Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Mae cyn-ddibynnwr cyffuriau a newidiodd ei bywyd wedi graddio o Brifysgol Abertawe ac wedi dod yn nyrs er mwyn helpu eraill.
Dechreuodd Joanne Hill, sy'n 42 oed ac yn dod o Borth Tywyn yn ne Cymru, gymryd cyffuriau yn 15 oed pan oedd mewn perthynas a drodd yn dreisgar, a daeth yn gaeth iddynt.
Gwaethygodd y sefyllfa pan rhoddwyd ei ddau fab, Callum a Kian, yng ngofal eu mam-gu a thad-cu, wrth i'w dibyniaeth at heroin waethygu.
Yna daeth yn agos at golli'i bywyd ar ôl i gyfnod arall o ddefnyddio cyffuriau arwain at gael ei derbyn i'r ysbyty ag endocarditis ym Medi 2012.
"Pan oeddwn yn chwistrellu heroin, do'n i ddim yn poeni am fyw neu farw," dywedodd. "Pe bawn i heb fynd i'r ysbyty, bydden i wedi marw.
"Gwelais y goleuni bryd hynny. Roedd rhaid i mi benderfynu cario ymlaen i fod yn gaeth i gyffuriau neu farw yn gaeth i gyffuriau? Neu a oeddwn eisiau gweithio a newid fy mywyd?
"Collais ffrindiau, collais fy mherthynas â'm teulu - fy mam a'm tad - collais fy mechgyn. Doedd gen i ddim gobaith y byddai pethau'n newid, a roeddwn yn siŵr y buaswn yn marw yn gaeth i gyffuriau."
Fodd bynnag, gwaeth cyfarfod â nyrs arbennig, penderfynodd Joanne newid ei bywyd a dechrau'r daith i wella, a dechrau gyrfa mewn nyrsio.
Un diwrnod, eisteddodd nyrs o'r enw Vanessa i siarad â mi, a chafodd effaith go iawn ar fy mywyd. . “Anogodd i mi fynd i ganolfan adfer, a gwnaeth i mi eisiau bod yn nyrs. Roeddwn eisiau cael yr un effaith ar fywydau pobl eraill.
"Pe bai hi heb dreulio'r amser hwn gyda mi, pan oeddwn yn teimlo nad oeddwn yn ei haeddu hi, buaswn siŵr o fod wedi gadael yr ysbyty a mynd yn ôl i'r bywyd yr oeddwn yn ei fyw o'r blaen."
Wedi 19 mis mewn canolfan adfer – ar y cyd â'm ffydd gristnogol – gwellodd Joanne a throdd ei bywyd o gwmpas.
Treuliodd amser yn gwirfoddoli gyda Sands Cymru cyn dechrau gradd Nyrsio Oedolion tair blynedd ym Mhrifysgol Abertawe, lle enillodd anrhydedd dosbarth cyntaf.
Nawr mae'n gweithio fel nyrs staff yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli, ac mae'i dau fab yn byw gyda hi eto.
"Mae'n deimlad enfawr o gyflawniad," meddai Joanne. Petaech wedi dweud wrthyf wyth mlynedd yn ôl y byddwn astudio gradd mewn nyrsio, bydd dy fechgyn yn byw gyda thi eto, buaswn wedi chwerthin oherwydd cyflwr fy mywyd ar y pryd. Ni allwn fyth fod wedi dychmygu'r fath beth.
"OS ydych yn wirioneddol eisiau rhywbeth a throi eich bywyd o gwmpas, stopiwch ddefnyddio cyffuriau, yna gyda gwaith caled a phenderfyniad mae unrhyw beth yn bosib. Mae wir yn fraint cael bod yn nyrs.
"O'r blaen, ni allen gerdded mewn i ddosbarth yn llawn pobl am fy mod yn llawn euogrwydd a chywilydd, ond mae fy mywyd yn gwbl wahanol nawr.
“Roeddwn ar fy isaf, ac roeddwn am fod yno i bobl eraill ar eu hisaf. Nyrsio yw'r proffesiwn perffaith ar gyfer hynny.”