Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Heddiw cyhoeddir llyfr testun newydd gyda'r bwriad o gefnogi'r proffesiwn meddygol i roi arweiniad cywir a diweddar ar fwydo ar y fron.
Golygwyd ‘A guide to supporting breastfeeding for the medical profession’ ar y cyd gan arbenigwyr blaenllaw ym maes bwydo ar y fron sef yr Athro Amy Brown, Cyfarwyddwr y Ganolfan Llaetha, Bwydo Babanod a Chyfieithu ym Mhrifysgol Abertawe a Dr Wendy Jones, cefnogwr bwydo ar y fron a fferyllydd sydd â diddordeb arbennig mewn cymaroldeb cyffuriau mewn llaeth y fron.
Mae'n dwyn ynghyd ymchwilwyr blaenllaw, meddygon ac arbenigwyr bwydo ar y fron o bob rhan o'r DU i greu canllaw cyfoes ar gefnogi bwydo ar y fron i'r rheini sy'n gweithio mewn ysbytai, clinigau arbenigol ac ymarfer cyffredinol.
Dywedodd yr Athro Amy Brown: “Mae meddygon yn chwarae rhan hanfodol bwysig wrth gefnogi bwydo ar y fron. Efallai y byddan nhw'n gweld menywod sy'n bwydo ar y fron yn eu hymarfer neu'n rhan o dîm yn cynghori ar ofal mam neu fabi. Mae sicrhau bod ganddynt y wybodaeth a'r ymwybyddiaeth fwyaf diweddar o bwysigrwydd llaeth y fron i'r plentyn a'r hyn y gall bwydo ar y fron ei olygu i fenywod yn allweddol, ond yn aml nid oes gan raglenni meddygol lawer o gynnwys sy'n canolbwyntio ar y maes pwysigrwydd hwn o faeth a lles.
“Yn anffodus, mae gormod o fenywod yn disgyn drwy’r bylchau, gan dderbyn gwybodaeth feddygol anghywir sy’n eu hatal rhag bwydo ar y fron yn gynt nag yr oeddent yn dymuno pan allent yn y rhan fwyaf o achosion barhau. Gobeithiwn y bydd y llyfr hwn yn chwarae rhan bwysig wrth helpu i gynyddu cyfraddau bwydo ar y fron y DU. Golyga hyn y gall mwy o fabanod dderbyn llaeth y fron am gyfnod hirach a gall mwy o famau roi'r gorau i fwydo ar y fron pan fyddant yn teimlo'n barod yn hytrach nag oherwydd mater meddygol. "
Esboniodd Dr Wendy Jones “Yn fy rôl fel fferyllydd ar y Rhwydweithiau o Gyffuriau wrth Fwydo ar y Fron mewn gwasanaeth llaeth y fron, byddaf yn derbyn ymholiadau yn rheolaidd gan famau a gweithwyr iechyd proffesiynol ynghylch a yw rhai meddyginiaethau neu weithdrefnau meddygol yn gydnaws â bwydo ar y fron. Coda’r un ymholiadau dro ar ôl tro, gan awgrymu bod angen mwy o ymwybyddiaeth gyffredinol yn benodol ynghylch trosglwyddo meddyginiaethau i laeth y fron ac unrhyw effeithiau posibl. Ar gyfer mwyafrif y meddyginiaethau a'r gweithdrefnau, gall menywod barhau i fwydo ar y fron ac mae angen i'r wybodaeth hon fod yn fwy eang.
“Fe wnaethon lunio’r llyfr testun hwn gyda meddygon prysur mewn golwg. Mae gan bob pennod negeseuon allweddol ar gyfer ymarferwyr nad oes ganddynt lawer o amser o bosibl i ddarllen gwybodaeth fanwl neu sydd angen gwybod a yw cyffur yn cael ei wrthgymeradwyo'n gyflym. Wedi'i ysgrifennu gan arbenigwyr blaenllaw yn y maes gan gynnwys meddygon teulu, pediatryddon, neonatolegwyr, arbenigwyr llaetha a bydwragedd, bydd y canllaw hwn yn amhrisiadwy wrth alluogi mwy o feddygon i gefnogi mwy o fenywod i barhau i fwydo ar y fron am gyfnod hirach."
Aiff pob breindal o werthiant y llyfr tuag at yr Human Milk Foundation, elusen sy'n anelu at gynyddu nifer y teuluoedd sy'n gallu cael gafael ar laeth rhoddwr pan fydd eu babi yn sâl neu'n gynamserol, neu pan na all y fam fwydo ar y fron am resymau fel triniaeth ganser neu wedi cael mastectomi. Defnyddir yr arian ar gyfer prosiectau fel cefnogi meddygon a myfyrwyr i gael mynediad at hyfforddiant pellach a chynyddu hyfforddiant cwnselwyr bwydo ar y fron a chefnogwyr cymheiriaid yn enwedig gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y maes ar hyn o bryd.
Mae A guide to supporting breastfeeding for the medical profession yn y siopau nawr, a gyhoeddwyd gan Routledge.