, symudedd yn y dyfodol, deallusrwydd artiffisial, biosynwyryddion a synwyryddion y gellir eu gwisgo a phecynnu uwch.

Mae prosiect ASSET (Technoleg Ysgythru Lled-ddargludyddion Penodol i Gymwysiadau) wedi'i ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) ac mae'n cael ei ariannu gan raglen Arbenigedd Clyfar Llywodraeth Cymru a’i yrru'n ddiwydiannol. Dyma brosiect ar y cyd â phartneriaid ar draws de Cymru gan gynnwys:

  • SPTS Technologies
  • IQE
  • Compound Semiconductor Centre (CSC)
  • Biovici
  • BioMEMS
  • Prifysgolion Abertawe a Chaerdydd
  • Integrated Compound Semiconductors Ltd (Manceinion)

Mae partneriaid diwydiannol ASSET yn cyflwyno technolegau sy'n arwain y byd ac sy'n cael eu cynnwys bron ym mhob prif ffôn clyfar yn y byd. Drwy ddatblygu llu o dechnolegau prosesu lled-ddargludyddion newydd, bydd ASSET yn datblygu'r technolegau hyn ar gyfer Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a deunyddiau lled-ddargludyddion y genhedlaeth nesaf, i wasanaethu cymwysiadau newydd ym meysydd synhwyro cerbydau modur, 5G, Ffotoneg a gofal iechyd.

Mae prosiect ASSET yn dilyn y cyhoeddiad diweddar bod Canolfan Deunyddiau Lled-ddargludydd Integreiddiol, sef cyfleuster lled-ddargludyddion newydd sbon, gwerth £90 miliwn, yn cael ei hadeiladu yn Abertawe.

Meddai'r Athro Owen Guy, pennaeth cemeg Prifysgol Abertawe ac arweinydd y prosiect ASSET: "Mae'r prosiect ASSET yn enghraifft arall o Glwstwr Lled-ddargludyddion de Cymru'n gweithio gyda'i gilydd i gyflwyno technoleg o'r radd flaenaf ac i ysgogi twf economaidd i Gymru."

Ychwanegodd Kevin Crofton, Llywydd SPTS Technologies: "Mae prosiect ASSET yn rhoi'r gallu i'r consortiwm weithio gyda chadwyn gyflenwi gwneuthuredig helaeth yn y rhanbarth er mwyn ehangu ein gallu ymhellach a manteisio ar gyfleoedd newydd a chyffrous yn y farchnad.”

Ychwanegodd Wyn Meredith o CSC: "Mae diwydiant lled-ddargludyddion de Cymru'n cyflogi dros 1400 o bobl hynod fedrus yn y rhanbarth ac mae disgwyl iddo ehangu'r gyflym dros y 5 mlynedd nesaf gyda datblygiad 5G, deallusrwydd artiffisial a thueddiadau mawr eraill mewn marchnadoedd. Bydd ASSET yn cefnogi'r datblygiadau hyn drwy ddatblygu amrywiaeth o brosesau lled-ddargludyddion uwch ac arbenigedd i oresgyn yr heriau technegol a diwydiannol."

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu rhagor am y technolegau sy’n cael eu datblygu gan brosiect ASSET, ebostiwch Owen Guy

Rhannu'r stori