Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wrthi'n datblygu'r ddyfais glyfar gyntaf a fydd yn cyflwyno brechlyn COVID-19 ac yn mesur ei effeithiolrwydd drwy fonitro ymateb cysylltiedig y corff.
Bydd gwaith ymchwil y Sefydliad Deunyddiau, Prosesu a Thechnolegau Rhifyddol Arloesol (IMPACT) yn cynhyrchu'r brechlyn drwy ddefnyddio micronodwyddau i greu clwtyn clyfar. Bydd y ddyfais yn mesur ymateb llidiol claf i'r brechiad drwy fonitro bioddangosyddion yn y croen ar yr un pryd.
Mae micronodwyddau'n fân nodwyddau – caiff eu blaenau eu mesur mewn micrometrau – a ddylunnir i dorri'r croen a chyflwyno meddyginiaethau mewn modd sy'n tarfu cyn lleied â phosib ar y claf. Mae'r clwtyn nicotin trawsdermig sy'n cyflwyno nicotin drwy'r croen i helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu yn enghraifft berffaith.
Mae micronodwyddau'n darparu dull diogel ac effeithiol o gyflwyno brechlynnau ac, ymysg eu manteision ychwanegol, nid oes angen eu rhoi mewn dosau mawr. Felly, gellir eu cynhyrchu'n rhad, a'u dosbarthu a'u rhoi mewn modd syml. Mae'n hawdd gosod clwtyn micronodwyddau mewn modd sy'n tarfu cyn lleied â phosib ar y claf – ar y cyd â'r gallu arfaethedig i fesur effeithiolrwydd y brechlyn, byddai'r system newydd hon yn hwyluso dull personol o roi brechiadau.
Meddai arweinydd y prosiect, Dr Sanjiv Sharma:
“Mae mesur effeithiolrwydd brechlyn yn hynod bwysig gan fod hynny'n nodi effeithiau amddiffynnol brechiad ar unigolyn drwy gymharu lefel y risg i rywun sydd wedi cael ei frechu â lefel y risg i unigolyn agored i niwed sydd heb gael ei frechu. Byddai mesur effeithiolrwydd brechiad yn ymdrin ag angen clinigol nas diwallwyd ac yn cynnig dull arloesol o ddatblygu brechlyn.”
Caiff y prosiect, sef Dyfeisiau clyfar ar gyfer cyflwyno brechlyn Covid-19, ei arwain gan dîm o ymchwilwyr sy'n arbenigo yn y defnydd o ficronodwyddau er mwyn cyflwyno cyffuriau therapiwtig trawsdermig ac at ddibenion diagnostig. Bydd y tîm yn adeiladu ar y technolegau gwahanol hyn drwy ddatblygu'r clwtyn clyfar deuddiben cyntaf ar gyfer Covid-19 sy'n seiliedig ar ficronodwyddau, a fydd yn gallu cyflwyno brechlyn a mesur yr ymateb imiwnyddol ar ffurf bioddangosyddion protein a fydd yn cadarnhau effeithiolrwydd y brechiad.
Ychwanega Dr Sharma:
“Mae defnyddio micronodwyddau i gyflwyno brechlyn drwy'r croen wedi cael ei ddisgrifio fel dull brechu gwell oherwydd y posibilrwydd o oresgyn goddefiad imiwnyddol yn ystod beichiogrwydd, a chostau brechu is drwy beidio â gwastraffu antigenau, sy'n arbennig o berthnasol mewn gwledydd difreintiedig.
“Prif nod y prosiect hwn yw creu prototeip dyfais glyfar a all gyflwyno’r brechlyn ar gyfer COVID-19 drwy'r croen, yn ogystal â monitro bioddangosyddion yn y croen mewn modd sy'n tarfu cyn lleied â phosib ar y claf, gan gynnig gwybodaeth amser real am effeithiolrwydd y brechiad. Byddai'r dull newydd yn newid y modd y caiff effeithiolrwydd brechlyn ei brofi o fod yn asesiad ystadegol i fod yn fesuriad gwyddonol o ymateb llidiol claf i frechiad.
“Bydd natur amser real y cyfrwng yn cyflwyno canlyniadau cyflym, gan arwain at gyfyngu ar feirws COVID-19 yn gyflymach. Bydd y ddyfais rad hon ar gyfer cyflwyno'r brechlyn yn sicrhau y caiff pobl ddychwelyd i'r gwaith yn ddiogel, yn ogystal â rheoli argyfyngau COVID-19 yn y dyfodol. Y tu hwnt i'r pandemig, gellid ehangu cwmpas y gwaith hwn i fod yn berthnasol i glefydau heintus eraill gan fod natur y cyfrwng yn golygu bod modd ei addasu'n gyflym i glefydau heintus gwahanol.
“Ar hyn o bryd, rydym yn paratoi'r cyfrwng yn y gobaith o gynnal astudiaethau clinigol ar bobl o ddulliau cyflwyno trawsdermig ar y cyd â'n partneriaid presennol yng Ngholeg Imperial Llundain, wrth baratoi at ei roi ar waith.”
Mae tîm dan arweiniad yr Athro Nikolaj Gadegaard o Ysgol Peirianneg James Watt Prifysgol Glasgow wedi datblygu proses chwistrellu mowldin sy'n golygu y gellir cynhyrchu'r clytiau clyfar sy'n seiliedig ar ficronodwyddau ar raddfa fawr. Gwnaed oddeutu 5,000 o glytiau eisoes er mwyn helpu i gefnogi gwaith ymchwil Dr Sharma a disgwylir cynhyrchu miloedd yn rhagor i hwyluso'r astudiaethau clinigol.
Ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cymru drwy'r rhaglen ariannu Sêr Cymru. Ariennir gweithrediad IMPACT yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru a Phrifysgol Abertawe.
Arloesi ym maes iechyd - ymchwil Abertawe