Mae Pennaeth Prifysgol Abertawe wedi rhybuddio bod dyfodol y sector ymchwil ac arloesi yng Nghymru – gan gynnwys mwy na 240 o swyddi medrus iawn ym Mhrifysgol Abertawe, mewn meysydd hollbwysig o ynni glân i ymchwil feddygol – yn y fantol yn ystod yr wythnosau nesaf, oni bai bod Llywodraeth y DU yn cymryd camau ar unwaith i wneud iawn am golli cyllid yr Undeb Ewropeaidd (UE).
Gan ddweud bod y sefyllfa “ar drothwy trychineb” i Abertawe, Cymru a'r DU yn ehangach, anogodd yr Is-ganghellor, yr Athro Paul Boyle, Lywodraeth y DU i gymryd camau ar frys a darparu rhwyd ddiogelwch, ar ffurf cyllid pontio uniongyrchol.
Eleni, yn dilyn ymadawiad y DU o'r UE, daw mynediad y DU at lawer o raglenni cyllid mawr yr Undeb Ewropeaidd i ben.
Mae oddeutu 60 o brosiectau ymchwil aml-bartner ar raddfa fawr yng Nghymru yn y fantol. Ym Mhrifysgol Abertawe, mae hyn yn cynnwys:
• SPECIFIC, arloeswyr ynni glân a enillodd Wobr Pen-blwydd y Frenhines am Arloesedd yn ddiweddar;
• CALIN, rhwydwaith y gwyddorau bywyd sy'n ymchwilio i feysydd megis dulliau newydd o drin clefydau;
• Canolfan Ragoriaeth ASTUTE, sy'n cydweithredu â'r diwydiant gweithgynhyrchu i hybu cynhyrchiant a thwf drwy roi technolegau peirianneg uwch ar waith.
Dros y degawd diwethaf, mae Prifysgol Abertawe wedi denu buddsoddiad sylweddol gan yr UE, at ddibenion ymchwil ac arloesi ar raddfa ac i gefnogi datblygiadau mawr, megis Campws y Bae, a oedd yn werth £450m.
Erbyn 2025, mae Llywodraeth y DU wedi addo dyfarnu cyllid newydd gwerth £2.6 biliwn drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF), a gaiff ei gweinyddu gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, dan arweiniad Michael Gove.
Fodd bynnag, mae'r mecanwaith ar gyfer dosbarthu'r cyllid hwn yn lleol yn ei gwneud hi bron yn amhosibl sicrhau arian ar gyfer cydweithio ar raddfa fawr ar draws rhanbarthau a ledled Cymru. Nid oes cyllid newydd a fydd yn cefnogi'r ymagwedd gydweithredol at ymchwil ac arloesi sydd wedi galluogi Cymru i ragori ar ddisgwyliadau o ran effaith ymchwil yn y gorffennol.
Rhybuddiodd Universities UK, sy'n cynrychioli prifysgolion ledled y wlad, yn ddiweddar y bydd swyddi, pobl dalentog a gwybodaeth yn cael eu colli ledled y DU, yn enwedig yn y rhanbarthau hynny sy'n cael eu blaenoriaethu dan agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, os na cheir cyllid pontio ar frys.
Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe:
“Rydyn ni ar drothwy trychineb o ran ymchwil ac arloesi yng Nghymru, a Llywodraeth y DU yn unig sy'n gallu atal hyn bellach.
“Ymhen ychydig wythnosau, byddwn ni'n dechrau gweld cyllid yr UE yn dod i ben ar gyfer llawer o brosiectau ymchwil mawr, a fydd yn effeithio ar swyddi, pobl dalentog, a gallu lleol o ran arloesi a sgiliau. Ac er bod y mater hwn yn ymwneud â'r DU yn ei chyfanrwydd, bydd yr effaith ar Abertawe a Chymru'n arbennig o ddifrifol.
“Mae'n destun pryder mawr i ni fod swyddi cynifer o gydweithwyr dan fygythiad. Yn ehangach, bydd cau'r prosiectau hyn yn niweidio sector ymchwil ac arloesi Cymru mewn modd difrifol na fydd yn bosibl ei adfer. Mae'r sector hwn wedi rhagori ar ddisgwyliadau o ganlyniad i'n hymagwedd gydweithredol rhwng rhanbarthau a ledled Cymru.
“Mae llawer o'r prosiectau sydd mewn perygl hefyd yn darparu hyfforddiant sgiliau o safon uchel i fusnesau Cymru. Maen nhw'n annog twf mewn cyflogaeth a chynhyrchiant lleol, sy'n fwy hanfodol byth mewn ardaloedd dan anfantais economaidd yn rhanbarthau Cymru. Yn rhyfedd, maen nhw'n cynnwys gwaith arloesol mewn meysydd arloesi sydd ymysg prif flaenoriaethau Llywodraeth y DU, a hynny'n briodol, megis trawsnewid digidol a'r ymdrech i sicrhau sero net.
“Mae'r holl waith hanfodol hwn yn y fantol. Dyma'r amser i Lywodraeth y DU helpu'r sector i ymateb.”