Mae athro o Brifysgol Abertawe wedi cyfrannu at waith ymchwil sy'n dangos bod iechyd meddwl un o bob naw oedolyn wedi bod yn wael iawn yn rheolaidd neu wedi dirywio yn ystod chwe mis cyntaf pandemig Covid-19.
Effeithiwyd fwyaf ar y rhai sy'n byw yn y cymdogaethau mwyaf difreintiedig, ynghyd â grwpiau lleiafrifoedd ethnig, yn ôl y tîm, a oedd yn cynnwys yr Athro Ann John o Brifysgol Abertawe ac academyddion o Brifysgol Manceinion, Coleg y Brenin Llundain, Prifysgol Caergrawnt a Phrifysgol Dinas Llundain.
Fodd bynnag, roedd dau o bob tri oedolyn mewn grwpiau nad effeithiodd y pandemig yn sylweddol ar eu hiechyd meddwl, yn ôl yr astudiaeth a gyhoeddwyd yn The Lancet Psychiatry.
Gwnaeth y tîm ddadansoddi arolygon misol rhwng mis Ebrill a mis Hydref 2020 o 19,763 o oedolion er mwyn nodi patrymau nodweddiadol newidiadau o ran iechyd meddwl, gan ddatgelu pum grŵp amlwg.
Roedd y bobl yn y grwpiau nas effeithiwyd arnynt yn fwy tebygol o fod yn hŷn, yn wyn ac yn byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig, ac roedd iechyd meddwl dynion yn benodol yn debygol o fod yn dda fel rheol. Yn ôl yr ymchwil:
- Roedd 12% o'r sampl yn cynnwys grŵp o bobl y gwnaeth eu hiechyd meddwl ddirywio ar ddechrau'r pandemig cyn gwella dros yr haf. Roedd menywod a rhieni plant oed ysgol yn arbennig o debygol o fod yn rhan o'r grŵp hwn, a gwnaeth eu hiechyd meddwl wella'n sylweddol ar yr adeg pan ailagorodd yr ysgolion.
- Gwnaeth iechyd meddwl 7% o'r sampl ddirywio'n barhaus.
- Roedd iechyd meddwl 4% o'r sampl yn wael iawn fel rheol drwy gydol y cyfnod.
Roedd y grwpiau o bobl y gwnaeth eu hiechyd meddwl ddirywio'n barhaus neu yr oedd eu hiechyd meddwl yn wael iawn fel rheol yn fwy tebygol o ddioddef o gyflyrau meddyliol neu gorfforol eisoes. Roeddent hefyd yn fwy tebygol o fod yn Asiaidd, yn ddu neu o ethnigrwydd cymysg ac o fyw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.
Daeth yr ymchwilwyr i'r casgliad hefyd fod dioddef o haint Covid-19, cyfyngiadau symud lleol ac anawsterau ariannol i gyd yn arwyddion a allai ragfynegi dirywiad mewn iechyd meddwl maes o law.
Gwnaeth y tîm ymchwil ddadansoddi'r UK Household Longitudinal Study gan Brifysgol Essex a'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.
Dr Matthias Pierce, cymrawd ymchwil o Ganolfan Iechyd Meddwl Menywod Prifysgol Manceinion, yw'r prif awdur.
Meddai: “Mae'n amlwg o'r astudiaeth hon fod y pandemig wedi cael effaith anghymesur ar iechyd meddwl grwpiau lleiafrifoedd ethnig, pobl sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig, pobl sy'n wynebu anawsterau ariannol a phobl a oedd eisoes yn dioddef o iechyd meddwl gwael.
“Ond rydym hefyd wedi gweld bod cyfran fawr o'r boblogaeth wedi gallu gwrthsefyll effeithiau'r pandemig.”
Ychwanegodd: “Mae'r data a ddefnyddiwyd gennym yn rhagori ar arolygon eraill gan fod yr UK Household Longitudinal Study yn defnyddio sampl o safon uchel wedi'i dewis ar hap sy'n nodweddiadol ac sy'n cynnwys grwpiau megis pobl heb adnoddau digidol na fyddent wedi cymryd rhan o bosib fel arall.
“Yn aml, nid yw arolygon eraill, yn enwedig y rhai sy'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, yn nodweddiadol a gall eu canlyniadau fod yn annibynadwy.”
Meddai un o'r cyd-awduron, yr Athro Ann John, o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: “Er ei bod hi'n galonogol bod dau o bob tri oedolyn wedi gallu gwrthsefyll effeithiau'r pandemig, a'r mesurau a gymerwyd i'w atal rhag lledaenu, ar iechyd meddwl i raddau helaeth, mae ein hastudiaeth yn tanlinellu unwaith eto anghydraddoldebau iechyd ein cymdeithas. Roedd iechyd meddwl y rhai a oedd eisoes yn dioddef o gyflyrau meddyliol neu gorfforol, y rhai sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a lleiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o ddirywio'n barhaus neu fod yn wael iawn fel rheol.”
Ychwanegodd: “Er bod dychwelyd i'r hen drefn yn destun cryn drafod, mae'n allweddol ein bod yn cydnabod y gwahaniaethau hyn ac yn mynd i'r afael yn briodol â'r rhesymau sylfaenol cymhleth drostynt, ni waeth a ydynt yn gysylltiedig â thlodi, gwahaniaethu, mynediad at wasanaethau, cyflogaeth neu bethau ehangach sy'n effeithio ar iechyd.”