Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Arwydd toiled yn y maes awyr

Mae ymchwilwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol yn Abertawe wedi datgelu y gall gwerth y mae menywod yn rhoi ar eu hiechyd gael effaith uniongyrchol ar lwyddiant triniaeth feddygol ar gyfer problemau llawr y pelfis.

Effeithia camweithrediad llawr y pelfis ar fwy na chwarter holl ferched y DU. Gall gynnwys anymataliaeth a chwymp y groth, a gellir ei drin trwy ffisiotherapi. 

Er hynny, yn dilyn yr ymchwil a wnaed gan Brifysgol Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, nid oes llawer o fenywod yn rhoi eu hiechyd eu hunain yn gyntaf. O ganlyniad, nid ydynt yn elwa o'r driniaeth ac yn y pen draw mae'n rhaid iddynt gael ymyrraeth lawfeddygol. 

Cynhaliodd yr Athro Phil Reed ynghyd â gweithwyr iechyd proffesiynol, astudiaeth o 218 o ferched a atgyfeiriwyd am ffisiotherapi i drin eu camweithrediad llawr y pelfis. 

Fe wnaeth yr ymchwilwyr ddarganfod cryfder y gwerthoedd cysylltiedig ag iechyd menywod a ragfynegodd eu presenoldeb, ond dim ond y cleifion hynny a oedd yn gwerthfawrogi iechyd drostynt eu hunain - yn hytrach nag oherwydd yr hyn yr oedd yn caniatáu iddynt ei wneud i eraill - a ddangosodd welliant. 

Dywedodd yr Athro Reed: “Nid yw’r ffaith bod dal gwerthoedd iechyd cryf yn rhagfynegydd pwysig o bresenoldeb mewn triniaeth yn syndod ond dengys y data bod llawer o ferched yn gosod yr agwedd hon ar eu bywyd yn is na llawer o feysydd eraill - ac mae angen i ni helpu i’w grymuso i werthfawrogi eu hiechyd eu hunain.” 

Mae gwerthoedd iechyd yn dylanwadu ar ganlyniadau mewn sawl cyd-destun gofal iechyd, ond nid oedd effaith y gwerthoedd hyn ar ffisiotherapi yn hysbys o'r blaen.

Cymhelliant y tîm wrth gynnal yr astudiaeth oedd sicrhau gwell dealltwriaeth o farn cleifion a'r mathau o bethau y maent yn eu hystyried yn bwysig, er mwyn datblygu cefnogaeth briodol i fenywod sy'n cael PFMT ac i wella canlyniadau triniaeth a phresenoldeb. 

Mae camweithrediad llawr y pelfis yn achosi gostyngiadau sylweddol yn ansawdd bywyd menywod ac yn effeithio ar allu i weithio, yn ogystal â chynnwys costau sylweddol i'r GIG. Mae hyfforddiant cyhyrau llawr y pelfis (PRMT) yn effeithiol, yn ddiogel ac yn gost-effeithlon o'i gymharu â thriniaethau amgen fel llawfeddygaeth. Er hynny, mae llawer o ffactorau seicolegol yn gysylltiedig â'i ganlyniad a chydymffurfiad cleifion i driniaeth.

Un o oblygiadau'r canfyddiadau newydd hyn yw y gallai cefnogi cleifion i ddatblygu'r mathau o werthoedd iechyd sy'n helpu canlyniadau gwell wella eu presenoldeb mewn sesiynau PFMT. Gall eu helpu i adfer eu swyddogaeth llawr y pelfis heb fod angen llawdriniaethau. 

Ychwanegodd yr Athro Reed: “Gall triniaeth ffisiotherapi ar gyfer y broblem gyffredin iawn hon fod mor effeithiol a diogel i’r cleifion, ac mae’n bwysig iawn bod anghenion y merched sy’n mynychu yn cael eu cydnabod a’u cefnogi’n llawn. 

“Os gwnawn hynny, yna byddwn yn gwella presenoldeb a chanlyniadau i’r cleifion hyn, ac yn eu hatal rhag gorfod mynd am lawdriniaethau. BYdd hefyd â budd o arbed arian mawr sydd ei angen ar GIG, ac yna gellir ei ddefnyddio wedyn i helpu cleifion eraill.” 

Mae'r tîm eisoes wedi dangos bod cefnogi cymhelliant menywod i fynychu PFMT trwy sesiynau byr mewn grŵp yn gwella presenoldeb oddeutu 60 y cant. Dywed y bydd y canfyddiadau cyfredol yn helpu i deilwra'r gefnogaeth hon i anghenion y menywod hyd yn oed yn agosach. 

Bwriad fideo animeiddio byr a ddatblygwyd gan Clare Lehane, Swyddog Cymorth Effaith yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd y Brifysgol yw darlunio canfyddiadau'r ymchwil a helpu cleifion a gweithwyr iechyd proffesiynol i fynd i'r afael â'r mater. 

Cafodd yr astudiaeth ei harwain gan Dr Lisa A Osborne, seicolegydd ymchwil, C Mair Whittall, arbenigwr ffisiotherapi clinigol ym maes iechyd menywod, Hannah Hanratty, uwch ffisiotherapydd ym maes iechyd menywod, yr Athro Simon Emery, gynaecolegydd / wrogynaecolegydd ymgynghorol, pob un o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a'r Athro Phil Reed, Cadeirydd Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe.

Rhannu'r stori